Lifogydd Dinistriol yn Pontypridd a Phryderon y Cyhoedd
Mae Pontypridd wedi dioddef sawl achos o lifogydd dinistriol yn ddiweddar.
Efallai y byddech chi'n disgwyl i newid hinsawdd fod ar flaen meddyliau pleidleiswyr ym Mhontypridd, wedi sawl achos o lifogydd dinistriol yn ddiweddar.
Ond yma - fel ar draws y wlad - costau byw sy'n dominyddu'r sgyrsiau ry'n ni'n eu cael ag aelodau'r cyhoedd wrth holi beth sy'n bwysig iddyn nhw ar drothwy etholiad y Senedd.
"Pan fydda i'n pleidleisio, dwi'n meddwl am drethi, arian - siŵr o fod ddim yr amgylchedd," meddai un.
Mae torri allyriadau carbon a chyrraedd sero net yn rhywbeth ar gyfer "y dyfodol", ychwanegodd rywun arall.
Poeni nad oedd newid hinsawdd wedi cael mwy o sylw yn ystod yr ymgyrch oedd y rhai oedd yn talu sylw i bolisïau amgylcheddol y pleidiau.
Etholiad Senedd Cymru: Cymharwch bolisïau'r pleidiau
Etholiad 2026: Pa un yw fy etholaeth i a phwy yw'r ymgeiswyr?
Newidiadau Gwleidyddol a Chonsensws ynghylch Sero Net
Mae'n dipyn o newid ers yr etholiad diwethaf yng Nghymru yn 2021, pan oedd y DU wrthi'n paratoi i lwyfannu uwchgynhadledd ryngwladol COP26 yn Glasgow.
Roedd y Senedd wedi gosod targedau cyfreithiol i gyrraedd sero net erbyn 2050, a hi oedd y cyntaf yn y byd - mae'n debyg - i ddatgan argyfwng hinsawdd.
Y tro hwn mae'r consensws gwleidyddol wedi chwalu, a gwahaniaethau clir yn agwedd y pleidiau.
Addo cael gwared â sero net mae Reform, tra bo'r Ceidwadwyr yn dweud na ddylai'r targedau "gosbi" teuluoedd a busnesau.
Mae Plaid Cymru wedi symud o fod eisiau cyrraedd y nod erbyn 2035 i 2040, tra bod Llafur, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dal i gefnogi sero net erbyn 2050.
Daw hyn wrth i arolygon diweddar awgrymu bod llai o frys ymysg y cyhoedd ar draws y DU o ran cyrraedd sero net cyn 2050.
Gofal Plant a Thal Mamolaeth sydd Mwyaf Pwysig i Rachel Hansen
"Nid dyma'r peth mwya' i fi," esboniodd Scott Richards, 27, oedd yn cerdded ei gi ar lan yr afon ym Mhontypridd, a dweud ei fod yn poeni mwy am arian a threthi.
"Mae pobl yn strugglan a sai'n credu bod neb yn saff yn eu swyddi," ychwanegodd Rachel Hansen, 31, gan ychwanegu: "Dyw'r amgylchedd ddim [ar dop yr agenda] ar y funud."
"Ry'n ni'n prynu olew o Fôr y Gogledd o Norwy, dyw e ddim yn 'neud sense - pam smo ni'n drilio ein hunain?" holodd Derek Willington, 78 - "a pheidiwch â sôn am geir trydan..."
Ond pwyntio at "y ffordd draw fan'na sydd wastad ar y newyddion pan fod llifogydd", wnaeth David Heathfield, 41.
"Mae'n dangos faint o wahaniaeth mae [newid hinsawdd] yn ei wneud yn barod," meddai.
"Mae'n becso fi beth fydd yn digwydd yn y dyfodol," cytunodd Nath Trevett, oedd yn poeni nad oedd y gwleidyddion yn rhoi digon o sylw i'r pwnc wrth ymgyrchu.
Byddai Nath Trevett yn hoffi clywed mwy o drafod yr amgylchedd yn ystod yr ymgyrch etholiadol


Newid Agweddau Tuag at Sero Net yn ôl Ymchwil
"Hyn a hyn mae pobl yn gallu poeni amdano," eglurodd Dr Marc Williams, seicolegydd amgylcheddol o Brifysgol Caerdydd sydd wedi ymchwilio i agweddau'r cyhoedd at sero net.
"Mae ymchwil yn dangos bod agweddau wedi mynd yn fwy negyddol yn y blynyddoedd diweddar ers 2021 - llai yn meddwl bod hi'n bwysig cyrraedd sero net cyn 2050, yn enwedig yn yr oedrannau hŷn a phobl hefyd ar yr asgell dde yn wleidyddol".
Awgrymodd astudiaeth ddiweddar gan Goleg y Brenin Llundain, Ipsos a'r Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST), bod cyfradd aelodau'r cyhoedd yn y DU oedd yn credu bod angen cyrraedd sero net yn gynt na 2050 wedi haneru bron ers 2021.
Roedd y gyfran oedd yn teimlo nad oedd angen y targed wedi codi o 9% i 26% yn ystod yr un cyfnod, er bod mwyafrif sylweddol - 64% - yn dal i'w gefnogi.
Ffermydd Gwynt a Pholisi yn ystod yr Ymgyrch
Mae cynlluniau i adeiladu rhagor o ffermydd gwynt wedi bod yn bwnc llosg yn ystod yr ymgyrch.

Mae cyfres o sefydliadau wedi rhyddhau eu hymchwil eu hunain ynglŷn â'r pwnc yn ystod ymgyrch yr etholiad hefyd.
Dywedodd Cynghrair y Trethdalwyr fod pleidleiswyr yng Nghymru yn colli ffydd yn nhargedau sero net, wrth boeni am eu biliau ag addewidion amgylcheddol "amhosib eu cyrraedd".
Dywedodd Climate Cymru bod "cefnogaeth lethol" o hyd i weithredu cryfach ar hinsawdd, natur, ynni glan a llygredd.
Galw am "Sgwrs Onest" am Sero Net gan Geraint Evans
Pan mae'r pwnc wedi codi hyd yma yn ystod yr ymgyrch, mae'n aml wedi bod wrth drafod dyfodol cyflenwadau ynni.
Yng Nghwm Dulais mae Geraint Evans, 59, yn credu bod cynlluniau am ffermydd gwynt a solar mawr mewn ardaloedd gwledig wedi caledu teimladau pobl tuag at sero net.
Mae wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau arfaethedig yn lleol, gan ddadlau bod Castell-nedd Port Talbot eisoes yn cynhyrchu mwy o ynni amgen nac unrhyw awdurdod lleol arall drwy Gymru.
"Dy'n ni ddim yn gweld e'n iawn bod cefn gwlad Cymru - ein llefydd gwyrdd ni sy'n hanfodol i les a iechyd meddwl pobl - yn cael ei aberthu ar allor sero net," meddai.

Cefnogaeth Lleol a Mudiad GwyrddNi
Mae Lowri Hedd Vaughan yn dweud ei bod yn dal i synhwyro llawer o gefnogaeth i sero net yn lleol.
Ond "gobeithio'n wir" y bydd modd glynu at dargedau sero net mae Lowri Hedd Vaughan, sy'n hwylusydd cymunedol i fudiad GwyrddNi yng Ngwynedd.
Ers pedair blynedd mae'r prosiect wedi bod yn "creu gofod i drafod, dysgu a gweithredu ar newid hinsawdd".
"O be' 'da ni'n weld yma mae'r gefnogaeth mor gryf ag erioed," meddai, "a 'da ni'n gweld y newid mewn ymddygiad ar lawr gwlad - yn y ffordd mae pobl yn byw, teithio, bwyta a phrynu."
Er bod yr argyfwng costau byw "yn flaenllaw ym meddyliau lot o bobl", pwysleisiodd fod buddion ariannol yn ogystal ag amgylcheddol i weithredu ar yr hinsawdd.
"Os 'da ni'n gallu creu cartrefi cynnes, lleihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil, newid patrymau prynu... byddwn ni'n symud dipyn nes ymlaen."
Mae prosiect GwyrddNi wedi cynnal cynulliadau cymunedol ar newid hinsawdd ar draws y gogledd-orllewin - gan gynnwys ym Mlaenau Ffestiniog


Safbwyntiau Pleidiau Gwleidyddol ar Sero Net
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig eu bod "wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon Cymru ac addasu i newid hinsawdd".
"Er hyn, ry'n ni'n credu bod angen gwneud hyn mewn ffordd sy'n cefnogi, yn hytrach na chosbi teuluoedd Cymreig, busnesau a'r sector amaeth."
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol bod "rhyfeloedd Wcráin ac Iran wedi dangos na allwn ni barhau i ddibynnu ar olew a nwy wedi'u mewnforio o dramor ar gyfer ein hanghenion ynni."
"Mae sero net nid ond yn hanfodol yn amgylcheddol, mae'n gyfle i adeiladu economi cryfach a mwy llewyrchus i Gymru."
Yn ôl Llafur Cymru mae ganddyn nhw weledigaeth am "Gymru sy'n annibynnol o ran ynni, wedi'i selio ar ynni glan, fyddai'n dod â swyddi da ac yn lleihau biliau".
"Ry'n ni wedi gosod targed cyfreithiol i sicrhau bod 100% o'r galw am drydan yng Nghymru yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035."
Dywedodd Plaid Cymru y byddai'n "gosod targed newydd i gyrraedd sero net erbyn 2040, a llwybr clir er mwyn cyrraedd y nod - y cynlluniau mwyaf uchelgeisiol ar sero net o unrhyw blaid sy'n cystadlu yn yr etholiad".
Dywedodd Reform bod "sero net, sydd wedi'i gefnogi gan bob prif blaid heblaw Reform, wedi cynyddu biliau pobl a difrodi sicrwydd ynni'r wlad".
Mae maniffesto'r Blaid Werdd yn dweud mai newid hinsawdd yw "her ddiffiniol ein hoes" a bod yn rhaid i Gymru "weithredu ar frys i dorri allyriadau, lleihau'r galw am ynni a thrawsnewid i ynni adnewyddadwy yn gyflymach".
Galwadau am Sgwrs Onest ynghylch Targedau Sero Net
Mae'n galw am "sgwrs onest" am y targedau.
"Y gwir yw... mae dyfodol newid hinsawdd yn nwylo gwledydd fel China, yr Unol Daleithiau ac India," meddai.
"Maen nhw'n cynhyrchu dros hanner y nwyon [tŷ gwydr] a dim un o'r gwledydd yna wedi penderfynu mynychu COP30 yn Belem, Brasil y llynedd."
"Dwi ddim yn anghytuno gyda symud at economi carbon isel," esboniodd Geraint.
"Y gyfrinach yw'r dechnoleg gywir yn y man cywir ar yr amser cywir," meddai, gan alw am flaenoriaethu ynni gwynt ar y môr ac adweithyddion niwclear modiwlaidd bach, fel sy'n dod i safle Wylfa ar Ynys Môn.






