Skip to main content
Advertisement

Cymru'n Dechrau Treialu Tymor Haf i Ddaclo Problemau Tywydd Pêl-droed

Clybiau ieuenctid yng Nghymru yn treialu pêl-droed haf i fynd i’r afael â gemau a ohirir oherwydd tywydd gwael, fel rhan o Brosiect Chwarae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

·8 min read
Cae pêl-droed dan ddŵr yn Rhaglan

Cae pêl-droed dan ddŵr yn Rhaglan

Bydd clybiau ieuenctid yng Nghymru yn cychwyn cynllun peilot fis yma i archwilio a allai chwarae pêl-droed dros yr haf helpu i fynd i’r afael â phryderon cynyddol ynghylch ohirio gemau oherwydd tywydd gwael.

Mae’r treialon yn rhan o Brosiect Chwarae, ymgais gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) i wella profiad chwaraewyr ieuenctid ac oedolion.

"Cynnig mwy o amser chwarae i'r plant a phobl ifanc [ydi'r nod]," meddai Dion Jones, cadeirydd CPD Ieuenctid Deiniolen. "Hefyd fel bod ni ddim yn creu mwy o gostau dros y gaeaf o ran llogi astros. Mae 'na wrthwynebiad wedi bod, 'dan ni'n cydnabod hynna fel cynghrair, ond eto treial ydi o, felly os dydi o ddim yn gweithio, nawn ni fynd yn ôl i'r hen ffordd."

Mae rhai clybiau wedi gwrthod y cynnig oherwydd pryderon am golli incwm, argaeledd dros wyliau’r haf, a chyd-daro gyda chwaraeon eraill.

Mae data dros y pedwar tymor llawn diwethaf yn dangos bod 21,800 o gemau ar draws Cymru wedi eu gohirio oherwydd y tywydd – bron i un o bob pum gêm. Mae’r broblem yn fwy difrifol yn ystod misoedd y gaeaf, gyda data CBDC yn dangos bod 30% o gemau wedi’u gohirio hyd yma yn nhymor 2025/26.

Mae rhai clybiau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod bron heb chwarae gemau ar gaeau glaswellt ers mis Tachwedd, ar ôl i Gymru dderbyn 20% yn fwy o law dros y gaeaf hwn na’r cyfartaledd.

Mae Cynghrair Ieuenctid Gwynedd yn un o bedair ardal lle bydd timau ieuenctid yn treialu tymor pêl-droed haf 2026 fel rhan o gynllun CBDC.

"Cynnig mwy o amser chwarae i'r plant a phobl ifanc [ydi'r nod]," meddai Dion Jones, cadeirydd CPD Ieuenctid Deiniolen. "Hefyd fel bod ni ddim yn creu mwy o gostau dros y gaeaf o ran llogi astros. Mae 'na wrthwynebiad wedi bod, 'dan ni'n cydnabod hynna fel cynghrair, ond eto treial ydi o, felly os dydi o ddim yn gweithio, nawn ni fynd yn ôl i'r hen ffordd."

Dion Jones o CPD Ieuenctid Deiniolen
Disgrifiad o’r llun, Mae Dion Jones yn teimlo y bydd y cynllun prawf yn cynnig gwell profiad i'r chwaraewyr ifanc, ond mae'n dweud nad oedd pob clwb yn yr ardal wedi eu darbwyllo

Mae Dion Jones yn teimlo y bydd y cynllun prawf yn cynnig gwell profiad i’r chwaraewyr ifanc, er nad yw pob clwb yn yr ardal wedi eu darbwyllo.

Mae Glesni Jones, hyfforddwr timau dan-8 a dan-10, yn cytuno bod pêl-droed haf yn syniad da.

"Bydd plant yn cael mwy o gyfleoedd i chwarae mewn tywydd gwell, mae lot o blant yn cwyno bod hi'n rhy oer i chwarae [yn y gaeaf]," meddai.

Mae chwaraewyr ifanc hefyd yn edrych ymlaen at gemau mewn tywydd braf.

"Yn y gaeaf ti'n mynd yn oer a ti'n dechrau crynu a colli concentration ar y gêm," meddai Tomos, 9.

"Bydda ti ddim yn cael annwyd yn y glaw, a bydd o ddim yn oer – yn yr haf ti'n licio mynd allan lot i deimlo'r haul arna chdi," ychwanegodd Owi, 8.

Beth yw Prosiect Chwarae?

Bydd clybiau a chynghreiriau sy’n cymryd rhan yn y treialon pêl-droed haf eleni yn chwarae tymor o fis Mawrth i fis Tachwedd, gyda saib o tua pedair wythnos o gwmpas mis Awst.

Bydd CBDC hefyd yn cynnig opsiwn arall i glybiau dreialu, sef ychwanegu saib o wyth wythnos dros y gaeaf fel rhan o’r tymor arferol 2026/27. Byddai cynghreiriau sy’n dewis yr opsiwn hwn yn dechrau eu tymor yn gynt ym mis Awst, gan orffen ym mis Mehefin neu Orffennaf.

Bydd pêl-droed ieuenctid anghystadleuol yn rhan o’r cynllun peilot i ddechrau, ond gallai timau ieuenctid hŷn a thimau oedolion fod yn rhan o dreialon yn y dyfodol.

Dau brif amcan Prosiect Chwarae yw gwella profiad plant ac oedolion, a lleihau nifer y gemau sy’n cael eu gohirio oherwydd tywydd, meddai Ben Field, pennaeth pêl-droed llawr gwlad CBDC.

"Mae'r ystadegau ar faint o gemau sy'n cael eu gohirio gymaint yn uwch pan 'dych chi'n sôn am fisoedd Tachwedd i Chwefror – llynedd roedd bron i 48% o gemau wedi canslo yn y cyfnod yna," meddai Ben Field.

"Rydyn ni'n rhoi cynnig ar gwpl o gynlluniau prawf achos tan 'dyn ni'n trio rhywbeth, fyddwn ni ddim yn gwybod beth yw'r canlyniad. Gofyn a oes diddordeb wnaethon ni, felly does neb yn cael eu gorfodi a dydyn ni ddim am fynnu hyn ar unrhyw gynghrair yn y wlad."

Er mai prin iawn yw pêl-droed haf ym Mhrydain, mae Cymru hefyd yn edrych i ddysgu gwersi o Weriniaeth Iwerddon, sydd wrthi’n newid eu calendr cyfan i dymor haf.

Advertisement

"Mae pob opsiwn ar y bwrdd ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd Mr Field. "Bydd rhaid i ni adolygu canlyniadau'r cynlluniau peilot yna... cyn mynd yn ôl i CBDC a'r bwrdd i wneud penderfyniadau hir dymor."

Ben Field, Pennaeth Pêl-droed Llawr Gwlad Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun, Dau brif amcan Prosiect Chwarae yw gwella'r profiad ar gyfer plant ac oedolion, a lleihau nifer y gemau sy'n cael eu gohirio oherwydd y tywydd, meddai Ben Field

Gwyliau, criced ac arian

Ni fydd CPD Ffostrasol yng Ngheredigion yn rhan o’r treialon presennol, ond mae un o hyfforddwyr ieuenctid y clwb yn dweud na fyddai’n gwrthwynebu’r syniad o bêl-droed haf.

"Pan mae'r tywydd yn wael 'dach chi'n gallu gweld ar bersonoliaeth y plant, eu hymddygiad nhw, 'dyn nhw ddim isio bod yna… a ti ddim yn beio nhw," meddai Meredydd Derbyshire.

"Mae caeau 3G yn help, ond does dim cymaint ohonyn nhw yn yr ardal yma. A dwi'n mwynhau'r tymor pêl-droed traddodiadol, a bod nhw'n cael y cyfle i chwarae ym mhob tywydd. Ond o ran chwarae yn yr haf, maen nhw'n cael cyfle i chwarae yn gyson."

Meredydd Derbyshire, hyfforddwr tîm dan-14 Ffostrasol
Disgrifiad o’r llun, Er bod Meredydd Derbyshire yn "ffan mawr o gae gwair", mae'n dweud y byddai mwy o gyfleusterau 3G a chaeau artiffisial yn helpu clybiau

Cymysg yw barn chwaraewyr ifanc Ffostrasol - Caio, Arthfael, Gruffydd ac Efan - am bêl-droed haf.

"Well 'da fi gadw pethau fel ma' fe, achos yn yr haf pan mae'r tywydd yn neis ti'n gallu ymlacio a mynd ar wyliau gyda teulu ti," meddai Caio, 14.

"Mae lot o stwff yn mynd 'mlaen yn yr haf fel Royal Welsh a 'Steddfod - lot o bethe yn clasho," meddai Arthfael, 12, sydd ddim yn poeni am chwarae dros y gaeaf.

"Yn y gaeaf mae lot mwy o gemau'n cael eu canslo achos y glaw a'r rhew – yn yr haf bydde cyfle i chwarae mwy," meddai Gruffydd, 11.

"Bydd well 'da fi'r caeau lot mwy sych a mewn gwell cyflwr. Dros y gaeaf mae gormod o fwd ar y cae, ac mae'n wahanol i chwarae arno," ychwanegodd Efan, 13.

Caio, Arthfael, Gruffydd ac Efan o CPD Ieuenctid Ffostrasol
Disgrifiad o’r llun, Cymysg yw'r farn am bêl-droed haf ymhlith chwaraewyr ifanc Ffostrasol - Caio, Arthfael, Gruffydd ac Efan

Er bod Meredydd Derbyshire yn "ffan mawr o gae gwair", mae'n dweud y byddai mwy o gyfleusterau 3G a chaeau artiffisial yn helpu clybiau.

Mae rhai clybiau, fel CPD Ieuenctid Rhaglan yn Sir Fynwy, wedi gwrthod y cynnig o bêl-droed haf am resymau ariannol.

"Ein prif ffynhonnell ni o incwm yw twrnamentau dros yr haf, ac mae'r rheiny'n gwneud miloedd i ni sy'n helpu ein cynnal ni drwy'r flwyddyn," meddai Amie Dembicki, cadeirydd y clwb.

"Felly tase nhw'n newid y tymor i chwarae dros yr haf, bydden ni a llawer o glybiau eraill o bosib methu gwneud hynny."

Ysgrifennydd Rhaglan, Jamie Finlay, ychwanegodd y gallai pêl-droed haf wrthdaro â diddordebau eraill.

"Doedden ni ddim yn sylwi faint o bobl oedd yn chwarae criced, pêl-rwyd a chwaraeon eraill dros yr haf, ac wrth gwrs mae pobl yn meddwl am eu gwyliau haf," meddai.

"Ein hawgrym ni i'r gymdeithas bêl-droed oedd gwell mynediad i gaeau 3G – byddai hwnna'n well opsiwn i ni."

Sesiwn ymarfer i glwb Ffostrasol
Disgrifiad o’r llun, Mae cystadlaethau pêl-droed yn gallu denu incwm sylweddol i rai clybiau

Mae cystadlaethau pêl-droed yn gallu denu incwm sylweddol i rai clybiau.

Er bod CBDC wedi buddsoddi miliynau mewn caeau artiffisial dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ben Field yn nodi bod "bwlch sylweddol" rhwng yr arian sydd ar gael a’r galw cynyddol.

"Beth 'dyn ni'n ceisio ei wneud yw ymateb i'r galw fel mae'n sefyll ar hyn o bryd," meddai.

"Mae'r gêm yn tyfu, felly bydd buddsoddi mewn cyfleusterau 3G newydd yn cyfrannu at hynny – ond dyw e ddim am fod yn ddigon i helpu drwy gydol tymor y gaeaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News