Clwb Rygbi Aberaeron yn dathlu 50 mlwyddiant
Tîm rygbi Aberaeron yn 1977 a heddiw
Mae Clwb Rygbi Aberaeron yn paratoi i ddathlu carreg filltir arbennig, sef ei 50fed tymor.
Yn ogystal, eleni, cipiodd y tîm cyntaf ddyrchafiad o Ail Adran y Gorllewin i Adran Gyntaf y Gorllewin. Nid dyna'r unig achos i ddathlu'r tymor yma.
Hanes y clwb a sylfaenydd
Roedd Glyndwr Evans yn gyd-sylfaenydd y clwb ac yn ysgrifennydd iddo am 40 mlynedd. Mae'n dal yn hynod weithgar o fewn y clwb ac yma mae'n adrodd yr hanes:
"Sefydlwyd Clwb Rygbi Aberaeron yn 1977, megis ddoe yw'r atgofion ond mae'r blynyddoedd wedi hedfan.
Yn y dyddiau cynnar chwaraewyd y gemau ar gae rygbi'r ysgol yng nghanol y dref. Dyma oedd lleoliad y gystadleuaeth adnabyddus rygbi saith bob ochr a oedd yn denu chwaraewyr rhyngwladol yn flynyddol.
Erbyn 1986 gwireddwyd y cynllun o brynu cae, sef Parc Drefach ar gyrion y dref a dyma yw ein cartref ers hynny. Mae'n safle braf iawn gyda golygfeydd dros Fae Ceredigion."

Cinio cyntaf Clwb Rygbi Aberaeron - y cadeirydd Alan Pascoe (cyntaf ar y chwith) a gwestai gwadd, Dewi Griffiths o'r BBC (ail o'r chwith)
"Mae'r clwb yn un cymunedol a phrysur sydd yn gwasanaethu pawb yn yr ardal a thu hwnt," meddai Glyndwr.
"Mae balchder mawr yn ein chwaraewyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr, noddwyr a phawb sydd yn gysylltiedig â'r clwb.
Mae'r tymor hwn wedi bod yn hanesyddol a llwyddiannus gan mai dyma'r tro cyntaf erioed i'r tîm cyntaf sicrhau dyrchafiad i Adran 1af Gorllewin Undeb Rygbi Cymru. Gwnaeth y tîm cyntaf hefyd gyrraedd rownd derfynol Cwpan Sir Benfro."

Tîm cyntaf Clwb Rygbi Aberaeron, 1977. Capten cyntaf y clwb oedd Glyn Rees (rhes flaen, pedwerydd o'r chwith)
Llwyddiannau'r clwb yn ystod y tymor
Ond roedd llwyddiannau tu hwnt i'r tîm cyntaf eleni, fel esboniai Glyndwr:
"Enillodd Gwylanod Aberaeron, sef ail dîm Cynghrair Llanelli a'r Cylch a chyrraedd rownd derfynol Cwpan AJT Recycling Llanelli a'r Cylch ym Mharc y Scarlets.
Daeth hefyd canlyniadau da iawn i'r Adran Iau gyda'r tîm dan 16 oed yn chwarae yn rownd derfynol Cwpan Sir Benfro.
Mae wedi bod yn dymor i'w gofio ac mae'r clwb yn mynd o nerth i nerth. Rydym yn edrych ymlaen at y tymor newydd a'r goron ar y cyfan fydd dathliadau'r hanner canmlwyddiant."

Parc Drefach, cartref Clwb Rygbi Aberaeron

Agoriad swyddogol Parc Drefach Medi 15fed 1986. Yn agor y cae yn swyddogol oedd y diweddar Arglwydd Geraint Howells
Cystadleuaeth rygbi saith bob ochr a chysylltiadau enwog
Mae Aberaeron yn adnabyddus am gystadleuaeth rygbi saith bob ochr. Cyn dyddiau rygbi proffesiynol, bu sêr y gêm yn chwarae yn flynyddol.

Gyda'r gwpan yn ei ddwylo yma mae'r diweddar JPR Williams. Ers 2004 pwyllgor Clwb Rygbi Aberaeron sydd yn trefnu'r ŵyl.

Gêm i ddathlu agoriad swyddogol adeilad Clwb Rygbi Aberaeron. Aberaeron XV v Denzil Williams XV (Cymru a'r Llewod) 1988

Pwyllgor Menywod Clwb Rygbi Aberaeron yn 1988 pan agorwyd yr adeilad

Y diweddar Glyn Rees, sef capten cyntaf Clwb Rygbi Aberaeron yn dadorchuddio Bwrdd y Capteiniaid yn 1991. Ei fab Hywel oedd y capten o 1989 i 1991, a'i fab ef, Steffan Rees, yw'r cyd-gapten presennol.

Gêm gyntaf Aberaeron dan y llif-oleuadau yn 1995

Tîm Kevin Phillips XV a chwaraewyr Cymru a Chastell-nedd ar gyfer gêm gyntaf yn erbyn Aberaeron dan y llifoleuadau yn 1995

Tîm Aberaeron yn nhymor 1995-1996

Ieuenctid Aberaeron gyda cyn-chwaraewyr y Scarlets a Chymru, Dafydd Jones, yn y rhes flaen, pumed o'r chwith

Cafodd Dafydd 42 o gapiau dros Gymru rhwng 2002 a 2009, gan hefyd fynd ar daith Y Llewod yn 2005. Un arall o enwogion y clwb yw Sioned Harries, a enillodd 43 o gapiau dros ei gwlad.
Gemau a llwyddiannau diweddar

Aberaeron yn chwarae'n erbyn Ty Croes eleni, gyda'r olygfa arbennig dros Fae Ceredigion yn y cefndir.

Y gêm a wnaeth sicrhau'r dyrchafiad eleni, buddugoliaeth yn erbyn Llwchwr o 20-47.

Glyndwr Evans, cyd-sylfaenydd y clwb yn dathlu'r dyrchafiad gyda'r chwaraewyr.

Y tîm i gyd yn dilyn y fuddugoliaeth a gipiodd y dyrchafiad.

Mae'r dyfodol yn edrych yn addawol gan i'r tîm dan 16 wneud yn dda eleni hefyd, gan gyrraedd rownd derfynol Cwpan Sir Benfro.

Rhai o'r cefnogwyr yn ymuno â'r dathlu.

Fe wnaeth yr ail dîm (Y Gwylanod) ennill Cynghrair Llanelli a'r Cylch Tymor 2025-26, a chyrraedd rownd derfynol Cwpan AJT Recycling Llanelli a'r Cylch ar Barc y Scarlets.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






