Arestiad a Digwyddiadau Cyntaf
Cafodd Moynul Janu ei arestio ym Mharc Fictoria yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2025.
Bydd dyn, 35 oed ac heb gartref sefydlog, a gyfaddefodd i geisio herwgipio plant o barc yng Nghaerdydd a meithrinfa yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, yn cael ei gadw mewn ysbyty diogel.
Ymddangosodd Janu yn Llys y Goron Merthyr Tudful drwy gyswllt fideo o ysbyty iechyd meddwl.
Ymosodiad ym Mharc Victoria
Ym mis Gorffennaf 2024, ceisiodd Janu herwgipio dau blentyn dan bump oed o'r ardal chwarae dŵr ym Mharc Victoria, Caerdydd.
Y diwrnod canlynol, ceisiodd fynd i mewn i feithrinfa, lle bu’n rhaid i staff weithredu prosesau diogelwch i’w atal.
Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Fictoria yn Nhreganna ym mis Gorffennaf 2025.

Dywedodd y llys fod y plant yn chwarae yn y ffynhonnau dŵr ym Mharc Victoria pan aeth Moynul Janu at un plentyn, gan gyffwrdd ei choes gyda'i goes ef a rhoi ei droed dros y ffynnon.
Gafaelodd mam y ferch yn ei phlentyn ac aeth at riant arall i egluro beth oedd wedi digwydd.
Dilynodd Janu hi, safodd rhwng y ddwy fenyw a dweud wrthyn nhw ei fod yn "gafael yn y plant", gan afael ym mreichiau'r plant.
Gwaeddodd y ddwy fenyw arno a'i rwystro, ac fe glywodd y llys iddo dapio un plentyn ar y pen cyn symud i ffwrdd ac ymddangos fel pe bai'n siarad i mewn i oriawr ddigidol.
Ceisio Mynd i Feithrinfa
Yn ddiweddarach, dywedodd nad oedd wedi bod yn tynnu lluniau, nad oedd ganddo ffôn ac nad oedd gan yr oriawr bŵer.
Dywedodd ei fod yn chwilio am swydd a'i fod yn briod gyda phlant ym Mangladesh, ond ei fod yn ddigartref yn y DU.
Cafodd yr heddlu eu galw a chafodd ei gludo i ganol Caerdydd cyn cael ei ryddhau.
Y diwrnod wedyn, cafodd ei weld mewn ardal dderbynfa meithrinfa yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr lle'r oedd 17 o blant.
Pan gafodd ei herio gan aelod o staff, fe wthiodd heibio a cheisio mynd i mewn i ardal dan glo lle'r oedd y plant drwy wthio rhifau ar gyfer cod ar fysellbad ar y wal.
Cafodd gweithdrefnau cloi eu gweithredu yn y feithrinfa ac arhosodd Janu yn y coridor a thu allan am 15 munud cyn gadael.
Cafodd ei arestio gerllaw yn fuan wedyn.
Adroddiadau a Datganiadau'r Teuluoedd
Yn y llys, dywedodd mam un o'r plant ym Mharc Victoria yn y dyddiau ar ôl y digwyddiad fis Gorffennaf 2025 fod ei merch wedi
"deffro'n sgrechian ei fod yn dod i'w nôl".
Dywedodd wrth y llys ei bod yn credu, pe na bai hi'n gwylio ei phlentyn yn agos,
"y byddai wedi'i chymryd pe bai wedi cael y cyfle".
Dywedodd mam y plentyn arall
"fod dyn dieithr wedi ceisio cymryd fy mhlentyn o'm blaen heb sylweddoli bod yr hyn yr oedd yn ei wneud yn anghywir".
Ychwanegodd ei bod wedi bod yn
"ofni y byddai'r dyn hwn yn dod i nôl fy mhlentyn o fy nghartref fy hun"
a dywedodd ei bod yn poeni y byddai ei phryder cynyddol yn dilyn y digwyddiad hwn yn cael effaith ar ei phlentyn yn y dyfodol.
Diagnos a Chadw mewn Ysbyty Diogel
Clywodd y llys fod Moynul Janu wedi dioddef gyda'i iechyd meddwl yn y DU ac ym Mangladesh.
Daeth dau seiciatrydd i'r casgliad ei fod yn dioddef o anhwylder deubegynol adeg y digwyddiadau.
Mae wedi bod yn cael triniaeth mewn ysbyty diogel ers mis Hydref 2025, a daeth yr adroddiadau seiciatrig i'r casgliad y dylai gael ei gadw'n barhaus o dan y ddeddf iechyd meddwl.
Dywedodd y Barnwr Kember wrth Lys y Goron Merthyr Tudful bod Janu yn dioddef o anhwylder meddwl, gan ei ddedfrydu i gyfnod amhenodol yn yr ysbyty o dan y ddeddf iechyd meddwl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




