Dim ond 1% astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg yn y gyfraith, seicoleg, daearyddiaeth a phensaernïaeth. Ni wnaeth 67% o'r myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl astudio yr un credyd yn Gymraeg yn 2024/25, yn ôl ystadegau newydd.
Roedd y 33% astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg yn gynnydd o'i gymharu â 30% yn 2023/24. Fe wnaeth 22% astudio o leiaf 40 o gredydau yn Gymraeg, cynnydd 1% o'r flwyddyn flaenorol.
Daw'r ystadegau o adroddiad ar y Gymraeg mewn addysg uwch 2024/25 gan Medr - y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a noddir gan Lywodraeth Cymru. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC bod "y sefyllfa'n gwella ar draws y sector addysg uwch".
Ymhlith cofrestriadau gan fyfyrwyr sy'n siaradwyr Cymraeg rhugl sy'n hanu o Gymru yn unig, addysgu (60%), a meddygaeth a deintyddiaeth (52%) oedd y pynciau modiwlau â'r cyfrannau uchaf ag o leiaf un credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg.
Dim ond 8% o siaradwyr Cymraeg rhugl astudiodd o leiaf un credyd yn Gymraeg ym maes peirianneg, 5% ym maes cyfrifiadura a 4% ar gyfer pensaernïaeth, adeiladu a chynllunio.
Beth yw credyd?
Credydau yw'r unedau y mae prifysgolion yn eu defnyddio i ddangos maint y modiwl sy'n cael ei astudio.
Mae un credyd yn 10 awr o waith, sy'n cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a'r gwaith o baratoi asesiadau neu baratoi at arholiadau.
Felly byddai 200 awr o waith yn cael ei wneud mewn modiwl 20 credyd.
Dros flwyddyn lawn arferol, mae disgwyl i fyfyrwyr israddedig gwblhau 120 o gredydau.
Prifysgol Bangor oedd â'r gyfran uchaf (27%) o staff academaidd sydd ar gytundeb i addysgu yn Gymraeg
Yn 2024/25, roedd 9,120 o gofrestriadau gan fyfyrwyr yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn narparwyr addysg uwch Cymru - roedd hyn ychydig yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol.
Roedd siaradwyr Cymraeg rhugl yn 13% o'r 69,220 o gofrestriadau yn narparwyr Cymru gan fyfyrwyr o Gymru.
Roedd gan 15% arall ryw lefel o allu i siarad Cymraeg a hwythau naill ai'n siaradwyr nad oeddent yn rhugl neu'n siaradwyr â lefel gallu anhysbys.
Roedd 5,720 o gofrestriadau ag o leiaf un credyd a astudiwyd yn Gymraeg yn 2024/25, sy'n gynnydd o 3% o'i gymharu â 2023/24, er bod hyn yn dal yn is nag mewn blynyddoedd cynharach.
Mae'r adroddiad hefyd yn dangos:
Roedd mwy na dwywaith cymaint o gofrestriadau gan fyfyrwyr benywaidd yn cynnwys o leiaf un credyd a astudiwyd yn Gymraeg o'i gymharu â chofrestriadau gan fyfyrwyr gwrywaidd.
O'r cofrestriadau ag o leiaf un credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg, roedd myfyrwyr benywaidd hefyd yn fwy tebygol o astudio nifer uwch o gredydau yn Gymraeg na myfyrwyr gwrywaidd.
Roedd 4% o'r cofrestriadau gan yr holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai nad oeddent o Gymru ac nad oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg, yn cynnwys astudio o leiaf un credyd yn Gymraeg yn 2024/25, sef yr un gyfran ag yn 2023/24.
Roedd 630 o staff addysgu academaidd ar gytundeb i addysgu yn Gymraeg yn 2024/25, sy'n gynnydd o'r cyfanswm o 565 yn 2023/24.
Felly roedd 66% o staff addysgu yr oedd yn hysbys eu bod yn gallu addysgu yn Gymraeg wedi'u contractio i wneud hynny.
Ar y cyfan, mae 7% o staff addysgu ar gytundeb i addysgu yn Gymraeg.
Prifysgol Bangor oedd â'r gyfran uchaf (27%) o staff academaidd sydd ar gytundeb i addysgu yn Gymraeg, gyda Phrifysgol Aberystwyth yn dilyn wedyn (22%).

Prifysgol Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o gofrestriadau (3,320) gan fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg o unrhyw allu

Prifysgol Caerdydd oedd â'r nifer uchaf o gofrestriadau (1,610) gan fyfyrwyr yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
Prifysgol Bangor (1,250) a Phrifysgol Abertawe (1,185) oedd â'r niferoedd uchaf nesaf o gofrestriadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl.
Prifysgol Caerdydd hefyd oedd â'r nifer uchaf o gofrestriadau (3,320) gan fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg o unrhyw allu.
Yn dilyn wedyn roedd Prifysgol De Cymru (2,600) a'r Brifysgol Agored yng Nghymru (2,380).
O'r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai oedd â'r cyfrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg rhugl (35% ill dau), gyda Phrifysgol Aberystwyth yn dilyn (31%).
Roedd bron tri chwarter (72%) y cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru ym Mhrifysgol Aberystwyth a Grŵp Llandrillo Menai (75%) yn siaradwyr Cymraeg o unrhyw allu.
Roedd hanner y myfyrwyr o Gymru ym Mhrifysgol Bangor (54%) a Grŵp Colegau NPTC, sef Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Powys gynt (51%), hefyd wedi'u cofnodi fel rhai â rhywfaint o allu i siarad Cymraeg.
Ymrwymiad maniffesto
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y BBC:
"Bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae nifer yr aelodau staff sydd wedi'u contractio i addysgu yn Gymraeg hefyd wedi cynyddu ers y llynedd.
"Rydym yn croesawu hyn a byddwn yn parhau i weithio gyda Medr a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu'r cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg wrth astudio.
"Roedd cryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg bellach ac addysg uwch yn ymrwymiad maniffesto [Plaid Cymru], a byddwn yn adolygu addysg uwch yng Nghymru, gan gynnwys ystyried opsiynau i gynyddu'r ddarpariaeth o gyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones:
"Mae newidiadau diweddar i dirwedd addysg drydyddol Cymru yn cynnig cyfle pwysig i gryfhau cydweithio strategol er budd y Gymraeg.
"Mae ymrwymiad Medr i greu cynllun cenedlaethol i'r Gymraeg ar draws y sector addysg drydyddol yn allweddol yn y cyd-destun hwn.
"Rydym yn cydweithio gyda Medr, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau bod darparwyr yn mynd ati yn rhagweithiol i ehangu darpariaeth Gymraeg ac i annog mwy o ddysgwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Fel rhan o'r gwaith hwn mae angen ystyried materion ehangach na dim ond y ddarpariaeth addysgol."
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, dolen allanol yn gynharach eleni ac a oedd yn tynnu ar brofiadau dros 1,500 o fyfyrwyr fe ystyriwyd pa ffactorau ehangach sy'n hwyluso neu'n rhwystro myfyrwyr rhag defnyddio'r Gymraeg yn eu bywyd academaidd a chymdeithasol.
"Fe wnaethom nodi camau gwella clir, a byddwn yn gofyn i'r sefydliadau perthnasol fynd i'r afael â nhw er mwyn cryfhau sefyllfa'r Gymraeg o fewn y ddarpariaeth addysg uwch i'r dyfodol,"meddai'r llefarydd.
Un o "flaenoriaethau allweddol" Medr yw hybu addysg drydyddol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Nod 5 eu cynllun strategol, dolen allanol yw "hybu mwy o ddefnydd o'r Gymraeg, gan gynyddu'r galw am, a chyfranogiad mewn, dysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg".
Dywedodd llefarydd ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
"Mae'n bwysig cydnabod nad ydy pob myfyriwr yn cael cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Mae hynny am sawl rheswm gan gynnwys diffyg argaeledd darpariaeth Cymraeg yn ei sefydliad nhw, ond hefyd hyder myfyrwyr yn eu sgiliau Cymraeg.
"Mae'r Coleg yn croesawu ymrwymiad y llywodraeth newydd i gynyddu'r gyfran o'r gyllideb sy'n cael ei wario ar y Gymraeg yn y sector drydyddol.
"Byddai hyn yn galluogi'r Coleg i weithio gyda phartneriaid megis Medr a'r darparwyr i gynllunio mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ddilyn llwybrau Cymraeg di-dor, ac i sicrhau bod yr anogaeth a'r gefnogaeth ar gael iddyn nhw hefyd i ddewis y ddarpariaeth Gymraeg."
Prosiect newydd eisiau sicrhau fod pob teulu'n gwybod am addysg Gymraeg
Cannoedd ar restrau aros colegau addysg bellach - 'dydy o ddim yn deg'
Tynnu enw Glyndŵr o brifysgol yn 'neges anghywir am hyder a balchder'
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







