Skip to main content
Advertisement

Dyn ar goll am 20 mlynedd wedi marw o doriadau i’w esgyrn

Cafodd gweddillion Russell Scozzi, a fu ar goll ers Mai 2002, eu canfod yn y Mwmbwls ym mis Ebrill 2022. Dywed cwest iddo farw o nifer o doriadau i'w esgyrn.

·3 min read
Russell Scozzi

Bu farw Russell Scozzi o ganlyniad i nifer o doriadau i'w esgyrn, ond mae'r ffordd y digwyddodd hynny yn parhau i fod yn ddirgelwch, yn ôl dyfarniad cwest. Roedd gweddillion ei gorff, a gafodd eu canfod dros 20 mlynedd ar ôl iddo fynd ar goll, yn perthyn i'r dyn a oedd wedi bod ar goll ers Mai 2002.

Cafodd gweddillion corff Russell Scozzi, oedd yn 22 oed pan aeth ar goll yn 2002, eu darganfod gan ddyn oedd yn chwynnu ei ardd yn y Mwmbwls ym mis Ebrill 2022. Cafodd Mr Scozzi, dylunydd graffeg, ei weld olaf yng ngorsaf fysiau'r Quadrant yn Abertawe, ym misoedd Mawrth a Mai 2002.

Clywodd y cwest yn Neuadd y Ddinas Abertawe bod yn rhaid ei adnabod trwy ddefnyddio cofnodion deintyddol.

Canfod gweddillion corff dyn sydd wedi bod ar goll ers 2002

Dywedodd y Ditectif Sarjant Sara Herbert yn y gwrandawiad fod nifer o lwybrau ymchwilio wedi cael eu dilyn dros y blynyddoedd, gan gynnwys y posibilrwydd bod Mr Scozzi wedi cael ei herwgipio gan werthwyr cyffuriau.

Ni chafodd unrhyw beth ei ganfod i gefnogi'r ddamcaniaeth ei fod wedi cael ei herwgipio,

meddai, gan ychwanegu mai

sibrydion a dyfalu oedd y cyfan
.

Roedd gan Mr Scozzi radd, ac roedd yn medru siarad Ffrangeg a Sbaeneg. Bu dramor yn gweithio fel dyluniwr graffeg ac yna fel rhaglennwr cyfrifiaduron ym maes hysbysebu. Roedd wedi priodi ac wedi cael mab a merch.

Clywodd y cwest ei fod wedi mynd yn gaeth i gocên a heroin a bod ganddo ddyledion o tua £16,000.

Dywedodd rhai oedd yn ei adnabod wrth yr heddlu ei bod hi'n bosib bod dau werthwr cyffuriau o Fryste, yr oedd pres yn ddyledus iddynt, wedi ei herwgipio.

Advertisement

Ni ddaeth yr heddlu o hyd i unrhyw dystiolaeth o hynny.

'Cyfle i'w alaru'n iawn'

Dywedodd ei chwaer, Danielle Scozzi-Owens, fod y golled wedi

llorio
y teulu.

Ddwy flynedd ar ôl iddo ddiflannu, dywedodd hi ar BBC Radio Wales fod cael aelod o'r teulu ar goll yn gwaethygu wrth i amser fynd yn ei flaen.

Mae'n anodd disgrifio'r ansicrwydd.
Rydych chi'n meddwl bob dydd ei fod ar fin ymddangos. Mae pob diwrnod yn mynd yn anoddach,

meddai.

Rhoddodd Ms Scozzi-Owens deyrnged iddo pan gafodd ei weddillion eu canfod, gan ddweud ei bod yn cydymdeimlo gyda'i blant

sydd wedi tyfu i fyny heb eu tad a heb wybod erioed yn iawn beth ddigwyddodd iddo
.

Ro'n i'n caru Russell. Fy mrawd mawr oedd e' a ro'n i bob amser yn edrych i fyny ato pan oeddwn i'n tyfu fyny.
O'r diwedd, gallwn ni gael y cyfle i alaru amdano'n iawn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News