Dedfryd i Daniel Wyke am Achosu Marwolaeth Cerddwr
Mae dyn 28 oed o Gaerfyrddin wedi cael dedfryd o bedair blynedd a hanner o garchar wedi iddo gyfaddef mai fe a achosodd marwolaeth cerddwr yn Llanpumsaint ddiwedd Rhagfyr 2024.
Roedd Aaron Jones, 38, o Lanpumsaint, allan yn cerdded ei gi yn y pentref, pan gafodd ei daro gan gar ger Capel y Bedyddwyr, Caer Salem, ar 23 Rhagfyr 2024.
Fe glywodd cwest y bu farw Mr Jones yn y fan a'r lle, gyda'i gorff wedi ei ddarganfod ym mynwent y pentref.
Cafodd Daniel Wyke, 28 oed o Lanybri, Caerfyrddin, ei arestio'r diwrnod canlynol ond ni chafodd ei gyhuddo nes bron i flwyddyn yn ddiweddarach.
Cafodd ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus mewn perthynas a marwolaeth Mr Jones, ac un cyhuddiad o yrru'n beryglus ar Heol Dŵr, Caerfyrddin yr un diwrnod.
Fe gafodd Aaron Jones, tad i ddau o blant, ei daro gan gar wrth iddo fynd â'i gi am dro ddeuddydd cyn y Nadolig a chafwyd hyd i'w gorff ym mynwent y pentref

Fe gafodd Mr Jones, tad i ddau o blant, ei daro gan gar wrth iddo fynd â'i gi am dro ddeuddydd cyn y Nadolig.
Yn Llys y Goron Abertawe ym mis Chwefror fe blediodd Wyke yn euog i'r cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Ond fe wadodd y cyhuddiad o yrru'n beryglus ar Stryd y Dŵr yng Nghaerfyrddin ar ôl y gwrthdrawiad yn Llanpumsaint.
Ddydd Llun yn Llys y Goron Abertawe, siaradodd Daniel Wyke i gadarnhau ei enw.
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC wrth Daniel Wyke fod ei weithredoedd yn "greulon o annynol".
Pynciau Cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Gyrrwr yn cyfaddef achosi marwolaeth cerddwr yn Sir Gâr
- Dyn wedi cael ei daro gan gar tra'n mynd â'i gi am dro - cwest
- Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad angheuol yn Llanpumsaint







