Skip to main content
Advertisement

Cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn Cymraeg 2026 gyda 12 Llyfr yn Cystadlu

Cyhoeddwyd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn Cymraeg 2026 gyda 12 llyfr mewn pedwar categori. Bydd y seremoni wobrwyo yn Galeri Caernarfon ar 9 Gorffennaf gyda gwobrau ariannol i'r enillwyr.

·4 min read
Y bobl sydd ar y rhestr fer Gymraeg eleni

Cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn Cymraeg 2026

Mae cyfanswm o 12 awdur yn cystadlu mewn pedwar categori gwahanol ar gyfer Gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2026, a gyhoeddwyd gan Lenyddiaeth Cymru.

Mae'r rhestr fer yn cynnwys llyfrau sy'n cystadlu am y Wobr Ffuglen, Gwobr Farddoniaeth, Gwobr Ffeithiol Greadigol a Gwobr Plant a Phobl Ifanc.

Cafodd y rhestr ei chyhoeddi gan y beirniaid ar raglen arbennig Llyfr y Flwyddyn 2026 ar BBC Radio Cymru brynhawn Sul, gyda Nest Jenkins yn cyflwyno.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon ar nos Iau, 9 Gorffennaf, gyda gwobr o £1,000 i bob enillydd categori a £3,000 ychwanegol ar gyfer y brif wobr.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004.

3 llyfr
Disgrifiad o’r llun, Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004

Beirniaid y cystadlaethau Cymraeg eleni yw'r Prifardd a'r awdur Ifor ap Glyn, Yr Athro Gwenno Ffrancon, yr awdur a'r golygydd Dr Sioned Puw Rowlands, a'r cyflwynydd Dafydd Lennon.

Ad (425x293)
"Bu'n fwynhad pur darllen y gweithiau ffuglen Cymraeg a gyhoeddwyd eleni a phwyso a mesur yr amrywiaeth eang o gyfrolau a ddaeth i law," meddai Gwenno Ffrancon ar ran y panel Cymraeg.
"Gyda'r byd yn gwallgofi bron yn ddyddiol, roedd hi'n hyfryd cael dianc i fydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd a mwynhau doniau a ffrwyth dychymyg yr awduron."

Bydd yr awduron llwyddiannus yn derbyn tlysau Llyfr y Flwyddyn hefyd, wedi'u dylunio gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Mae cyfle i ddarllenwyr fynegi barn, gan fod Golwg360 a Nation Cymru yn cynnal pleidleisiau Barn y Bobl a People's Choice ar eu gwefannau. Bydd enillwyr y gwobrau hynny'n cael eu henwi yn y seremoni wobrwyo hefyd.

Rhestr Fer Gymraeg 2026

Gwobr Ffuglen - Noddir gan Cyfrifyddion HSJ

  • Dau, Bethan Nantcyll (Gwasg y Bwthyn)
  • Hiraeth Neifion, Simon Chandler (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Tri, Sonia Edwards (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Farddoniaeth - Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd

  • Trochi, Carwyn Eckley (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Chwarter Eiliad, Jo Heyde (Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol - Noddir gan Stori Cymru

  • Lobsgows – Cariad y Cymry at Fwyd, Ruth Richards (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau 'Atgof' Prosser Rhys, Iestyn Tyne (Gwasg y Bwthyn)
  • Ynysoedd Gobaith – Mentrau a Syniadau Iwtopaidd yng Nghymru'r Ugeinfed Ganrif, Llion Wigley (Gwasg Prifysgol Cymru)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc - Cefnogir gan Gronfa Elw Park-Jones

  • Anfarwol, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
  • Gerwyn Gwrthod a'r Llyfr Does Neb yn Cael Ei Ddarllen, Sion Tomos Owen (Atebol)
  • Y Cae Ras, Manon Steffan Ross (Y Lolfa)
3 clawr llyfr

Dywedodd Claire Furlong, cyfarwyddwr gweithredol Llenyddiaeth Cymru:

"Llongyfarchiadau mawr i'r awduron ar y rhestr fer eleni.
Bu'n flwyddyn ragorol arall i lenyddiaeth Gymraeg a Chymreig, sy'n cael ei adlewyrchu nid yn unig yn y rhestr anhygoel hon, ond hefyd o edrych ar yr holl lyfrau gwych a gyhoeddwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'n rhaid fod y beirniaid wedi cael cyfnodau dwys iawn o grafu pen!
Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ddarganfod eu dewisiadau ac yn cael mwynhad mawr o'r cyfnod rhwng cyhoeddi'r rhestr fer a'r seremoni wobrwyo - amser i ddarllen, trafod a dathlu.
Ewch draw i'ch siop lyfrau neu lyfrgell leol, darganfyddwch y llyfrau rhyfeddol hyn, ac ymunwch â'r sgwrs: beth yw eich Llyfr y Flwyddyn chi yn 2026?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Gwobr Llyfr y Flwyddyn i ddychwelyd i Gaernarfon
  • Hunangofiant 'gonest a phwerus' yn ennill Llyfr y Flwyddyn 2025
  • Dewch i adnabod enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2025
3 clawr llyfr
3 clawr llyfr

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News