Skip to main content
Advertisement

Diffoddwyr yn ymladd tân mawr mewn hen siop yng Nghydweli, Sir Gâr

Diffoddwyr tân yn ymladd tân mawr mewn hen siop ddillad yng Nghydweli, Sir Gâr, gyda dros 30 o ddiffoddwyr yn bresennol. Heol Fair ar gau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

·2 min read
Cydweli

Ymladd Tân Mawr mewn Hen Siop yng Nghydweli

Roedd swyddogion tân wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Heol Fair yng Nghydweli tua 04:00 y bore.

Criwiau tân wedi bod yn delio gyda thân mawr mewn adeilad gwag, sef hen siop, yng Nghydweli, Sir Gaerfyrddin, yn oriau mân y bore.

Dros 30 o ddiffoddwyr tân oedd yn ceisio rheoli'r fflamau mewn adeilad gwag yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd swyddogion wedi cael eu galw i'r digwyddiad ar Heol Fair tua 04:00 fore Mawrth, gyda chwe injan dân yn bresennol ar ei anterth.

"Roedd pobl wedi gorfod gadael nifer o adeiladau gerllaw, ond mai dim ond 'nifer fechan o adeiladau' sy'n cael eu heffeithio gan hynny bellach," meddai'r heddlu.

Yn ôl pobl leol, yr adeilad oedd hen siop ddillad menywod a gafodd ei werthu y llynedd.

Ym mis Mawrth 2025, digwyddodd cyrch cyffuriau mawr yn yr adeilad ar ôl iddo gael ei werthu, fel rhan o Ymgyrch Mille gan Heddlu Dyfed-Powys.

Advertisement

Bydd Heol Fair ar gau am weddill y dydd tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Heol Fair / Lady Street ar gau
Disgrifiad o’r llun, Bydd Heol Fair ar gau am weddill y dydd tra bod yr ymchwiliad yn parhau

Mae'r gwasanaeth tân wedi cadarnhau bod y digwyddiad yn parhau, ac mae'r ffordd wedi'i chau gan Heddlu Dyfed-Powys.

Disgwylir y bydd y ffordd ar gau am weddill y dydd tra bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Am 10:30 fore Mawrth roedd dwy injan dân a chraen yn bresennol wrth i swyddogion asesu'r sefyllfa.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News