Skip to main content
Advertisement

Y Ddadl Fawr: Pleidiau i gael eu herio a gweld y dewis ger bron

Y Ddadl Fawr yn cynnig cyfle i weld y dewis gwleidyddol ger bron cyn etholiad y Senedd gyda chwe arweinydd yn ymgysylltu mewn dadl fyw yn yr Egin, Caerfyrddin.

·4 min read
Bethan Rhys Roberts

Y Ddadl Fawr: Her i'r Pleidiau a Chyfle i Weld y Dewis Ger Bron

Mae dadleuon arweinwyr ar drothwy unrhyw etholiad yn rhoi pwysau mawr ar wleidyddion. O golli tymer i anghofio ffeithiau, mae gwleidyddion ar brawf gyda phleidleisiau yn y fantol.

Ar ôl dros chwarter canrif o lywodraeth Lafur yng Nghymru, mae teimlad o groesffordd go iawn yn etholiad y Senedd eleni. Mae'r Ddadl Fawr yn gyfle i weld y dewis ger bron.

Y tro hwn, bydd chwe gwleidydd yn ceisio swyno'r gynulleidfa fyw yn yr Egin yng Nghaerfyrddin, a'r gwylwyr a gwrandawyr adref hefyd:

  • Eluned Morgan, Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru
  • Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru
  • Paul Davies, dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
  • Helen Jenner, dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru
  • Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru
  • Tessa Marshall o'r Blaid Werdd

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd).

Dros bwy alla i bleidleisio yn fy ardal i?

I roi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal, mae'r BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd).

Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod.

Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.

Y Paratoadau a'r Pwysau ar y Gwleidyddion

O brofiad, mae gwleidyddion o bob plaid yn gallu mynd yn nerfus iawn cyn darllediad byw – a minnau hefyd!

Gyda'u timau, maen nhw'n ymarfer atebion posib, mireinio negeseuon craidd, cynllunio strategaethau i herio gwrthwynebwyr unigol, heb sôn am ymarferion llais neu newid gwisg ar y funud olaf.

Yr her fawr i mi fydd sicrhau tegwch, cydbwysedd, a thrafodaeth ddifyr, parchus, a thanllyd ar brydiau, sydd ddim yn ffars.

I bob gwleidydd, mae'r pwysau yn wahanol. Mae amddiffyn record o ddegawdau o lywodraethu yn wahanol i werthu addewidion heb eu profi, ac mae ceffylau blaen arolygon barn yn gwybod bod eu polisïau'n fwyfwy o dan y chwyddwydr.

Ond does dim dwywaith mai sêr pob dadl ydy'r gynulleidfa a'r gwrthdaro amrwd rhwng addewidion y gwleidyddion a phrofiadau personol.

Gall stori ddirdynnol am brofiad mewn ysbyty neu wrth geisio cadw dau ben llinyn ynghyd lethu'r gwleidydd mwyaf profiadol.

Ad (425x293)

Canllaw i'r 16 Etholaeth Newydd ar gyfer Etholiad y Senedd

Beth yw fy etholaeth i a phwy yw'r ymgeiswyr?

Dewch i adnabod arweinwyr y pleidiau.

Y Gynulleidfa a'r Tîm Cynhyrchu

Bydd 60 o bobl yn y gynulleidfa yn yr Egin o bob cwr o Gymru, yn adlewyrchu gwahanol safbwyntiau gwleidyddol.

Bydd canran yn cefnogi pob plaid, ac eraill eto i benderfynu sut i bleidleisio – pob un yn gobeithio i holi a herio.

Ers wythnosau, mae'r tîm cynhyrchu wedi bod yn gweithio'n ofalus i osod sgaffald Y Ddadl Fawr, sicrhau cynulleidfa gytbwys, a dewis cwestiynau sy'n adlewyrchu pryderon mwyaf y etholwyr.

Ar y noson, bydd sawl llais yn fy nghlust i sicrhau tegwch o ran cyfraniadau ac eiliadau i'r pleidiau i gyd. Gobaith yw y byddwn ni'n dysgu mwy am yr unigolion, eu polisïau, a'u heffaith ar ein bywydau bob dydd.

Hanes Dadleuon Gwleidyddol

I Richard Nixon yn y 1960au, roedd chwysu dan oleuadau'r stiwdio yn ddigon i golli lle yn y Tŷ Gwyn.

I Nick Clegg yn etholiad cyffredinol 2010 a dadl enwog "I agree with Nick", roedd ei berfformiad hyderus yn ddigon i danio "Cleggmania" a sicrhau lle i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y llywodraeth.

Mae dadleuon yma yn gallu bod yn allweddol, dylanwadol ac yn ddadlennol – maen nhw hefyd yn gallu bod yn ddiflas, swnllyd, ac weithiau'n syrcas – gwelwn sut y bydd hi nos Iau!

Sut i Ddilyn Y Ddadl Fawr

Dilynwch Y Ddadl Fawr yn fyw o'r Egin am 20:00 ar 23 Ebrill, ar S4C, BBC Radio Cymru, , BBC Cymru Fyw a YouTube S4C.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News