Gyrrodd Daniel Morgan i mewn i'r dafarn ddwywaith
Mae dyn o dde Cymru a wnaeth yrru cerbyd JCB i mewn i dafarn wedi cael ei garcharu.
Roedd Daniel Morgan, sy'n 35 oed o ardal Rhigos, Rhondda Cynon Taf, wedi difrodi sawl cerbyd cyn gyrru at dafarn y New Inn yng Nghefn Rhigos yn Rhagfyr 2025.
Roedd wedi pledio'n euog i gymryd cerbyd, difrod i eiddo dros £5,000, gyrru'n beryglus a difrod troseddol sy'n peryglu bywyd.
Yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Iau, cafodd ddedfryd o dair blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Jenna Herbert fod yr ymosodiad yn un "difeddwl" ac wedi ei dargedu at y dafarn.
Roedd difrod i du blaen tafarn y New Inn yn Rhigos yn amlwg wedi'r digwyddiad
Cafodd yr heddlu eu galw ychydig ar ôl 20:45 ar 4 Rhagfyr, ar ôl i Daniel Morgan yrru i mewn i'r dafarn ddwywaith, gan achosi difrod helaeth.
Roedd wedi bod yn yfed yn y New Inn, cyn iddo adael yn bygwth ymosod ar y dafarn gyda cherbyd JCB.
Yn hwyrach yn y dydd, aeth i fferm a dwyn y cerbyd trwy ei yrru trwy'r sied lle'r oedd yn cael ei gadw.
Parhaodd i yrru'r JCB ar y ffordd fawr, gan wthio cerbydau cyn cyrraedd y dafarn.
Roedd aelod o'r cyhoedd wedi ceisio rhwystro Morgan gyda threlar a thryc ar draws ei lwybr, ond gyrrodd yn syth drostynt, gan achosi difrod.
Fe wnaeth aelodau o'i deulu hefyd geisio ei rwystro gyda chloddiwr, a thrwy ddefnyddio'r bwced fe lwyddon nhw i'w stopio yn y diwedd.
Cafodd ei arestio yng nghaban y cerbyd.
Clywodd y llys ei fod yn delio gyda phroblemau personol ar y pryd, gan gynnwys camddefnyddio cocên ac alcohol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Dyn yn pledio'n euog ar ôl gyrru cerbyd JCB mewn i dafarn






