Skip to main content
Advertisement

Pont y Borth closes after traffic staff are abused

Pont y Borth was temporarily closed after traffic management staff were abused, with UK Highways warning further incidents could shut the bridge again.

·3 min read
Pont y Borth

Bu'n rhaid i Bont y Borth gau yr wythnos yma ar ôl i weithwyr rheoli traffig gael eu sarhau a'u haflonyddu gan aelod o'r cyhoedd, yn ôl y contractwr UK Highways. Dywedon nhw fod swyddogion sy'n gweithio ar Bont y Borth yn aml yn cael eu sarhau, ond bod y digwyddiad diweddaraf ddydd Mawrth wedi rhoi lles a diogelwch staff mewn perygl.

Mae'r gweithwyr wedi dychwelyd a'r gwaith o adfer y bont yn parhau, ond dywedodd UK Highways os bydd mwy o ddigwyddiadau, y bydd y staff yn gadael eto a'r bont yn cau. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "diogelwch a lles y gweithlu rheoli traffig yn hollbwysig".

A beth ddigwyddodd?

Mewn datganiad dywedodd UK Highways A55 Ltd fod "cam-drin gweithwyr ar Bont y Borth wedi dod yn gyffredin yn ystod Cam 2 y rhaglen [gwaith atgyweirio], ond roedd y digwyddiad diweddaraf yn peryglu lles a diogelwch y gweithwyr, ac felly penderfynwyd atal y gwaith dros dro".

"Ein blaenoriaeth bob amser yw diogelwch a lles ein gweithlu a'n his-gontractwyr."

Dywedon nhw hefyd bod fideo o'r digwyddiad wedi cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Ychwanegon nhw fod awgrymiadau nad ydy gweithwyr yn canolbwyntio drwy fod ar eu ffonau symudol yn "anghywir", gan ddweud eu bod angen defnyddio eu ffonau i gadarnhau pwysau cerbydau.

"Cafodd swyddogion rheoli traffig parhaol eu cyflwyno er mwyn mynd i'r afael â diffyg cydymffurfiaeth dro ar ôl tro â'r terfyn pwysau a hysbysebwyd o 7.5 tunnell ar Bont y Borth.

"Ond, mae gweithredwyr yn dibynnu ar gydweithrediad defnyddwyr y ffordd i ddilyn eu cyfarwyddiadau a pharchu'r terfyn pwysau.

"Ar sawl achlysur mae cerbydau wedi anwybyddu cyfarwyddiadau gweithredwyr ac wedi croesi'r bont beth bynnag."

Ychwanegon nhw fod angen cynnal asesiad i unrhyw ddifrod ar ôl i gerbyd sy'n rhy drwm groesi a bod gorfod cau y bont "dro ar ôl tro yn cael effaith anochel" ar y gwaith o adfer y bont ac yn arwain at "gostau ychwanegol".

Advertisement

Beth yw'r cam nesaf?

Roedd swyddogion rheoli traffig yn ôl ar y safle ddydd Mercher, ond mae'r contractwr yn pwysleisio os bydd mwy o ddigwyddiadau, y bydd y staff yn gadael, y bont yn cau, a'r digwyddiad yn cael ei gyfeirio at yr heddlu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher:

"Yn dilyn digwyddiad ddoe [dydd Mawrth] a oedd yn ymwneud ag aelod o'r cyhoedd a gweithwyr rheoli traffig sy'n gweithredu'r cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar Bont y Borth, tynnwyd y gweithwyr yn ôl o'r safle er mwyn diogelu eu lles.

"Bydd y gweithwyr yn dychwelyd i'r safle heddiw.

"Arhosodd y bont ar agor neithiwr [nos Fawrth], gyda chydymffurfiaeth yn cael ei monitro o bell drwy ddefnyddio CCTV yn yr ardal."

Mae gwaith atgyweirio Pont y Borth i barhau tan y gwanwyn 2027, ac mae'r bont i gau yn llwyr eto am 28 awr i ddiogelu ceblau. Mae UK Highways wedi dweud y bydd unrhyw ddigwyddiadau pellach yn cael eu hadrodd i'r heddlu.

Gyrwyr sy'n torri rheolau Pont y Borth i gael eu cyfeirio at yr heddlu. Gwaith atgyweirio Pont y Borth i barhau tan y gwanwyn 2027. Pont y Borth i gau yn llwyr eto am 28 awr i ddiogelu ceblau.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb?

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod diogelwch a lles y gweithlu rheoli traffig yn hanfodol, ac roedd y gweithwyr wedi'u tynnu'n ôl dros dro ar ôl y digwyddiad ddydd Mawrth. Roedd monitro cydymffurfiaeth yn parhau drwy CCTV yn yr ardal tra oedd y bont ar agor neithiwr [nos Fawrth].

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News