Mae ymgyrchwyr yn Sir Benfro wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymyrryd yn y cynllun dadleuol i osod gorsaf radar ym Mreudeth, Sir Benfro. Roedd disgwyl i bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro benderfynu ar gamau nesaf DARC ddiwedd y mis, ond bellach mae Siân Gwenllian AS, y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, wedi cadarnhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud hynny.
Mae DARC yn rhwydwaith radar ar y cyd rhwng y DU, yr Unol Daleithiau ac Awstralia sy'n darparu monitro byd-eang o'r gofod ac yn cynyddu'r gallu i ganfod, olrhain ac adnabod gwrthrychau yn ddwfn yn y gofod. Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn yw codi 27 o ddysglau radar, 20 metr o uchder a 15 metr o led, ar safle Barics Cawdor.
Mae'r safle'n agos iawn i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Dyma sut fyddai'r ardal yn edrych petai'r cynllun yn mynd yn ei flaen, yn ôl ymgyrchwyr yn erbyn

Ar ran yr ymgyrchwyr, dywedodd llefarydd:
"Mae Siân Gwenllian wedi gwneud y penderfyniad cywir yma, ac mae DARC ymhell o fod yn brosiect seilwaith nodweddiadol.
"Mae ei oblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol yn golygu ei fod yn codi materion sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r broses gynllunio leol ac mae angen iddo gael ei ystyried ar lefel Llywodraeth Cymru."
Yn y llythyr i Gyngor Sir Penfro dywedodd y Gweinidog:
"Mae'r datblygiad arfaethedig yn codi materion diogelwch cenedlaethol o ystyried natur strategol y cynnig o ran amddiffyniad, ac mae'n fater cynllunio newydd.
"Gallai'r cynnig fod yn groes i bolisi cenedlaethol mewn perthynas â thirwedd, ecoleg a chynaliadwyedd.
"Gallai penderfyniad ar y cynnig fod yn ddadleuol y tu hwnt i'r ardal leol uniongyrchol, ac mae cryn ddiddordeb cyhoeddus yn y cynnig eisoes.
"Oherwydd yr holl faterion hyn, mae'r Gweinidog Cabinet wedi dod i'r casgliad bod y datdatblygiad o bwysigrwydd sy'n mynd y tu hwnt i lefel leol, ac y dylai'r cais gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru."
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw pellach.
Sut mae hyn yn effeithio ar y broses gynllunio?
Mae hyn yn golygu na fydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Penfro yn penderfynu ar gamau nesaf DARC ddiwedd y mis, a bydd y penderfyniad yn symud i Weinidogion Cymru. Mae'r ymyrraeth yn dod ar sail pryderon am ddiogelwch cenedlaethol, natur strategol y cynllun, a'r posibilrwydd y gallai fynd yn groes i bolisi cenedlaethol ar dirwedd, ecoleg a chynaliadwyedd.
Pam mae'r cynllun yn peri dadl?
Mae'r cynllun yn denu cryn sylw oherwydd ei faint, ei leoliad ger Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a'r ffaith ei fod yn rhan o rwydwaith rhyngwladol rhwng y DU, yr Unol Daleithiau ac Awstralia. Mae ymgyrchwyr yn dweud bod goblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol DARC yn golygu ei fod yn codi materion sy'n mynd y tu hwnt i broses gynllunio leol.
Key Facts
- Roedd disgwyl i Gyngor Sir Penfro benderfynu ar gamau nesaf DARC ddiwedd y mis.
- Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn gwneud y penderfyniad.
- Bwriad y Weinyddiaeth Amddiffyn yw codi 27 o ddysglau radar ar safle Barics Cawdor.
- Byddai'r dysglau'n 20 metr o uchder a 15 metr o led.
- Mae'r safle'n agos iawn i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.







