Skip to main content
Advertisement

Dau ddyn yn marw ac tri'n cael eu harestio ar ôl gwrthdrawiad yng Nghasnewydd

Dau ddyn wedi marw ac tri wedi cael eu harestio ar ôl gwrthdrawiad rhwng BMW a beic modur ar Heol Aberthaw, Casnewydd. Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth i gynorthwyo'r ymchwiliad.

·2 min read
Cerbydau a swyddogion heddlu yn safle'r gwrthdrawiad yn ardal Ringland Casnewydd

Gwrthdrawiad difrifol yng Nghasnewydd

Mae dau ddyn wedi marw a thri pherson wedi cael eu harestio ar ôl gwrthdrawiad rhwng car BMW a beic modur ar Heol Aberthaw yn ardal Ringland, Casnewydd, yn gynnar fore Iau.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle ar ôl derbyn adroddiad am y ddamwain.

Yn ôl Heddlu Gwent, fe wnaeth parafeddygon gadarnhau bod dau ddyn wedi marw yn y lleoliad, a'r gred yw

"taw gyrrwr y beic modur a theithiwr ar y piliwn oedden nhw".

Ychwanegodd y llu mai'r gred yw bod

"y BMW wedi gadael y safle cyn i'r heddlu gyrraedd"
.

Mae dyn 18 oed a menyw 40 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, tra bod menyw 24 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr. Mae'r tri yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth a lluniau gan yrwyr a thrigolion lleol all fod o help i'r ymchwiliad.

Ad (425x293)
Cerbydau a swyddogion Heddlu Gwent yn ardal y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun, Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth a lluniau gan yrwyr a thrigolion lleol all fod o help i'r ymchwiliad

Mae'r heddlu'n awyddus i gysylltu ag unrhyw un a deithiodd ar hyd Heol Aberthaw rhwng hanner nos a 01:40 fore Iau.

Maen nhw hefyd yn gofyn i drigolion yr heol i adolygu eu camera cylch cyfyng wrth iddyn nhw ymchwilio i'r amgylchiadau cyn y gwrthdrawiad.

Fe fydd swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i deuluoedd y dynion a fu farw wrth i'r ymchwiliad barhau.

Ymateb y gwasanaethau brys

Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru bod criw cerbyd ymateb cyflym wedi cyrraedd y lleoliad ychydig wedi 02:00 a'u bod wedi gadael awr yn ddiweddarach.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News