Skip to main content
Advertisement

Rhun ap Iorwerth yn debygol o fod yn Brif Weinidog Cymru o fewn dyddiau

Rhun ap Iorwerth yn debygol o gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru o fewn dyddiau, gyda chefnogaeth y Blaid Werdd a cheidwadwyr yn atal eu pleidlais. Gwella'r gwasanaeth iechyd yw prif flaenoriaeth etholwyr ym Mhwllheli.

·4 min read
Rhun ap Iorwerth yn gwenu gyda chefnogwyr a chyd-Asau Plaid Cymru o'i amgylch ar risiau adeilad y Senedd ddydd Sadwrn

Rhun ap Iorwerth yn debygol o gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru

Gall Rhun ap Iorwerth gael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru cyn gynted â dydd Mawrth.

Bydd Cymru'n cael ei Brif Weinidog Plaid Cymru cyntaf yr wythnos hon, ar ôl i dair o bleidiau'r Senedd awgrymu y byddant naill ai'n cefnogi Rhun ap Iorwerth neu'n atal eu pleidlais.

Mae Ken Skates, arweinydd dros dro Llafur, wedi awgrymu y bydd ei grŵp yn atal eu pleidlais.

Mae Jane Dodds, unig aelod Democratiaid Rhyddfrydol y Senedd, hefyd wedi dweud ei bod yn bwriadu atal ei phleidlais hi.

Fodd bynnag, bydd y Blaid Werdd yn cefnogi Rhun ap Iorwerth, sy'n golygu nad oes gan y pleidiau eraill y rhifau i rwystro ei enwebiad.

Dan Thomas yn cael ei holi ar gamera yn syth ar ôl cael ei ethol i'r Senedd
Disgrifiad o’r llun, Fydd ASau Reform yn enwebu eu harweinydd nhw, Dan Thomas, i fod yn Brif Weinidog ond dyw'r rhifau yn y siambr ddim o'u plaid

Gall y bleidlais gael ei chynnal cyn gynted â dydd Mawrth, a'r unig beth sydd ei angen ar Rhun ap Iorwerth yw cael mwy o bleidleisiau na unrhyw ymgeisydd arall, nid mwyafrif llwyr, i ennill.

Bydd ASau Reform yn enwebu eu harweinydd, Dan Thomas, i fod yn Brif Weinidog, ond nid yw'r rhifau yn y siambr o'u plaid.

Mae Reform wedi cadarnhau y byddant yn enwebu eu harweinydd Dan Thomas.

Bydd y Ceidwadwyr yn penderfynu eu cynlluniau mewn cyfarfod yn ystod y dydd, ond beth bynnag fydd eu penderfyniad, nid oes ganddynt y rhifau i rwystro Plaid Cymru.

Ad (425x293)

Cyn y bleidlais dyngedfennol, rhaid i'r Senedd ethol Llywydd. Hyd yma, dim ond Paul Davies o'r Ceidwadwyr sydd wedi cynnig ei hun am y swydd.

'Pobl wedi dewis gobaith' yn ôl arweinydd Plaid Cymru

Mae Rhun ap Iorwerth wedi rhybuddio ddydd Sul ei fod yn barod i 'fynd â'r frwydr' yn erbyn Llywodraeth y DU a'u dwyn i gyfrif os na fyddant yn "gwneud y peth cywir dros Gymru".

Prif flaenoriaeth: Gwella'r gwasanaeth iechyd

Pa bynnag drefniadau a'r cyffro yng Nghaerdydd wrth i Blaid Cymru baratoi i ffurfio llywodraeth leiafrifol, mae gwella'r gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i lawer o etholwyr.

Daeth hyn yn amlwg wrth holi pobl ym Mhwllheli, waeth pa blaid gafodd eu cefnogaeth yn yr etholiad ddydd Iau diwethaf.

Fel un a bleidleisiodd dros Blaid Cymru, dywedodd Valerie Griffiths fod canlyniad yr etholiad "yn dda iawn", ond mae hi eisiau mwy o gefnogaeth i'r GIG ac i fusnesau er mwyn "helpu i gadw siopa' i fynd" gan fod "mae'n reit ddistaw 'di mynd" mewn rhannau o Bwllheli.

Valerie Griffiths yn cael ei holi am ganlyniad etholiad y Senedd Rushes: elx vox pwllheli cymraeg/vox pop/1207/10/5
Disgrifiad o’r llun, Fel un a bleidleisiodd dros Blaid Cymru, roedd canlyniad yr etholiad "yn dda iawn", medd Valerie Griffiths, ond mae hi eisiau mwy o gefnogaeth i'r GIG ac i fusnesau er mwyn "helpu i gadw siopa' i fynd" achos "mae'n reit ddistaw 'di mynd" yn rhannau o Bwllheli

Roedd Merfyn Roberts o Blaid Reform yn teimlo bod angen i'r llywodraeth newydd ganolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd a "sortio pobol sydd ar benefits".

Merfyn Roberts yn cael ei holi am ganlyniadau'r etholiad ym Mhwllheli ddydd Sul (Rushes: elx vox pwllheli cymraeg/vox pop/1229/10/5)
Disgrifiad o’r llun, Reform gafodd pleidlais Merfyn Roberts, sy'n teimlo bod angen i'r llywodraeth newydd ganolbwyntio ar y gwasanaeth iechyd a "sortio pobol sydd ar benefits"

Ar ôl cefnogi Plaid Cymru yn yr etholiad, dywedodd Gerallt Wyn Griffiths ei fod hefyd eisiau blaenoriaethu gwasanaethau ysbyty a "rhoi mwy o arian iddyn nhw - stopio'r waiting lists 'ma".

Gerallt Wyn Griffiths yn cael ei holi ym Mhwllheli ddydd Sul am ganlyniad yr etholiad - rushes: elx vox pwllheli cymraeg/vox pop/1204/10/5
Disgrifiad o’r llun, Ar ôl cefnogi Plaid Cymru yn yr etholiad, mae Gerallt Wyn Griffiths hefyd eisiau blaenoriaethu gwasanaethau ysbyty a "rhoi mwy o arian iddyn nhw - stopio'r waiting lists 'ma"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News