Skip to main content
Advertisement

Mark a’i ddau fab o Fangor yn arbenigo mewn snwcer ac yn cynrychioli Cymru

Mark a'i ddau fab, Rio a Jaiden o Fangor, yw chwaraewyr snwcer dawnus sy'n cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol, gan ddangos cariad a sgiliau bywyd drwy'r gêm.

·6 min read
Mark, Jaiden a Rio yng Nghlwb Snwcer Llanfairpwll

Mark, Jaiden a Rio yng Nghlwb Snwcer Llanfairpwll

Un o atgofion cynharaf Rio Chung o Fangor, sy'n 13 mlwydd oed, yw cael bwrdd snwcer dwy droedfedd pan oedd yn ddyflwydd ac roedd wrth ei fodd yn chwarae.

Pan oedd Rio'n faban, sylweddolodd ei dad, Mark, sy'n chwaraewr snwcer, fod ei fabi bach yn dangos diddordeb yn y gêm.

"Pan oedd Rio tua wythnos oed oedd o'n gwylio snwcer ar y llawr a'i law o fel fod o'n gafael mewn ciw."
Rio gyda'i fwrdd snwcer dwy droedfedd pan oedd yn ifanc iawn, a llun mwy diweddar ohono
Disgrifiad o’r llun, Rio gyda'i fwrdd snwcer dwy droedfedd pan oedd yn ifanc iawn, a llun mwy diweddar ohono

Ddiwedd Ebrill eleni enillodd Rio Bencampwriaeth Cymru dan 16 ac ym mis Gorffennaf bydd yn cynrychioli Cymru am yr wythfed tro yn erbyn Iwerddon.

Mae ei frawd bach, Jaiden, sy'n naw oed, hefyd yn disgleirio yn y gêm ac wedi cynrychioli ei wlad.

"Ers i Jaiden fod yn ifanc iawn, mae o wedi fy ngweld i a Rio'n chwarae ac wedi cael interest i wylio a chwarae ei hun," eglurai Mark.

Ar Sul y Tadau, bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda'r tri am eu cariad at y gêm ac at gefnogi ei gilydd.

O fyrddau snwcer dwy droedfedd i gynrychioli Cymru

Tra'n tyfu i fyny ym Mangor, mae Mark yn cofio ei dad ef hefyd yn mwynhau'r gêm.

"Oedd Dad yn joio gwylio snwcer pan o'n i'n ifanc a nes i ddechra' gwylio fo a gofyn am fwrdd.
"O hynna nes i ddechra' ar fwrdd bach ti'n rhoi ar y llawr i fwrdd mawr yn y garej.
"Nath Dad ddechra' mynd â fi i glwb City Leisure ym Mangor pan o'n i tua 15 oed ac ers hynna dwi wedi cario 'mlaen chwarae mewn league lleol a chystadlu mewn cystadlaethau rownd Cymru."
Rio a Jaiden yn cynrychioli Cymru
Disgrifiad o’r llun, Rio a Jaiden yn cynrychioli Cymru yn y gamp

Mae Mark yn mynd â Rio i ymarfer i Glwb Snwcer Llanfairpwll am ddwy neu dair awr, bedair gwaith yr wythnos, tra bydd Jaiden yn mynd o leiaf unwaith yr wythnos.

Dywed fod mynd i'r clwb yn rheolaidd wedi bod yn rhan fawr o'u datblygiad.

"Dwi heb gynrychioli Cymru fel Rio a Jaiden. Dwi wedi trio ond dwi erioed wedi cael y cynnig i chwarae i Gymru fel yr hogia'.
"Dechreuodd Rio gystadlu pan oedd o'n naw oed ac o fewn saith mis roedd o'n cynrychioli Cymru."
"Yr un peth efo Jaiden; nath o ddechra' cystadlu tua deunaw mis yn ôl a nath o hefyd gynrychioli Cymru ar ôl saith mis.
"Mae'r gêm yn dod reit naturiol iddyn nhw, felly dwi'n cweit envious ohonyn eu bod nhw wedi cynrychioli Cymru a dwi heb, ond dwi jest mor falch eu bod nhw'n 'neud mor dda!"
Pwy sy'n chwarae snwcer yma... Jaiden neu Batman?
Disgrifiad o’r llun, Pwy sy'n chwarae snwcer yma... Jaiden neu Batman?

'Mae Dad yn athro da iawn'

Mae Rio a Jaiden hefyd yn hynod ddiolchgar i'w tad am fod yn athro snwcer iddyn nhw ac am ei gefnogaeth bob dydd.

Advertisement
"Mae Dad wedi dysgu fi ers dwi'n cofio, a rhoi cyfleoedd i fi a Jaiden deithio'r wlad a mynd i ffwrdd i wledydd eraill.
Dwi'n ddiolchgar iawn am hynna, heb sôn am fynd â fi i Llanfairpwll bedair gwaith yr wythnos. Dwi jest yn joio snwcer gymaint."
"Mae Dad yn athro da iawn, a dwi'n mwynhau chwarae pŵl efo'n gilydd adra hefyd."

Gan fod bwrdd snwcer ychydig yn rhy fawr i gartref Mark, ei wraig Persida a'r bechgyn ym Mangor, mae bwrdd pŵl ganddynt yn y tŷ.

"'Dan ni yn chwarae pŵl efo'n gilydd lot ac mae o'n mynd yn eitha cystadleuaol erbyn y diwadd," eglurai Rio.
Mark yn rhoi gwers i'w feibion rai blynyddoedd yn ôl
Disgrifiad o’r llun, Mark yn rhoi gwers i'w feibion rai blynyddoedd yn ôl
Rio a Jaiden yn chwarae pŵl yn eu pyjamas rai blynyddoedd yn ôl
Disgrifiad o’r llun, Rio a Jaiden yn chwarae pŵl yn eu pyjamas rai blynyddoedd yn ôl

Wrth holi pwy sydd fwyaf cystadleuol, dywedodd Mark:

"Cwestiwn anodd, 'dan ni gyd yr un peth dwi'n meddwl.
"Fi sydd wedi dechra' bod yn gystadleuol a wedyn maen nhw wedi mynd yn fwy cystadleuol na fi 'wan!
"Mae hynny'n naturiol mae'n siŵr ers iddyn nhw gynrychioli Cymru. Do'n i ddim yn chwarae mor ddifrifol pan o'n i'n tyfu i fyny."
Mam, Dad a Jaiden yn dathlu llwyddiant Rio ar ôl dod yn Bencampwr Snwcer Dan 16 yng Nghymru eleni
Disgrifiad o’r llun, Mam, Dad a Jaiden yn dathlu llwyddiant Rio ar ôl dod yn Bencampwr Snwcer Dan 16 yng Nghymru eleni

Snwcer yn rhoi sgiliau bywyd

Er bod eu mam, Persida, yn mwynhau gwylio Rio a Jaiden yn chwarae, dyw hi ddim yn hoffi eu gweld nhw'n cystadlu'n erbyn ei gilydd gan ei fod yn creu penbleth iddi ar bwy i gefnogi.

Yn ôl Mark, nid dim ond sgiliau chwarae mae snwcer yn eu rhoi i'w feibion, ond sgiliau bywyd hefyd.

"'Dan ni jest yn gobeithio bo' nhw'n chwarae yn dda, a bod pwy bynnag sy'n colli ddim yn cymryd o'n rhy galad. A maen nhw dal yn dod off yn ffrindia' mawr achos maen nhw rhan fwya' o'r amsar," meddai.
Jaiden a Rio yn ysgwyd llaw ar ôl gêm gystadleuol
Disgrifiad o’r llun, Jaiden a Rio yn ysgwyd llaw ar ôl gêm gystadleuol
"Mae snwcer yn helpu nhw i aeddfedu a rheoli teimladau.
"Mewn gêm o snwcer dydi popeth ddim yn mynd y ffordd wyt ti isio o hyd, ac mae hynny'n wir mewn bywyd hyfyd. Rhaid dysgu delio efo teimladau a dwi'n credu bod snwcer yn rhoi aeddfedrwydd iddyn nhw.
"Mae cystadlu yn helpu etiquette a manners hefyd; ti'n cyfarfod a chwarae yn erbyn pobl newydd o wahanol gefndiroedd a gwledydd o hyd.
"Dwi'n gobeithio fydd hynny'n eu helpu mewn bywyd wrth iddyn nhw fynd yn hŷn."

 Rio ar fin cynrychioli ei wlad yn erbyn Iwerddon unwaith eto ymhen rhai wythnosau, ei uchelgais yw "chwarae snwcer yn broffesiynol, ennill pencampwriaeth y byd a rhoi gogledd Cymru ar y map".

Neges Mark i'w feibion Rio a Jaiden ar Sul y Tadau yw:

"Dwi jest isio nhw joio be' bynnag maen nhw'n hoffi, does dim pwysau o gwbl i fod yn broffesiynol. Maen nhw'n ifanc a gyda gymaint o opsiynau."
"Os ydyn nhw'n hapus, yna dwi'n hapus hefyd."
Y triawd snwcer - Jaiden, Mark a Rio Chung
Disgrifiad o’r llun, Y triawd snwcer - Jaiden, Mark a Rio Chung

Gwrandewch ar Rio yn sgwrsio ar Radio Cymru:

Rio Chung yn herio Ifan Jones Evans a Gwion Ifan mewn gêm o snwcer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News