Skip to main content
Advertisement

Prif Weinidog Cymru'n aros mewn Premier Inn ar ôl anghofio allweddi ei fflat

Prif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth, arosodd mewn gwesty Premier Inn yng Nghaerdydd ar ôl anghofio allweddi ei fflat ar Ynys Môn wrth i Blaid Cymru ddathlu buddugoliaeth hanesyddol yn etholiad y Senedd.

·3 min read
Rhun ap Iorwerth yn gwenu wrth annerch cefnogwyr ym Mae Caerdydd ddeuddydd wedi'r etholiad

Prif Weinidog newydd Cymru'n aros mewn gwesty Premier Inn ar ôl anghofio allweddi

Roedd Rhun ap Iorwerth wedi gadael allweddi ei fflat yng Nghaerdydd yn ei brif gartref ar Ynys Môn.

Bu'n rhaid i Brif Weinidog newydd Cymru drefnu i aros mewn gwesty Premier Inn yng Nghaerdydd wrth i Blaid Cymru ddathlu buddugoliaeth hanesyddol yn etholiad y Senedd – ar ôl anghofio goriadau ei fflat.

Roedd Rhun ap Iorwerth ar ei ffordd wedi'r cyfri o'r gogledd i Gaerdydd ddydd Gwener diwethaf pan sylweddolodd ei fod wedi gadael yr allweddi yn ei brif gartref ar Ynys Môn, tua 200 milltir o'r brifddinas.

Wedi iddo ddatgan bod

"pobl Cymru wedi dewis gobaith"
yn yr etholiad, bu'n rhaid iddo dreulio'r noson yn y gwesty a gofyn i'w dad, Edward Morus Jones, ddod â'r goriadau iddo.

O ganlyniad roedd yn bosib i'r cyn-athro, canwr a chyn-ymgyrchydd iaith ddathlu camp ei fab a llwyddiant y blaid ym Mae Caerdydd y diwrnod canlynol.

Dywedodd Mr Jones wrth raglen Post Prynhawn ddydd Llun ei fod yn

"emosiynol"
a bod y sefylla'n teimlo'n
"swreal"
.

Rhun ap Iorwerth a'i dad Edward Morus Jones yn cael sgwrs siriol o flaen torf o gefnogwyr o flaen y Senedd ddydd Sadwrn diwethaf
Disgrifiad o’r llun, Y tad a'r mab yn dathlu llwyddiant Plaid Cymru yn etholiad y Senedd yn ystod digwyddiad o flaen y Senedd a ddenodd gannoedd o gefnogwyr

Mae Plaid Cymru a chwmni Premier Inn wedi cael cais am ymateb.

Y tad a'r mab yn dathlu llwyddiant Plaid Cymru yn etholiad y Senedd yn ystod digwyddiad o flaen y Senedd a ddenodd gannoedd o gefnogwyr

Enillodd Plaid Cymru 43 o seddi ar gyfer seithfed tymor y Senedd – y tymor cyntaf gyda 96 aelod yn lle 60, a'r cyntaf o dan lywodraeth unrhyw blaid oni bai am Lafur.

Ad (425x293)

Er i bobl Cymru fwrw pleidlais ddydd Iau, ar y dydd Gwener y cafodd y pleidleisiau eu cyfrif gyda'r canlyniad yn cael ei gadarnhau yn gynnar gyda'r nos.

Fel y blaid fwyaf yn y siambr, fe gafodd Mr ap Iorwerth ei ethol yn brif weinidog ddydd Mawrth, ac mae Plaid Cymru'n llywodraethu heb fwyafrif.

Mr ap Iorwerth yn cynrychioli etholaeth newydd Bangor Conwy Môn ac yn byw ym Môn gyda'i wraig, Llinos.

Ond fel sawl aelod o'r Senedd, mae ganddo eiddo yng Nghaerdydd ar gyfer y diwrnodau y mae ar ddyletswydd ym Mae Caerdydd ac - erbyn hyn - ym mhencadlys Llywodraeth Cymru yn y ddinas.

Yn wahanol i brif weinidog y DU, sy'n byw yn San Steffan, neu brif weinidog Yr Alban, sy'n byw yn Bute House yng Nghaeredin, does dim preswylfa swyddogol ar gyfer prif weinidog Cymru.

Fe gododd gwestiynau ynghylch diffyg preswylfa ar gyfer prif weinidog Cymru yn 2021 yn dilyn protestiadau ger cartref y cyn-brif weinidog Mark Drakeford yng Nghaerdydd.

Arwydd gwesty Premier Inn

'Bydd enillion cynnar, ond y trawsnewid sy'n bwysig' - Rhun ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi cabinet newydd Llywodraeth Cymru

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News