Canolfan Dre Twt yn Sanclêr yn cau ar ôl saith mlynedd
Mae Nia Maynard yn mynegi siom am orfod cau canolfan Dre Twt yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, er iddi lwyddo i oroesi cyfnod y pandemig.
Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru, mae 30% o fusnesau bach yn y wlad yn ystyried cau, gwerthu neu leihau maint yn ystod y flwyddyn nesaf.
Mae'r FSB yn nodi bod hyder busnesau yn isel ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod y sector lletygarwch a hamdden rhag cynnydd mewn costau.
Mae canolfan chwarae Dre Twt, sydd wedi bod ar agor am saith mlynedd, yn cau ar ôl gwyliau'r Pasg oherwydd effaith costau cynyddol ar y busnes.
Dywedodd Nia Maynard, perchennog y ganolfan, fod y penderfyniad i gau wedi ei gwneud ar ôl i gostau gynyddu'n sylweddol.
"Ni wedi newid y busnes er mwyn ceisio cadw fynd," meddai. "Mae'n siomedig iawn. Fi wedi rhoi popeth mewn - mae gyd o life savings wedi mynd mewn i hyn. O'n i'n gwybod bod e'n risg, ond mae wedi bod yn un peth ar ôl y llall. Ni wedi dod i'r pwynt mae rhywbeth yn gorfod mynd. Yn anffodus, y ganolfan fydd yn gorfod mynd."
Mae hi'n disgrifio sut mae costau'r busnes wedi cynyddu mewn sawl agwedd, gan gynnwys cost petrol, trydan, yswiriant, a chostau cynnyrch fel coffi.
"Mae popeth wedi mynd lan, o gost petrol sydd yn effeithio ar bobl sydd yn dod yma. Ni wedi cael lot o ysgolion yn dweud bod nhw methu dod ati achos maen nhw wedi methu fforddio bysus i ddod aton ni. Mae pobl yn tynnu nôl o brynu coffi. Mae popeth yn cael knock-on effect. Mae costau trydan, yr insurance wedi mynd lan. Chi'n mynd wedyn i brynu pethau fel y coffi a mae hynny wedi mynd lan, a'r rental ar gyfer y machine wedi mynd lan. Ni wedi gorfod rhoi hwnna i'r cwsmer, ond mae'r cwsmer ddim yn gallu fforddio fe chwaith."
Bydd canolfan Dre Twt yn cau, er bydd y gwasanaeth symudol mewn ysgolion lleol yn parhau.

Ffederasiwn y Busnesau Bach yn nodi dirywiad mewn hyder busnes
Yn ôl FSB Cymru, mae mwy o fusnesau yn ystyried lleihau maint, cau neu werthu (30%) nag sydd yn bwriadu ehangu (18%).

Mae Nia Maynard yn dweud ei bod hi'n gwybod am fusnesau eraill yn yr ardal sydd yn wynebu'r un problemau.
"Dyw e ddim yn sioc o gwbl. Fi'n 'nabod pobl eraill sydd yn dweud yr un peth, sef bod nhw wedi gorfod torri nôl neu gau, a hefyd dyw pobl ddim yn cael plant rhagor achos dyw nhw ddim yn gallu fforddio codi nhw, ac mae hynny yn mynd i effeithio busnesau."
Yn ôl ymchwil yr FSB, y pryder mwyaf i fusnesau yw cyflwr yr economi (68%) a threthi (45%).
Mae'r ffederasiwn wedi galw am warchod busnesau lletygarwch a hamdden rhag cynnydd mewn trethi busnes ac wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, i godi pryderon.
Hyder busnesau yn disgyn a galwad am gefnogaeth
Dywedodd Dr Llyr ap Gareth, pennaeth polisi i FSB Cymru, fod hyder busnesau wedi disgyn yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae mwy yn fwy tebygol o gau lawr nac o dyfu," meddai. "Mae'n holl bwysig bod yna gefnogaeth i fusnesau bach i oresgyn y cyfnod yma ac i dyfu eto yn y dyfodol.
"Ar hyn o bryd maen nhw yn wynebu lot o gostau. Un ydy fod costau ardrethi busnes yn codi achos bod eu safle busnes yn cael ei ailbrisio.
"Yn ogystal, maen nhw yn colli cefnogaeth o 40% oddi ar ei biliau o fis Ebrill ymlaen, felly 'da ni yn poeni bod hyn yn mynd i arwain at lot o drafferthion i'r busnesau yma a bod rhai ddim yn mynd i fedru goresgyn hyn.
"Da ni yn cefnogi ac yn croesawu y fformiwla newydd gan Lywodraeth Cymru i fân-werthwyr, sydd yn golygu bod eu bil nhw yn llai, ond 'da ni eisiau iddyn nhw ymestyn y gefnogaeth hynny i'r sector hamdden a lletygarwch hefyd."
Mae'r Ffederasiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach i £12,000 i gyd-fynd â lefel Lloegr.
Cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £116m ar gael mewn cymorth pontio dros y ddwy flynedd nesaf i fusnesau, ac iddi ddarparu £1bn o gefnogaeth ariannol i fusnesau ers 2020.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i ddarparu £8m mewn rhyddhad ardrethi ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, bwyd a diod, a fydd yn lleihau biliau i tua 4,400 o fusnesau lletygarwch.
Yn ôl y llywodraeth, nid yw tua hanner busnesau Cymru yn talu ardrethi busnes o gwbl.
Safbwyntiau gwleidyddol ar sefyllfa busnesau bach
Dywedodd Plaid Cymru fod y llywodraeth Lafur wedi "methu mynd i'r afael â'r heriau sydd yn wynebu'r economi" ac bod y stryd fawr yn gwagio.
Mae Plaid Cymru yn cynnig "ysgafnhau'r baich" ar fusnesau lletygarwch a manwerthu drwy ehangu'r lluosydd cyfraddau-is i fusnesau lletygarwch bach a chanolig.
Arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, fe gyhuddodd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru o greu "hinsawdd elyniaethu i fusnesau bach".
Dywedodd y byddai Reform yn cynnig polisïau i gefnogi busnesau bach a'u gweithwyr ar draws Cymru.
Mae'r Ceidwadwyr, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais i ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







