Plaid Cymru Denies Election is About Independence
"Nid etholiad ar annibyniaeth yw hon," meddai Plaid Cymru, ond mae pleidiau eraill yn anghytuno.
Ar ôl i'w gwrthwynebwyr honni bod Plaid Cymru'n gwthio annibyniaeth yn yr etholiad, gwadodd Heledd Fychan ar Politics Wales bod ei phlaid yn canolbwyntio ar hynny.
Plaid Cymru wedi addo peidio cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn eu tymor cyntaf mewn grym petai nhw'n ennill etholiadau'r Senedd fis Mai, ond mi fydden nhw'n canolbwyntio fwy ar ddatganoli i Gymru.
Wrth lansio'u maniffesto yr wythnos hon, mi ddaethon nhw dan y lach gan wrthwynebwyr am addo "gosod y seiliau ar gyfer Papur Gwyn ar annibyniaeth".
Dywedodd Sam Kurtz o'r Ceidwadwyr y byddai Plaid Cymru'n gwario "arian mae treth dalwyr wedi gweithio'n galed amdano ar annibyniaeth" o fewn eu 100 niwrnod cyntaf, tra dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y bydden nhw'n canolbwyntio ar wella gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd Rodney Berman o'r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod nhw eisiau gweld mwy o ddatganoli i Gymru, fel datganoli Stad y Goron, ond tydyn nhw ddim eisiau "gwario mwy o arian yn mynd yn bellach lawr lon annibyniaeth".
'Dim refferendwm tymor cyntaf'
Ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Heledd Fychan:
"Rydym wedi dweud ers dros flwyddyn na fydd na refferendwm mewn tymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru. Mae hynny'n hollol glir.
Rydym hefyd rydym angen gweld datganoli cyfiawnder a heddlua, datganoli Stad y Goron, datganoli isadeiledd rheilffyrdd.
Dyna'r pethau y byddwn ni'n canolbwyntio arnyn nhw oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw gael eu gweithredu.
Mae'n angenrheidiol i Gymru gael y grymoedd yno os ydyn ni am weld cynnydd."
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud wrth BBC Cymru yr wythnos hon y bydden nhw'n lansio Comisiwn Cenedlaethol i wneud y gwaith ar Bapur Gwyn ar annibyniaeth, ac mi fyddai'r comisiwn yn costio £500,000.
Darn o ymchwil neu adroddiad trylwyr i bwnc cymhleth sy'n aml yn cael ei wneud gan lywodraeth yw Papur Gwyn.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud o'r blaen na fydden nhw'n cyd-weithio gydag unrhyw blaid, neu'n clymbleidio â nhw, os ydyn nhw'n gwario "ceiniog" ar annibyniaeth.
Yn ymateb i Heledd Fychan ar Politics Wales, dywedodd Rodney Berman:
"Mi fyddwn ni'n gweithio gyda phleidiau eraill lle mae hynny'n synhwyrol, ond tydyn ni ddim yn credu y dylai ni fod yn gwastraffu arian hanfodol pan mae'n gwasanaethau cyhoeddus mor brin o bres."
Dywedodd fod "rhaid i ni ganolbwyntio gyntaf ar gael setliad tecach i Gymru o fewn y DU, ond yn yr hirdymor mae Cymru am fod yn gyfoethocach o fewn y DU".
Mi fyddai Plaid Cymru'n "gwario arian mae treth dalwyr wedi gweithio'n galed amdano ar annibyniaeth" o fewn eu 100 diwrnod cyntaf, yn ôl Sam Kurtz o'r Ceidwadwyr, "a fyddai'n gwneud Cymru'n dlotach a phobl Cymru'n dlotach".
Mae llefarydd ar ran Reform UK wedi dweud:
"Mae Plaid wedi dweud y bydden nhw'n gweithio tuag at annibyniaeth. Mae hynny yn eu maniffesto mewn du a gwyn.
Rydym ni'n glir y dylai Llywodraeth Cymru fod yn canolbwyntio ar weithredu gwasanaethau cyhoeddus gwell, nid ar wneud pobol Cymru'n dlotach trwy'n rhwygo ni allan o'r Deyrnas Unedig."
Mae Llefarydd ar ran Llafur Cymru yn dweud y dylai Plaid Cymru "fod yn onest gyda phleidleiswyr".
"Maen nhw'n honni nad ydyn nhw'n canolbwyntio ar annibyniaeth yn yr etholiad yma ond mae eu maniffesto'n llunio map clir tuag at annibyniaeth. Nawr mae'n rhaid iddyn nhw esbonio'r twyll yma i bobol Cymru.
Dim ond Llafur Cymru sy'n cynnig sefydlogrwydd, difrifoldeb a gweledigaeth ar gyfer pennod nesaf Cymru gyda'r profiad i'w ddilifro."
Mae'r Gwyrddion hefyd wedi cael cais i ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




