Dwyn wartheg o fferm ar Ynys Môn a’u darganfod yn Stoke-on-Trent
Cafodd 14 o wartheg eu dwyn o fferm ar gyrion Llanerch-y-medd ym mis Rhagfyr 2022. Yn ddiweddarach, fe'u darganfuwyd dros 100 milltir i ffwrdd yn Stoke-on-Trent, gan arwain at ddedfryd i grŵp o ddynion.
Ar 11 Rhagfyr 2022, darganfu ffermwr ar gyrion Llanerch-y-medd fod rhai o'i wartheg yn rhydd ac 14 yn colledig. Wedi mwy na pheth dros bedwar mis, fe gafodd y gwartheg eu canfod yn Stoke-on-Trent ar ôl i dîm troseddau cefn gwlad Heddlu'r Gogledd archwilio dwy fferm yn yr ardal honno.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, cafodd pump o ddynion eu dedfrydu i gyfnodau o garchar wedi eu gohirio ar ôl pledio'n euog i'w rhan yn y lladrad.
Tystiolaeth CCTV a phrofion DNA
Wrth ymchwilio, defnyddiodd Heddlu'r Gogledd luniau o gamerâu cylch cyfyng i ganfod lori a aeth tuag at y fferm, ac oddi yno. Cafodd y lori ei weld yn ddiweddarach ar yr A55 yn teithio i gyfeiriad Wrecsam.
Gwnaeth yr heddlu gysylltu'r cerbyd â Liam Kettleborough, 29, o Rugby, a'i arestio. Wrth chwilio ei ffôn, daeth swyddogion o hyd i negeseuon rhyngddo ef a'r pedwar diffynnydd arall: Jack Billington, 23, o'r Orsedd, Wrecsam; Stanley Jones, 26, o Wrecsam; Michael McLeod, 57, o Higher Kinnerton, Sir y Fflint; a Clifford Smith, 65, o Stoke-on-Trent.
Roedd y negeseuon, ynghyd â gwybodaeth am leoliad eu ffonau symudol, yn dangos bod Billington, Jones, a McLeod wedi teithio i Ynys Môn ar 10 Rhagfyr 2022 ac yn ôl i ardal Wrecsam yn oriau mân y bore canlynol. Yna cafodd y cerbyd ei yrru i fferm Clifford Smith yn ardal Stoke-on-Trent.
Daeth swyddogion o hyd i 12 o wartheg wedi'u dwyn ar ddwy fferm Smith, ac roedd profion DNA ar naw ohonynt yn profi eu bod wedi dod o'r fferm ar Ynys Môn. Clywodd y llys fod cost y lladrad yn tua £79,000.
Galw am adnoddau i fynd i'r afael â throseddu cefn gwlad 'bygythiol'
Cafodd Billington ddedfryd o 14 mis o garchar, wedi ei gohirio am 18 mis. Bydd yn rhaid iddo wneud 250 awr o waith di-dâl, talu £1,000 mewn iawndal, ac mae wedi ei wahardd rhag gyrru am flwyddyn.
Cafodd Kettleborough ddedfryd o 19 mis o garchar, wedi ei gohirio am ddwy flynedd. Bydd yn rhaid iddo hefyd wneud 250 awr o waith di-dâl a thalu £1,000 mewn iawndal.
Cafodd McLeod ddedfryd o 19 mis o garchar, wedi ei gohirio am ddwy flynedd, a chyrffyw dros nos am chwe mis. Bydd yn rhaid iddo dalu £500 mewn iawndal.
Dedfrydwyd Stanley Jones hefyd i 19 mis o garchar, wedi ei gohirio am ddwy flynedd. Bydd yn rhaid iddo wneud 210 awr o waith di-dâl a thalu £1,000 mewn iawndal.
Roedd y pedwar wedi pledio'n euog i gynllwynio i ladrata. Roedd y ffermwr Clifford Smith o Stoke-on-Trent wedi pledio'n euog i gyhuddiad o drin eiddo oedd wedi ei ddwyn. Cafodd ddedfryd o 12 mis o garchar, wedi ei gohirio am 12 mis. Bydd yn rhaid iddo dderbyn triniaeth iechyd meddwl, a thalu £200 mewn iawndal.
'Achos cywilyddus'
Dywedodd y barnwr Nicola Jones bod yr achos yn ymwneud â phobl oedd yn gweithio o fewn y gymuned amaethyddol, a bod yr hyn ddigwyddodd yn "gywilydd".
Dywedodd bod "ffermio wedi ei seilio'n helaeth iawn ar ymddiriedaeth".
Fe wnaeth hi hefyd ganmol "dycnwch" yr ymchwiliad gan yr heddlu.
Wedi'r dedfrydu, dywedodd Andrew Warman o Wasanaeth Erlyn y Goron ei fod yn ymchwiliad trylwyr, gyda thystiolaeth wedi dod o wahanol ffynonellau.
"Roedd hynny'n golygu bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gallu cyflwyno tystiolaeth gref oedd yn dangos sut yr oedd pob unigolyn wedi chwarae rhan yn y drosedd," meddai.
"Mae troseddau gwledig yn cael effaith sylweddol ar gymunedau, gan effeithio ar fywoliaeth pobl, ac mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd troseddau o'r fath o ddifrif."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







