Skip to main content
Advertisement

Busnesau Aberystwyth yn pryderu am ffioedd parcio newydd ar y promenâd

Mae busnesau Aberystwyth yn pryderu am ffioedd parcio newydd ar y promenâd sy'n dechrau ddydd Llun, gyda phryderon am effaith ar gwsmeriaid, staff a thwristiaid. Mae'r cyngor yn nodi y bydd y ffioedd yn helpu rheoli galw am barcio, nid yn gynllun gwneud arian.

·7 min read
Llun o bromenad Aberystwyth a Consti yn y cefndir

Promenâd Aberystwyth - lle bydd angen talu i barcio yn ystod y dydd o hyn ymlaen

Mae perchnogion busnesau ger glan môr Aberystwyth yn mynegi pryder ynghylch ffioedd parcio newydd ar y promenâd sy'n dod i rym ddydd Llun.

Bydd y ffioedd, sy'n daladwy rhwng 08:00 a 20:00, yn £3.50 am hyd at ddwy awr a £5 am hyd at bedair awr.

Dywedodd perchnogion busnesau lletygarwch eu bod yn credu y bydd y ffioedd newydd yn effeithio ar westeion, cwsmeriaid a staff a oedd yn gallu parcio ar y promenâd am ddim o'r blaen.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, nod y newid yw helpu i reoli'r "galw mawr iawn am barcio ar lan y môr yn decach", gan bwysleisio nad yw'r ffioedd i fod yn gynllun gwneud arian.

Rhyddhau llefydd parcio ar y promenâd yn amlach yw un o nodau'r cynllun, yn ôl y Cynghorydd Gareth Davies.

Llun o'r cynghorydd sir Gareth Davies yn sefyll ar bromenad Aberystwyth - dyn a barf, sbectol yn gwisgo cot las, y mor a pier Aberystwyth yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun, Rhyddhau llefydd parcio ar y prom yn amlach yw un nod y cynllun, yn ôl y Cynghorydd Gareth Davies

Mae cyflwyno ffioedd parcio ar bromenâd Aberystwyth wedi cael ei drafod o fewn y cyngor ers blynyddoedd, gyda chynlluniau wedi cael eu cynnig yn wreiddiol yn 2006.

Cafodd cynigion ar gyfer y cynllun presennol eu cyflwyno yn 2023, gyda chynghorwyr yn cymeradwyo'r ffioedd ym mis Ionawr 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies, aelod cabinet Cyngor Ceredigion dros gyllid, ei fod yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at ryddhau mwy o lefydd parcio yn fwy aml.

"Ar rai ardaloedd o'r promenâd, mae pobl yn medru parcio (am ddim) drwy'r dydd. Ar rai achlysuron maen nhw yna am ddyddiau.
"Felly dyw'r llefydd parcio ddim ar gael i neb arall. Un o'r rhesymau dros wneud hyn yw y bydd mwy o drosiant – mwy o bobl yn dod i Aberystwyth, a gobeithio bydd busnesau yn elwa o hynny."

Y bwriad yw codi tâl am barcio ar y promenâd i annog pobl i ymweld â'r dref, yn enwedig twristiaid, gan wybod y bydd lle parcio ar gael iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Davies y bydd y refeniw a godir yn helpu i ariannu gwasanaethau'r cyngor a chynnal a chadw meysydd parcio presennol.

Yn ôl adroddiad i gynghorwyr ym mis Medi 2024, mae cynlluniau tebyg wedi cael eu defnyddio mewn trefi arfordirol eraill ers blynyddoedd lawer.

Ar y pryd, roedd ffioedd parcio ar y stryd yn Llandudno a Bae Colwyn yn £5.50 am bedair awr a £4 am bedair awr yn y Rhyl.

'Negyddol i'r busnes'

Nawr bod y taliadau wedi dod i rym yn Aberystwyth, mae perchnogion busnesau yn mynegi pryderon am effaith bosibl ar gwsmeriaid, ymwelwyr a staff.

Advertisement

Mae Nia Roberts, perchennog dau fusnes yn Aberystwyth, yn dweud fod cwsmeriaid rheolaidd wedi mynegi pryder y gallai'r ffioedd effeithio ar ba mor aml y maen nhw'n ymweld â'i bwyty ar y promenâd.

"Mae 'da fi lot o gwsmeriaid sy'n dod mewn bob bore yn rheolaidd, pobl leol sy' wedi ymddeol yn dod mewn am goffi.
"Mae'n nhw'n disgwyl gallu taro mewn i'r dref, parcio'n agos a dod mewn am eu paned. I adio mlaen £3.50 pob bore, mae lot wedi dweud yn barod fyddan nhw ddim yn fodlon talu fe."

Dywedodd Nia hefyd fod y llefydd parcio am ddim bellach yn bellach o'r bwyty, a bod cerdded yn anodd i rai o'i chwsmeriaid hŷn.

"Fi'n credu fod y (ffioedd) parcio yn mynd i fod yn negyddol i'r busnes."
Llun o Nia Roberts wrth gownter ei bwyty - Baravin - gyda croissants ar y cownter ac aelodau staff yn parhau a'u gwaith yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun, Mae Nia Roberts yn bryderus ynglyn ag effaith y ffioedd parcio ar ei chwsmeriaid a'i staff

Mae Nia Roberts hefyd yn pryderu y bydd y staff sy'n byw y tu allan i'r dref yn cael eu heffeithio gan y ffioedd newydd, yn enwedig y rhai sy'n gweithio shifftiau hwyr a allai orfod gadael eu ceir yn bellach i ffwrdd i gael lle parcio am ddim.

"(Mae'n) golygu eu bod nhw'n cerdded yn ôl i'w ceir am 22.30 neu 23:00 y nos. Mae hynny'n fater diogelwch, yn enwedig i lawer o fy staff iau. Dwi ddim yn gyfforddus gyda hynny."

Yn ôl Gareth Evans, perchennog Gwesty Cymru ar y promenâd, gallai'r ffioedd parcio newydd golli mwy o arian i fusnesau bach y dref nag y maen nhw'n ei godi ar gyfer y cyngor sir.

Mae Gwesty Cymru heb faes parcio ei hun, ac mae Gareth Evans yn credu y gallai'r ffioedd effeithio ar nifer y bobl sy'n bwcio ystafell.

"Fi'n credu bod e'n un peth arall i roi pobl off dod i ymweld ag Aberystwyth. Mae sawl maes parcio yn y dref ond dy'n nhw ddim yn agos iawn i ni – mae'n un peth arall mae'n rhaid i westeion ystyried cyn dod i aros gyda ni.
"Mae'r (cyngor) yn dweud bod hyn yn mynd i godi rhwng £400,000 - £500,000 y flwyddyn.
"Ond o safbwynt fi, mae hyn yn mynd i dynnu mwy 'na hynny bant o fusnesau bach lleol wrth roi pobl bant o aros yn Aberystwyth pan maen nhw'n gallu mynd i Aberaeron, Ceinewydd neu Aberteifi lle nad yw'r un fath o charges."
Llun o Gareth Evans - dyn sydd a barf brown a sbectol crwn, mae'n gwisgo crys T gwyn ac mae'n sefyll o flaen bar Gwesty Cymru
Disgrifiad o’r llun, Yn ôl Gareth Evans fe allai'r ffioedd parcio newydd golli mwy o arian i fusnesau bach y dref nac y maen nhw'n codi ar gyfer y cyngor sir

Safbwyntiau ar y stryd

Ar y stryd yn Aberystwyth, roedd pobl yn mynegi pryderon gyda safbwynt Lynn Phillips o Bow Street yn adlewyrchu barn llawer o bobl.

Dywedodd ei bod hi'n meddwl y gallai'r ffioedd parcio "ladd busnesau lleol a gwneud hi'n anoddach i bobl leol ddod mewn".
Llun o Lynn Phillips yn sefyll yng nghanol y dref yn Aberystwyth - sbectol a chot lliw piws
Disgrifiad o’r llun, Bydd y ffioedd parcio newydd yn "lladd busnesau" yn ol Lynn Phillips o Bow Street ger Aberystwyth

Roedd Alison Warren o Bournemouth ar ei gwyliau yng Nghymru ac yn ymweld ag Aberystwyth am y diwrnod.

Dywedodd ei bod hi'n meddwl bod y drefn newydd ar y promenâd yn mynd i fod yn ergyd:
"Dwi'n meddwl bod hyn yn annheg i fusnesau – bydd rhaid i bobl dalu eto i ddod i lan y môr a falle cael coffi, ac mae'n drist i bobl leol hefyd."
Llun o fenyw - Alison Warren - yn sefyll ar brom Aberystwyth gyda'i chefn at y dref. Mae ganddi wallt tywyll, sgarff lwyd a chot borffor.
Disgrifiad o’r llun, Mae'r ffioedd yn annheg i bobl leol, yn ol Alison Warren o Bournemouth

Mae Geraint Evans o Dal-y-bont yn gweld dadleuon o blaid ac yn erbyn y ffioedd parcio newydd.

"Mae prinder llefydd parcio yn Aber (ac) mae pob cyngor yn gorfod ffeindio cyllid o ryw gyfeiriad.
"Mae 'na rai pobl yn parcio am ormod o amser - yn hytrach na pharcio er hwylustod, maen nhw'n parcio ar y promenâd a falle bod nhw yna drwy'r dydd."
LLun o Geraint Evans yn nhref Aberystwyth - ei gefn at y prom, cap coch ar ei ben, sbectol a gilet glas
Disgrifiad o’r llun, Mae Geraint Evans o Dal-y-bont yn gweld dadleuon o blaid ac yn erbyn y ffioedd parcio newydd

'Ddim wedi cael effaith ar drefi eraill'

Dywedodd perchnogion busnesau y bydden nhw wedi ffafrio cyfaddawd gan y cyngor, trwy gadw parcio am ddim ar y promenâd ond gyda chyfyngiad amser ar bob lle a phlismona gwell o'r parcio.

Mewn ymateb, dywedodd y Cynghorydd Gareth Davies fod nifer o lefydd parcio am ddim eraill yn y dref, rhai a ddarperir gan y sectorau cyhoeddus a phreifat, am hyd at dair awr.

Ychwanegodd fod arolygon a gynhaliwyd mewn trefi eraill wedi canfod nad oedd cyflwyno ffioedd parcio wedi cael effaith negyddol ar fusnesau a thwristiaid.

Mae'r ffioedd yn berthnasol ar Rhodfa Buddug, Rhodfa'r Môr a'r Rhodfa Newydd.

Gellir talu'r ffioedd mewn peiriannau talu ac arddangos neu drwy ffôn symudol, ond gall deiliaid Bathodyn Glas barcio am ddim cyn belled â bod bathodyn dilys yn cael ei arddangos.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News