Siom i Gymru wrth golli yn ystod munudau ola'r gêm
Yn eu gêm yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, colli o 23 pwynt i 26 oedd hanes Cymru, wrth i'r Alban frwydro yn ôl yn ystod yr ail hanner i dorri calonau y tîm cartref.
Roedd dechrau positif a llawn hyder i'r gêm yn stadiwm y Principality gyda prop Cymru Rhys Carre yn sgorio cais gynta'r gêm i roi Cymru ar y blaen 7-0 ar ôl naw munud.
Cic cosb sydyn Dewi Lake gychwynodd y symudiad, arweiniodd at bas cyflym i Carre blymio dros y llinell gais i ddod â'r dorf ar eu traed.
Cychwyn gwych yn amddiffynol i Gymru a chadw'r bêl yn eu meddiant wrth roi pwysau ar yr Albanwyr ond serch hynny daeth yr Alban yn ôl i mewn i'r gêm wrth i'r asgellwr Kyle Steyn sgorio cais i wneud y sgôr yn 7-5.
Er bod Cymru i lawr i 14 dyn yn dilyn cerdyn melyn i ganolwr Cymru Joe Hawkins ar ôl 18 munud, ymestynodd Cymru y bwlch rhwng y ddau dîm i 14-5 wedi i bas dda gan Sam Costelow ryddhau'r asgellwr Josh Adams i sgorio ail gais i Gymru.
Gyda chic gosb gan Sam Costelow yn ymestyn y fantais ymhellach, roedd Cymru'n edrych yn dîm cryfach na'u perfformiadau diweddar gyda'r sgôr ar yr egwyl yn 17-5.

Roedd Cymru yn edrych yn hyderus ac ar y blaen ar yr egwyl, am y tro cyntaf o dan yr hyfforddwr Steve Tandy.
Cic gosb arall gan Sam Castelow yn rhoi Cymru ymhellach ar y blaen o 20-5 ar gychwyn yr ail hanner.
Wedyn daeth cais gan yr Alban wrth i Finn Russell wibio dros y llinell gais i ddod a'r sgor yn 20-12 yn dilyn y trosiad llwyddiannus.
Cic gosb gan Jared Evans yn gweld Cymru yn mynd 23 - 12 ar y blaen.

Yn syth o'r gig i ailgychwyn, daeth cais sydyn i roi yr Alban yn ôl yn y gêm wrth i Darcy Graham fynd dros y llinell ac yna y trosiad gan Finn Russell yn gwneud y sgôr yn 23 - 19.
Er bod Cymru wedi arwain ers 10 munud cynta'r gêm, yn ystod y chwe munud ola, mi aeth yr Alban ar y blaen am y tro cynta ar ôl cais gan George Turner a throsiad llwyddiannus arall gan Russell.
Siom i Gymru wrth i'r sgôr droi yn 23 - 26, ac er gwaetha'r ymdrech galed, dyma oedd y sgôr terfynol!
Dyma bedwerydd buddugoliaeth Yr Alban yn olynol yn erbyn Cymru a hynny am y tro cyntaf ers 99 o flynyddoedd.
Mae'r Alban ar frig tabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru yn aros ar y gwaelod heb ennill gêm.
Fydd Cymru yn wynebu Iwerddon nesa yn Nulyn ar 27 Chwefror.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Ffrainc yn ennill yn hawdd o flaen torf leiaf Cymru erioed yn y Chwe Gwlad
- Degau o filoedd o docynnau heb eu gwerthu ar gyfer gemau'r Chwe Gwlad
- Chwe Gwlad: Lloegr yn rhoi cweir i Gymru







