Skip to main content
Advertisement

Cymru'n Croesawu Pencampwriaeth Agored G4D Golff Chwaraewyr Ag Anableddau

Mae pencampwriaeth agored G4D golff chwaraewyr ag anableddau yn cael ei chynnal yng ngwesty'r Celtic Manor, gyda 80 o chwaraewyr o 25 o wledydd yn cystadlu. Richie Willis, sydd wedi colli ei goes, yn rhannu sut mae golff wedi newid ei fywyd.

·4 min read
Richie Willis, dyn gwallt gwyn mewn top glas a shorts du, yn chwarae golff - coes brosthetig yw ei goes dde

Golff yn Llesol i Richie Willis Ar ôl Colli Ei Goes mewn Damwain Lori

Tra bod Rory McIlroy, Scottie Scheffler a golffwyr gorau'r byd yn paratoi ar gyfer pencampwriaeth y PGA yn Philadelphia, mae golffwyr talentog gydag anableddau yn cystadlu yng ngwesty'r Celtic Manor mewn un o brif gystadlaethau'r gamp.

Mae'r gwesty wedi cynnal Cwpan Ryder yn 2010 a Phencampwriaeth Agored Cymru ar gylchdaith golff DP World ar sawl achlysur, ond nid oes pencampwriaeth fawr ryngwladol wedi ei leoli yno ers 2021.

Fodd bynnag, bydd y Celtic Manor yn cartref pencampwriaeth agored G4D, dolen allanol ar gyfer golffwyr am y tair blynedd nesaf.

Bydd 80 o'r golffwyr mwyaf talentog gydag anableddau yn cystadlu yn y bencampwriaeth, sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth gyda'r R&A, corff llywodraethol y gêm, a hefyd cylchdaith golf DP World.

Er bod Tiger Woods ac eraill wedi cystadlu ar gwrs y gwesty yn 2010, bydd y bencampwriaeth yr wythnos hon yn cael ei chwarae ar gwrs y Roman Road.

Busnes Golff y Bachgen Naw Oed o Fôn

'Dwi eisiau dangos i ferched ifanc fod golff yn cŵl!'

Mae dynion a merched o 25 o wledydd y byd yn cystadlu. Ville Enqvist o Sweden yw'r cystadleuydd ieuengaf yn 16 oed, tra bod Shigeru Kobayashi o Japan yn 70 oed ac yn hynaf y cystadleuwyr.

Bydd y brif wobr - fel mewn pencampwriaethau golff traddodiadol - yn cael ei rhoi am y sgôr isaf dros y tair rownd ddydd Iau, ddydd Gwener a ddydd Sadwrn, ac mae yna naw categori arall ar sail anableddau'r chwaraewyr.

Brendan Lawlor o Iwerddon a Daphne van Houten o'r Iseldiroedd oedd enillwyr y llynedd.

'Golff yn Golygu Popeth i Mi'

Un o'r rhai sy'n cystadlu yn y digwyddiad am y tro cyntaf yw Richie Willis o Gasnewydd, sy'n 68 oed.

Collodd ei goes dde a bu bron iddo farw mewn damwain tra'n gyrru lori ar Bont Hafren yn 1999, gan dreulio pum mis yn yr ysbyty.

Mae wedi colli rhan isaf ei goes dde ac yn cyfaddef ei fod yn lwcus i fod yn fyw wedi'r ddamwain, ond mae'n dweud fod chwarae golff yn rhoi modd iddo fyw.

Mae Richie Willis yn byw tua milltir o westy'r Celtic Manor

Richie Willis yn paratoi i daro'r bêl
Disgrifiad o’r llun, Mae Richie Willis yn byw tua milltir o westy'r Celtic Manor

Yn aelod o glwb golff y Celtic Manor, mae Richie wedi chwarae ar gwrs y Roman Road dros 3,000 o weithiau sydd wedi ei alluogi i ostwng ei handicap i 6.

'Dwi'n falch iawn o hwnna.'

Ad (425x293)

'Mae golff wedi golygu popeth i mi. Dywedes i pe taswn i'n cael anaf a methu cymryd rhan mewn chwaraeon, fyswn i ddim wir eisiau bod yma.'

'Mae golff wedi rhoi'r gallu i mi gystadlu, chwarae gyda ffrindiau a chadw'n ffit i raddau.'

'Mae'n wych i mi o ran fy lles hefyd.'

'Stag Do' yn Nashville ac E-bost Munud Olaf

Bydd Dylan Baines o Benpedairheol yng Nghwm Rhymni yn cystadlu dros y tridiau nesaf ar ôl derbyn e-bost hwyr gan y trefnwyr.

Daeth y neges wedi iddo ddychwelyd o stag do chwe niwrnod yn Nashville.

'Dyw'r paratoadau heb fod yn ddelfrydol!'

'Roeddwn i'n isel iawn ar y rhestr eilyddion... ond pan ddaeth yr e-bost i gadarnhau fy lle dwi wedi bod yn ymarfer a chwarae bob dydd ers hynny.'

Cafodd Dylan Baines o Benpedairheol ddamwain car yn 2017

Dylan Baines yn ymarfer ar gwrs y Roman Road yn y Celtic Manor
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Dylan Baines o Benpedairheol ddamwain car yn 2017

Cafodd Dylan ddamwain car yn 2017 yn 22 oed, a doedd doctoriaid ddim yn disgwyl iddo allu cerdded eto.

Er iddo golli nerth yn ochor chwith ei gorff, mae wedi ennill cystadleuaeth golff ym Mhortiwgal ac mae ganddo handicap o 9.

Mae'n rhad ac am ddim i wylio'r bencampwriaeth dros y tridiau nesaf, ac mae'r chwaraewyr yn chwarae i safon uchel iawn - mae o werth ei weld.

Kevin Barker o'r R&A: 'Dyma Uchafbwynt y Gamp i Chwaraewyr Gydag Anableddau'

Ar ôl tair blynedd yng Nghlwb Golff Woburn, ym Milton Keynes, mae'r bencampwriaeth agored G4D yn cael ei chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf eleni.

Mae'r bencampwriaeth yn dod dan ofal corff llywodraethol yr R&A (Royal & Ancient Golf Club of St Andrews) a chylchdaith DP World.

'Dyma uchafbwynt y gamp i chwaraewyr gydag anableddau,' yn ôl Kevin Barker o'r R&A.

'Mae'r R&A am weld golff yn adlewyrchu'r gymdeithas, beth bynnag eich rhyw, rhywedd, ethnigrwydd, os ydych yn abl neu'n anabl - rydym am i bobl feddwl bod golff yn gêm iddyn nhw.'

'Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddangos yr hyn y gall golffwyr ag anabledd ei wneud.'

Kevin Barker o'r R&A
Disgrifiad o’r llun, Kevin Barker o'r R&A: 'Dyma uchafbwynt y gamp i chwaraewyr gydag anableddau'

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News