Skip to main content
Advertisement

Mae gofal plant yn ddrud ac yn straen i deuluoedd yng Nghymru

Mae teuluoedd yng Nghymru yn wynebu straen ariannol enfawr oherwydd costau uchel gofal plant a chostau byw, gyda phleidiau gwleidyddol yn cynnig atebion gwahanol cyn etholiad y Senedd.

·4 min read
Rebecca

Mae gofal plant yn ddrud ac yn straen i deuluoedd yng Nghymru

Dywedodd Rebecca na fyddai wedi gallu goroesi heb gymorth gan ei rhieni ei hun.

Mae'n anodd credu

"nifer y weithiau dwi'n gorwedd yn fy ngwely yn crio oherwydd ma' gymaint dwi eisiau rhoi iddi, ond yn methu"
, meddai mam i ferch dair oed.

Mae Rebecca o Abertawe'n dweud bod magu plentyn yn yr economi bresennol yn heriol iawn.

Bu Rebecca'n siarad â Hywel Griffiths, gohebydd y BBC, o ran sut brofiad yw delio â thlodi.

Dywedodd ei bod yn rhoi straen

"meddyliol ac emosiynol"
arni, ond bod costau byw a'r sefyllfa ar hyn o bryd o ran yr economi yn ei gwneud hi'n anoddach fyth.

'Anodd trio osgoi'r argyfwng'

Aeth Hywel Griffiths i ymweld â grŵp chwarae cymunedol Teilo yn Abertawe er mwyn trafod yr anawsterau ariannol sydd ar rieni.

Roedd Danielle, rhiant arall yno hefyd a dywedodd fod y broblem yn gallu tyfu'n gyflym.

"Mae'n anodd trio osgoi'r argyfwng,"
meddai.

"Dwi 'di dod yn agos iawn, iawn at y llinell honno ac yna mae'n rhaid i mi ddod o hyd i fwy (o arian) i ariannu'r argyfwng hwnnw ac ychwanegu at y taliad gwreiddiol."

Gydag etholiad y Senedd ychydig dros bythefnos i ffwrdd, fe hoffai Danielle weld y gwleidyddion yn cynnig cymorth ymarferol gyda chostau ynni drwy gydol y flwyddyn.

"Roedd y cynnig lleoedd diogel a chynnes yn hynod o ddefnyddiol dros y gaeaf.

"Dwi'n meddwl y gallen nhw gynnig mwy o help yn ystod yr haf - blancedi sy'n twymo, grantiau cynhesu, unrhyw beth sy'n helpu mewn ffordd."

Dywedodd Danielle fod y

"cynnig lleoedd diogel a chynnes yn hynod o ddefnyddiol dros y gaeaf"

Danielle
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Danielle fod y "cynnig lleoedd diogel a chynnes yn hynod o ddefnyddiol dros y gaeaf"

Mae tua thraean o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru - ffigwr sydd wedi aros yn weddol gyson yng Nghymru yn ystod y tri degawd diwethaf.

Ad (425x293)

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, mae angen i'r targed o ddileu tlodi plant, a gafodd ei ollwng yn 2016, gael ei adfer gan bwy bynnag a fydd mewn grym.

"Dwi'n ei ystyried yn esgeulustod truenus iawn o ran dyletswydd, uchelgais a ffocws, a hoffwn weld llywodraeth nesaf Cymru yn newid hynny.

"Allwn ni ddim fforddio gweld cenhedlaeth arall o blant yn profi'r amgylchiadau ofnadwy yma ble does dim digon o fwyd ar eu byrddau," a dim digon o arian i'w cael nhw i'r ysgol.

Mae'r prif bleidiau sy'n sefyll yn yr etholiad yma'n anghytuno o ran sut i wneud bywyd yn fwy fforddiadwy i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, y Blaid Werdd, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo ymestyn gofal plant am ddim, tra bod Plaid Cymru hefyd yn cynnig taliad o £10 yr wythnos i rai teuluoedd incwm isel.

Polisi blaenllaw Reform ar gyfer mynd i'r afael â chostau byw yw cwtogi ar dreth incwm.

Y Ddadl Fawr: Iechyd, costau byw a mwy o bwerau ymhlith y pynciau

'Methu gwario fel o'n i': Etholwyr ar gostau byw

Pa faterion sy'n poeni pleidleiswyr Cymru cyn etholiad y Senedd?

Yn ôl Cherrie Bija o Faith in Families, elusen sy'n rhedeg y grŵp chwarae a'r banc bwyd yn y gymuned, mae angen cymorth brys ar deuluoedd er mwyn dod allan o gylch dieflig o dlodi.

"Mae'n anodd iawn dod o hyd i gyfle i dorri allan ohono [argyfwng ariannol] gan eich bod wedi'ch dal yno.

"Mae gofal plant yn ddrud,"
meddai heb sôn am
"gael y dillad sydd eu hangen arnoch chi, darparu ar gyfer eich plant a chael cyfleoedd gwell - chi'n sownd mewn cylch".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News