Skip to main content
Advertisement

Llafur yn addo rhewi cyfraddau treth incwm yng Nghymru os cânt etholiad Senedd

Eluned Morgan, arweinydd Llafur Cymru, yn addo rhewi cyfraddau treth incwm yng Nghymru os cânt etholiad y Senedd ym mis Mai, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â chostau byw a rhoi cymorth i deuluoedd.

·3 min read
Eluned Morgan

Addewid Rhewi Cyfraddau Treth Incwm

Mae arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, yn addo rhewi cyfraddau treth incwm yng Nghymru os yw ei phlaid yn ennill etholiad y Senedd ym mis Mai.

Ers 2019 mae gweinidogion Cymru wedi gallu cynyddu neu leihau'r tair cyfradd o dreth incwm yng Nghymru ond erioed wedi gwneud hynny.

Mae Eluned Morgan, sydd am ddatgelu manylion cynnig ei phlaid i bleidleiswyr yn hwyrach heddiw, yn dweud ei bod yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw "a rhoi arian yn ôl ym mhocedi'r bobl".

Mi fydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar 7 Mai i ddewis 96 aelod ar gyfer Senedd Cymru.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Oes etholiad yn fy ardal i?

Er mwyn rhoi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal chi, mae'r BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod

Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.

Cyfraddau Treth Incwm Presennol

Ar hyn o bryd, mae hawl gan Weinidogion Cymru newid y cyfraddau o fewn tri band treth sydd wedi'u gosod gan lywodraeth y DU.

Ond nid oes ganddyn nhw'r pwerau dros lefelau'r incwm y mae'n rhaid i bobl dalu'r cyfraddau gwahanol o dreth.

Mae treth incwm wedi cael ei osod ar 20% i bobl sy'n ennill rhwng 3,571 a 30,270.

Advertisement

Mae enillion rhwng 30,271 a 125,140 yn cael eu trethu ar gyfradd o 40%.

Ac mae cyfradd ychwanegol o 45% ar gyfer incwm dros 125,140.

Mae gan lywodraeth Cymru a'r Senedd b77r dros 10 pwynt canran o bob cyfradd treth incwm.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud eu bod yn rhagweld y byddai cyfraddau treth incwm Cymru yn codi 3.6bn yn y flwyddyn 2025-26.

'Gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws'

Wrth i Eluned Morgan ddatgelu maniffesto etholiad ei phlaid yn Abertawe heddiw mae disgwyl iddi ddweud y bydd rhewi treth incwm yn rhan o ffocws Llafur Cymru er mwyn "mynd i'r afael â chostau byw a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl".

Mi fydd hi'n dweud wrth gynulleidfa o aelodau'r blaid ac ymgeiswyr:

"Heddiw, rwy'n gwneud addewid clir i bobl Cymru: yn nhymor nesaf y Senedd, ni fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn codi treth incwm.
Mae tegwch yn dechrau gyda deall y pwysau y mae teuluoedd yn ei wynebu, ond mae tegwch hefyd yn golygu gweithredu.
Mae'r maniffesto hwn yn darparu cymorth go iawn gyda chostau byw. Byddwn yn gosod cap o 32 ar brisiau bws sengl ledled Cymru, byddwn yn cadw'r prisiau o 31 i bobl ifanc a theithio am ddim i bobl dros 60 oed, a byddwn yn creu 20,000 o leoedd gofal plant newydd, gan ehangu'r ddarpariaeth o naw mis oed fel y gall teuluoedd weithio a byw.
Oherwydd mae tegwch yn golygu - gwneud bywyd bob dydd ychydig yn haws."

Mae disgwyl iddi hefyd siarad am gynlluniau i greu swyddi, buddsoddi 34bn i adeiladu ysbytai newydd, mynd i'r afael a materion amgylcheddol a chodi safonau ysgolion.

Ar 7 Mai mi fydd pleidleiswyr ar draws Cymru'n mynd i'r polau i ethol 96 o aelodau, sydd wedi cynyddu o 60, o 16 etholaeth newydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News