Colled fawr i deulu Harry Turner
Dywedodd teulu Harry Turner y byddai colled fawr ar ei ôl.
Llofruddiaeth yn sgil ffrae am sŵn
Mae dyn wedi cael ei ganfod yn euog o lofruddio ei gymydog yn sgil ffrae am sŵn.
Cafodd marwolaeth Harold Turner ei recordio ar ddictaffon oedd yn eiddo i James Hughes, 67.
Eisteddodd Hughes ar ben Mr Turner, 68, gan ei rwystro rhag anadlu, a'i guro droeon gyda'i ffon gerdded.
Daeth hynny wedi i Mr Turner gwyno bod Hughes yn ei gadw'n effro gyda sŵn o'i fflat yn Llanelwy, Sir Ddinbych.
Bu farw Harold Turner, oedd yn cael ei adnabod fel Harry, ar ddydd Nadolig 2025 yn yr Hen Balas - man sy'n cynnig cartref i unigolion a chyplau dros 55 oed.

Llofruddiaeth Llanelwy: Dyn yn ymddangos yn Llys y Goron
Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi marwolaeth ar ddydd Nadolig.
Roedd Hughes yn honni fod Mr Turner wedi dod i'r coridor yn "chwifio dyrnau", a'i fod yn amddiffyn ei hun.
Eisteddodd ar Harry Turner, a phan ddywedodd y pensiynwr nad oedd yn medru anadlu, atebodd Hughes trwy ddweud:
"Am siom."
Clywodd Llys y Goron Caernarfon ei fod hefyd wedi dweud wrth Mr Turner y
"galli di farw, dwi ddim yn poeni".
Bu'r ddau yn ffrindiau yn y misoedd cyn y digwyddiad, gyda Harry Turner yn cerdded ci James Hughes yn gyson oherwydd ei fod yn cael trafferth symud.
Ond daeth y cytundeb i ben tua diwedd 2025, ac fe ddechreuodd ffrae pan gwynodd Mr Turner i staff fod Hughes yn taro'r wal gyda'i ffon gerdded ac yn ei gadw'n effro yn y nos.
Mae fflatiau'r Hen Balas yn Llanelwy yn cynnig cartref i unigolion a chyplau dros 55 oed.
Ymosodiad a recordiad dictaffon
Ar ddydd Nadolig y llynedd, roedd Harry Turner ar fin symud allan i gartref arall oedd wedi cael ei ganfod gan ei ffrindiau, er mwyn iddo fedru cael rhywfaint o gwsg.
Ond fe wnaeth Hughes ymosod arno, ac roedd yn gwisgo dictaffon - dyfais i recordio sgyrsiau er mwyn ei helpu i gofio pethau a deall.
Roedd yn recordio ei ymosodiad ar Mr Turner.
Roedd hi'n bosib clywed Mr Turner - oedd â chlefyd y galon - yn methu â chael ei wynt, ac yn gofyn i Hughes godi oddi arno.
Mae'r recordiad sain yn cynnwys sŵn Hughes yn taro Mr Turner, oedd yn anymwybodol, sawl gwaith gyda'i ffon gerdded.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r eiddo ar Stryd Fawr Llanelwy ar ddydd Nadolig 2025.

Ar ôl hynny aeth yn ôl i'w fflat, gwneud diod poeth a gwrando ar gerddoriaeth Nadolig cyn galw ambiwlans 23 munud yn ddiweddarach.
Nid oedd yr ymdrechion i adfywio Mr Turner yn llwyddiannus.
Fe wnaeth archwiliad post mortem ddarganfod bod Mr Turner wedi marw o ganlyniad i glefyd y galon, straen, a chael ei atal, ac roedd arwyddion o asffycsia.
Roedd hefyd wedi dioddef trawma i'w ben a'i wyneb.
Datganiad Hughes ar ôl y digwyddiad
Clywodd y llys fod Hughes wedi dweud wrth ei nai ar y ffôn ar ôl y digwyddiad:
"Dwi'n meddwl 'mod i wedi lladd rhywun."
Dywedodd wrth yr heddlu bod Mr Turner wedi bod yn ei fygwth.
Cyn yr ymosodiad, roedd Harry Turner wedi bod yn yfed alcohol ac wedi gadael neges sain i Hughes yn dweud ei fod
"am ei gael o".
Dywedodd y Barnwr Matthew Nicklin wrth Hughes y byddai'n cael ei ddedfrydu yr wythnos nesaf, ond ei fod yn wynebu dedfryd oes am ei fod yn euog o lofruddio.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd gyfeirio eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn dilyn marwolaeth Mr Turner.
Penderfynon nhw fod angen ymchwiliad, ond y dylai gael ei wneud yn lleol gan Heddlu'r Gogledd.






