Ymosodiad gyda chyllell fawr mewn ysgol Aberdaugleddau
Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau am tua 15:20 ar 5 Chwefror ar ôl adroddiadau bod disgybl gyda chyllell wedi ymosod ar athrawes.

Mae rheithgor wedi clywed fod disgybl, sydd bellach yn 16 oed, wedi trywanu athrawes yn ei phen gyda "chyllell gegin fawr" yn ystod y digwyddiad yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau yn Sir Benfro.
Yn ystod y gwrandawiad cyntaf yn Abertawe ddydd Llun, clywodd y llys fod y bachgen wedi dilyn yr athrawes, Vicki Williams, i mewn i'w dosbarth, cau'r drws, ac yna ei thrywanu yn ei phen.
Mae'r bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon. Mewn gwrandawiad blaenorol, fe blediodd yn euog i fod â chyllell yn ei feddiant ar dir ysgol.
Anafiadau i'r athrawes
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i'r ysgol tua 15:20 ar ôl derbyn gwybodaeth am ddisgybl gyda chyllell yn ymgymryd ag ymosodiad ar athrawes.
Rhoddwyd yr ysgol dan fesurau clo ac roedd ar gau drannoeth hefyd.
Clywodd y llys fod yr athrawes, Ms Williams, wedi cael ei thrywanu yn ei phen ac wedi dioddef anafiadau i'w bysedd a'i chefn hefyd.
Cafodd ei chludo i ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, lle cafodd ei rhyddhau'r noson honno.
Yn ôl bargyfreithiwr yr erlyniad, Christopher Rees KC, fe ddaeth y bachgen â "chyllell gegin fawr" i mewn i'r ysgol o'i gartref ac am 15:10 ymosododd ar Vicki Williams yn ei hystafell ddosbarth.
Fe ddangoswyd deunydd CCTV yn y llys yn dangos yr athrawes yn mynd i mewn i'r dosbarth a'r bachgen yn ei dilyn.
Dywedodd y bargyfreithiwr fod yr athrawes yn "fregus" ac "ar ben ei hun" gan fod yr ystafell ddosbarth yn wag.
Clywodd y llys fod y bachgen wedi gofyn i Ms Williams a fyddai'n fodlon edrych dros ei gwaith hanes gan fod hi wedi colli'r wers flaenorol.
'Ynysu Ms Williams'
Clywodd y llys fod Ms Williams yn meddwl bod ymddygiad y bachgen yn "anarferol" ac allan o gymeriad, gan nodi
"nid dyna'r math o ddisgybl oedd e', doedd e' ddim wedi bod â diddordeb cyn hynny".
Wrth i Ms Williams chwilio am y dudalen berthnasol, fe wnaeth y bachgen gau'r drws a dal ei fag, gan geisio ynysu Ms Williams er mwyn ymosod arni, meddai'r erlyniad.
Dywedodd yr erlyniad fod yr athrawes wedi sylwi bod y bachgen yn chwilio am rywbeth yn ei fag, ond nad oedd hi'n ymwybodol bod y bag yn cynnwys "chyllell gegin fawr".
Clywodd y llys fod yr athrawes yn cadw golwg arno wrth iddo geisio mynd y tu ôl iddi a'i rhwystro.
Yn sydyn, clywodd y llys fod y bachgen wedi tynnu'r cyllell o'i fag ac ymosod arni, gan deimlo'r cyllell yn trywanu ei phen.
Dywedodd nad oedd y bachgen wedi dweud dim yn ystod yr ymosodiad, ond bod yr edrychiad ar ei wyneb yn
"gasineb pur, pur seicotig".
Clywodd y llys fod yr athrawes wedi gafael yn ei llaw i geisio'i rwystro, gan dderbyn anafiadau i'w dwylo, cyn i'r bachgen geisio mynd amdani eto.
Fe wthiodd y bachgen Ms Williams yn ôl yn ei chadair, gan godi ei choesau i geisio atal ymosodiad pellach, tra roedd hi'n sgrechian.
Llwyddodd i wthio'r bachgen oddi wrthi, dal gafael yn y gyllell, cyn i'r bachgen redeg o'r ystafell ddosbarth.
Roedd y bachgen yn yr ystafell ddosbarth am 2 funud a 30 eiliad, gyda deunydd CCTV yn dangos ei symudiadau yn gadael yr ystafell.
Dywedodd Christopher Rees KC fod y bachgen wedi cynllunio'r ymosodiad
"llofruddiol"ac wedi parhau gyda'r ymosodiad ar Vicki Williams yn fwriadol.
Perthynas 'neis' rhwng athrawes a disgybl
Dywedodd y bargyfreithiwr fod y bachgen wedi stopio ymosod ar Ms Williams dim ond oherwydd iddi weiddi.
Dywedodd Christopher Rees KC fod Ms Williams wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd erioed wedi cael gair-croes gyda'r bachgen ac y credai eu bod yn rhannu perthynas
"neis".
Yn ystod y gwrandawiad, roedd y bachgen yn gwisgo crys gwyn ac yn ddi-emosiwn, gan gadarnhau ei enw yn unig.
Cafodd eistedd yn y llys gyda'i dîm cyfreithiol, yn hytrach nag yn y doc, ac roedd ganddo belen straen yn ei law.
Cysylltiadau a gwybodaeth ychwanegol
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap i gael y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig a straeon perthnasol
Aberdaugleddau: Bachgen yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio.







