20 Mlynedd Ers I Joe Calzaghe Drechu Jeff Lacy
Mae 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i Joe Calzaghe guro Jeff Lacy mewn gornest a diffiniodd ei yrfa.
Mae Joe Calzaghe yn cael ei ystyried yn un o'r bocswyr gorau erioed o Gymru ac yn un o'r mwyaf nodedig yn y byd chwaraeon.
Bu'n bencampwr byd am 11 mlynedd, gan ennill pob un o'i 46 gornest broffesiynol. Aeth i'r Unol Daleithiau i wynebu rhai o'r enwau mwyaf yn y gamp, gan gynnwys Bernard Hopkins a Roy Jones Jr, gan eu curo ar eu tir eu hunain.
Fodd bynnag, mae'n debygol na fyddai'r cyfle i ymladd yn Las Vegas ac Efrog Newydd wedi digwydd oni bai am ei fuddugoliaeth bwysig yn erbyn Jeff Lacy 20 mlynedd yn ôl.
Joe Calzaghe yn Llorio Chris Eubank yn 1997
Roedd Calzaghe wedi bod yn bencampwr uwch bwysau canol WBO (super-middleweight) ers iddo guro Chris Eubank yn Sheffield yn 1997.
Dros y naw mlynedd nesaf, ymladdodd ar 17 achlysur, gan ennill pob un o'r gornestau hynny.
"Ond doedd pawb ddim wedi cael eu argyhoeddi gan Calzaghe, yn enwedig draw yn yr Unol Daleithau," meddai'r sylwebydd bocsio John Ifans.
"Roedd yn cael ei gyhuddo gan rai o ddewis gornestau hawdd, rhai yr oedd yn gwybod y byse yn eu hennill."
Yn America, roedd y wasg yn amau ei gyflawniadau, gan feddwl ei fod yn cael gormod o glod tan iddo wynebu Jeff Lacy.
Roedd y rhai oedd yn amau Calzaghe wedi cael eu tawelu yn dilyn yr hyn a ddigwyddodd ym Manceinion.

Jeff Lacy oedd Pencampwr IBF y Byd
Roedd Jeff Lacy, a alwyd yn "Mike Tyson nesaf", yn bencampwr IBF y byd ac heb golli gornest broffesiynol o'r blaen.
Yr ornest oedd i fod i ddigwydd ym mis Tachwedd 2005, ond bu rhaid ei gohirio.
"Mi dorrodd Joe asgwrn yn ei law mewn gornest yn erbyn Evans Ashira o Kenya," meddai John Ifans yn ei gofio.
Fe ail-drefnwyd popeth ar gyfer mis Mawrth 2006, gyda Manceinion fel lleoliad. Roedd y gornest wedi'i threfnu am ddau o'r gloch y bore er mwyn i bobl yn yr Unol Daleithiau allu gwylio ar y teledu.
Yn ystod y paratoadau, anafodd Calzaghe ei arddwrn tra'n ymarfer yn ystod wythnosau cyntaf 2006, a bu'n rhaid i'w dad, Enzo, ei berswadio i beidio â thynnu nôl o'r gornest am yr eildro.
"Fe ddywedodd y doctor wrthai am beidio ymladd," meddai Calzaghe.
"Ond doedd dad ddim yn cytuno. Fe ddywedodd wrthai fy mod yn ddigon da i'w guro gyda un llaw - ac mi oedd o'n iawn."

Gornest Unochrog gyda Buddugoliaeth Hawdd i Calzaghe
Roedd y rhan fwyaf o'r arbenigwyr yn disgwyl i Lacy ennill yn hawdd. Fodd bynnag, roedd y perfformiad gan Calzaghe yn anhygoel.
O'r rownd gyntaf, cymerodd reolaeth o'r gornest, gan ennill pob rownd a lorio Lacy am y tro cyntaf yn ei yrfa.
"Mi oedd y cyfuniadau chwith, dde, chwith, dde yn digwydd yn aml - sgoriodd o bwyntiau ymhob un rownd.
"Mae'r rhan fwyaf o focswyr yn arwain gyda'r fraich chwith, ond mi oedd Joe yn arwain gyda'i dde.
"Doedd o ddim yn berchen ar ergyd lethol, ond mi oedd yn defnyddio cyfuniadau mileinig yn effeithiol dros ben. Y ddwy fraich ar waith."
Yn anhygoel, llwyddodd Lacy i gwblhau'r 12 rownd, ond roedd yn ymwybodol mai Calzaghe oedd y buddugwr clir.
"Y perfformiad gorau erioed gan unrhyw fosciwr o Brydain" - dywedodd hyfforddwr Lacy, Dan Birmingham, ar ddiwedd y gornest.

Gornest Olaf Joe Calzaghe Cyn Ymddeoliad yn erbyn Roy Jones Jr
Mae Calzaghe yn nodi bod y fuddugoliaeth dros Lacy wedi "newid ei yrfa".
Yn 2007, cafodd fuddugoliaeth nodedig arall yn erbyn Mikkel Kessler yng Nghaerdydd cyn iddo wneud penderfyniad mawr i ildio ei goron uwch bwysau canol a symud i fod yn focsiwr is-drwm (light-heavyweight).
"Mi oedd yn rhaid iddo fod hanner stôn yn drymach sy'n lot i focsiwr proffesiynol," meddai John Ifans.
"Ond dyna beth yr oedd yn rhaid iddo ei wneud er mwyn gallu ymladd yn erbyn rhai o fawrion y gamp."
Yn dilyn hynny, aeth ymlaen i guro Bernard Hopkins yn Las Vegas a Roy Jones Jr yn Madison Square Garden yn Efrog Newydd cyn ymddeol.
"Sa'r cyfle i fynd draw i'r Unol Daleithiau i ymladd ddim wedi digwydd oni bai am y fuddugoliaeth 'na yn erbyn Lacy," meddai Calzaghe.
"Mae'n deg dweud mai dyna'r ornest wnaeth ddiffinio fy ngyrfa."








