Dim problem gyda chasgliad o bleidiau llai yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru - Gwyrddion
Yn ôl Anthony Slaughter, pe bai casgliad o bleidiau llai yn cael digon o seddi rhyngddyn nhw i sicrhau mwyafrif, byddai "dim problem" gyda hynny.
Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru yn dweud na fyddai ganddo broblem cefnogi llywodraeth a fyddai'n atal Reform rhag dod i rym yng Nghymru - hyd yn oed os mai Reform fyddai'r blaid fwyaf wedi'r etholiad ddydd Iau.
Yn ôl Anthony Slaughter, pe bai casgliad o bleidiau llai yn cael digon o seddi rhyngddyn nhw i sicrhau mwyafrif, byddai "dim problem" gyda hynny.
Mae Reform UK yn dweud y byddai sefyllfa o'r fath yn "stitch up sefydliadol" gan bleidiau adain chwith Cymru.
Mae'r arolygon barn yn awgrymu bod Plaid Cymru a Reform yn cystadlu i fod y blaid fwyaf yng Nghymru wedi'r etholiad, ond mae'n annhebygol y bydd unrhyw blaid yn cael mwyafrif, felly bydd angen rhyw fath o gefnogaeth gan bleidiau eraill.
Mae Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, y Gwyrddion a'r Ceidwadwyr i gyd wedi awgrymu parodrwydd i weithio gyda Phlaid Cymru ar ôl yr etholiad, ond dim ond y Ceidwadwyr sydd wedi cadw'r drws ar agor o ran gweithio gyda Reform.
'Dyna ddemocratiaeth'
Cafodd Anthony Slaughter ei holi am gyhuddiadau o "stitch up" pe bai Reform y blaid fwyaf ar ôl 7 Mai, ond yn methu â chael y gefnogaeth angenrheidiol i lywodraethu.
"Byddwn ni'n cael pedair blynedd o Reform yn dweud bod yr etholiad wedi cael ei ddwyn oddi wrthyn nhw, Donald Trump pur, nonsens Nigel Farage."
"Dyna ddemocratiaeth, dyna gynrychiolaeth gyfrannol.
"Pe bai hynny'n digwydd, byddai'n golygu bod mwy o bobl wedi pleidleisio dros rywun heblaw am Reform nag o blaid Reform, felly does gen i ddim problem gyda hynny."
"Rydych chi'n ethol pobl yn gyfrannol, felly byddai hynny'n cynrychioli'r hyn yr oedd pobl Cymru wedi pleidleisio drosto."
Ymunodd Zack Polanski, arweinydd y blaid Werdd, ar y llwybr ymgyrchu ddydd Sadwrn

Yn ymateb, dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, mai'r "unig ffordd i atal stitch up sefydliadol a fyddai'n gweld Plaid yn caniatáu i Lafur ddychwelyd i lywodraeth ydy pleidleisio dros Reform".
Mynnodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mai ei blaid yw'r unig un all guro Reform yng Nghymru.
Yn ymateb i sylwadau Anthony Slaughter ar benwythnos olaf yr ymgyrch, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:
"Dim ond un blaid all ennill mwy o seddi na Reform - a Phlaid Cymru ydy honno.
"Bydd pleidleiswyr sydd eisiau arweinyddiaeth newydd, uchelgeisiol a goddefgar i Gymru, yn canolbwyntio ar y ffordd orau o gyflawni hynny.
"Yr unig ffordd i atal Reform UK rhag bod y blaid fwyaf a dod â'u gwleidyddiaeth atchweliadol i Gymru, ydy pleidleisio dros Blaid Cymru ar 7 Mai."
Wrth siarad ar Radio 4, dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds "nad oes unrhyw gytundebau i'w gwneud rhyngom ni a Reform UK a'r Ceidwadwyr".
Dywed y blaid mai un o'i llinellau coch ar gyfer trafodaethau ydy na chaiff ceiniog ei gwario ar baratoadau ar gyfer annibyniaeth.
Ond dydy hi heb ddiystyru gweithio gyda Phlaid Cymru, plaid sy'n addo ariannu comisiwn i edrych ar annibyniaeth.
Wrth gael ei holi'n benodol am weithio gyda Phlaid Cymru, dywedodd Jane Dodds: "Byddwn yn cael trafodaethau gydag unrhyw blaid sy'n rhannu ein gwerthoedd ac maen nhw'n glir iawn - dydyn ni ddim eisiau unrhyw arian sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru i gael ei wario ar annibyniaeth."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, wrth siarad gyda'r BBC, y byddai'n fodlon gweithio gydag unrhyw blaid sy'n fodlon cyflawni addewidion allweddol y Ceidwadwyr.
"Os ydy'r pleidiau eraill hynny'n barod i fy helpu i weithredu toriad treth i bobl o ran cyfradd sylfaenol treth incwm, os ydyn nhw'n barod i weithio gyda mi i ddileu'r aelodau ychwanegol o'r Senedd sy'n cael eu gorfodi ar bobl Cymru eleni, os ydyn nhw'n barod i weithio gyda mi i roi terfyn ar y gwastraff llywodraethol a chyflawni'r toriad yn y dreth stamp, byddaf yn gweithio gydag unrhyw un ohonyn nhw."
Mae Llafur wedi gwrthod gwneud sylw.
Etholiad Senedd Cymru: Cymharwch bolisïau'r pleidiau
Canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd
Etholiad 2026: Pa un yw fy etholaeth i a phwy yw'r ymgeiswyr?
Fe wnaeth arweinydd y blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter, amddiffyn Zack Polanski hefyd - yr arweinydd dros Gymru a Lloegr i'r blaid, gan ddweud bod ganddo "bob ymddiriedaeth a ffydd yn Zack" o hyd a'i fod yn "ased gwych" yn yr ymgyrch.
Ddydd Iau, dywedodd Mr Slaughter fod penderfyniad Mr Polanski i rannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol am weithredoedd yr heddlu wrth arestio ymosodwr Golders Green, Llundain, yn "amhriodol".
Ond ddydd Sadwrn dywedodd Mr Slaughter, gyda Zack Polanski yn ymuno gydag ef ar y llwybr ymgyrchu, ei fod wedi cael ei "ddal ar y spot", pan wnaeth y sylw mewn dadl arweinyddion ar LBC.
"Mae o wedi gwneud ei ymddiheuriad yn glir ac wedi cynnig cwrdd â Mark Rowley (prif swyddog Heddlu'r Met), felly dwi'n meddwl bod hynny wedi cael ei setlo.
"Mae gen i bob ymddiriedaeth a ffydd yn Zack o hyd," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






