Skip to main content
Advertisement

Prisiau Tocynnau Trafnidiaeth Cymru Yn Cael Eu Rhewi Am Flwyddyn o 1 Mawrth

Prisiau tocynnau trenau yng Nghymru yn cael eu rhewi am flwyddyn o 1 Mawrth, gan roi sicrwydd i deithwyr mewn cyfnod o gostau byw cynyddol. Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gwneud teithio ar y trên yn fwy deniadol ac yn rhatach gyda gwasanaeth "tapio i mewn a thapio allan" newydd.

·3 min read
Tren Trafnidiaeth Cymru

Prisiau Tocynnau Trenau Trafnidiaeth Cymru Yn Cael Eu Rhewi Am Flwyddyn

Bydd prisiau tocynnau trenau yng Nghymru yn cael eu rhewi am flwyddyn o 1 Mawrth, yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan y byddai cadw prisiau tocynnau trên ar eu lefel bresennol ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TfW) yn rhoi

"rhoi sicrwydd i deithwyr ar adeg pan mae llawer yn cael trafferth gyda chostau byw."

Mae'r cam hwn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd prisiau tocynnau trenau yn Lloegr yn cael eu rhewi am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd.

Dywedodd Plaid Cymru fod angen

"dadwneud degawdau o dan-ariannu'r rheilffyrdd"
, tra bod Reform UK wedi dweud bod Llafur wedi cael
"cenhedlaeth i sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol"
yng Nghymru, ond eu bod
"wedi methu"
.

Croesawodd rhai teithwyr yng ngorsaf Bangor y penderfyniad fore Sadwrn.

Dywedodd Gareth Williams:

"Dwi'm yn dreifio. Dod i fama 'dwi, a neidio ar y trên a mynd i ble bynnag dwi isio. Dwi reit hapus efo'r prisiau."

Gareth Williams

Ond doedd Joshua Cooper o Gaerdydd ddim yn teimlo'n sicr a fyddai'r penderfyniad yn gwneud gwahaniaeth, gan ddweud fod tocynnau

"dal yn ddrud, felly dwi ddim yn credu bod hyn yn mynd i gael llawer o effaith.
Mae'n rhaid dod a'r pris lawr ac wedyn efallai bydd pobl yn mynd ar y trên."

Advertisement
Joshua Cooper

'Yn fwy deniadol ac yn rhatach'

Bydd y rhewi prisiau yn berthnasol i docynnau sengl ymlaen llaw, tocynnau dychwelyd a gwasanaeth newydd "tapio i mewn a thapio allan", yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwasanaeth "tapio i mewn a thapio allan" yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn rhannau o dde Cymru a dywedodd y llywodraeth ei bod yn bwriadu ei chyflwyno mewn ardaloedd eraill.

Dywedodd Eluned Morgan,

"Mae mwy o bobl yn dewis teithio ar y trên yng Nghymru, mae gwasanaethau'n datblygu'n gyflymach ac maen nhw'n fwy dibynadwy."

Ychwanegodd y byddai'r rhewi prisiau yn gwneud teithio ar y trên yn

"fwy deniadol ac yn rhatach".

Saith gorsaf newydd yn rhan o addewid £14bn i reilffyrdd Cymru

Nid datganoli rheilffyrdd yw'r ffordd ymlaen, medd Gweinidog

Prisiau tocynnau trên yng Nghymru 'ddim yn gwneud synnwyr'

Dywedodd Plaid Cymru bod angen

"dechrau'r broses o ddadwneud degawdau o dan-ariannu cyllid rheilffyrdd gan Lywodraeth San Steffan"
i wneud newid
"pendant"
a
"datganoli isadeiledd rheilffyrdd - rhywbeth y mae Llafur wedi methu â gwneud."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y byddai'r blaid yn

"brwydro dros yr hyn sy'n ddyledus i Gymru, fel y gallwn fuddsoddi'n iawn yn ein seilwaith a chysylltu cymunedau Cymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Wales:

"Mae Llafur wedi cael cenhedlaeth i sefydlu rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol yng Nghymru.
Maen nhw wedi methu â gwneud hynny, a nawr maen nhw'n cael eu cosbi'n briodol am hynny."

Mae'r Blaid Geidwadol, Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News