Ail-agor Cylch Meithrin Llangwyryfon
Mae Cylch Meithrin Llangwyryfon wedi ail-agor ei ddrysau, llai na dau flwyddyn ar ôl i’r ysgol leol wynebu bygythiad o gau. Yn 2024, cyhoeddodd Cyngor Ceredigion ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Llangwyryfon gan nodi’r “diffyg cyllidebol” a “niferoedd isel o ddisgyblion”.
Ar y pryd, fe ymgyrchodd reini’r ardal yn llwyddiannus i gadw’r ysgol ar agor, ac mae ail-sefydlu’r cylch meithrin yn rhoi gobaith newydd i addysg cyfrwng Cymraeg yn y pentref.
“Mae’r ddarpariaeth feithrin yn rhan o gylchdro pwysig iawn i addysg cefn gwlad Cymru,” meddai un rhiant.
Mae nifer calonogol o blant wedi cofrestru, yn ôl y Cadeirydd Heulwen Evans.

Darpariaeth a chofrestriadau
Mae’r cylch yn cynnig gofal ac addysg i blant rhwng dwy a phedair oed, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac ieithyddol drwy’r Gymraeg.
Heulwen Evans, Cadeirydd Cylch Meithrin Llangwyryfon, dywedodd fod nifer calonogol o gofrestriadau eisoes ar gyfer y tymor newydd.
“Mae’n naturiol bod y plant sy’n mynd i fynychu’r Cylch Meithrin yn mynd ymlaen i’r ysgol wedyn. Ac fel chi’n gweld, mae dyfodol disglair yn mynd i fod yng Nghylch Meithrin Llangwyryfon.
“Rydyn ni’n Gylch Meithrin bach ond dyna beth sy’n ‘neud ni mor sbesial. Mae lle gyda ni i wyth o blant bob dydd, ac mae naw wedi cofrestru ar gyfer gwahanol ddiwrnodau yn barod.
“Ni mor lwcus o ffodus ein bod ni wedi gallu dod o hyd i staff sy’n siarad Cymraeg, sydd mor alluog, a gyda’r cymwysterau iawn yn barod i arwain ni ’mlaen i’r camau nesaf.”
‘Ma’ fe werth e’
Mae rhieni yn pwysleisio bod sicrhau darpariaeth blynyddoedd cynnar yn hanfodol i gynnal llif disgyblion i’r ysgol gynradd.
Eleri Jewell, rhiant i un o blant y cylch, ychwanegodd fod y prosiect wedi bod “yn llafur cariad”.
“Ond ar yr un gwynt ma’ fe werth e,” meddai.
“Wrth edrych rownd yr ystafell fi’n meddwl, ni ’di neud hi!
“Fi’n credu bod ni’n lwcus bod pawb yn y gymuned wedi cefnogi gymaint, a bod prifathrawes yr ysgol wedi cefnogi.
“Beth ni eisiau gweld yw bod pobl yn defnyddio’r gwasanaeth yma. Mae e yma ar ein stepen drws i bobl ei ddefnyddio.”
Mae’r plant wedi dechrau mynychu’r cylch newydd ers 3 Mawrth 2026.

Niferoedd disgyblion ac ymateb y gymuned
Yn mis Medi 2024, roedd niferoedd y disgyblion yn Ysgol Llangwyryfon rhwng 27 a 31. Dadl nifer o ymgyrchwyr ar y pryd oedd bod hyd at 15 o fabanod yn yr ardal allai fod yn mynychu’r ysgol yn y blynyddoedd nesaf.
Fe gafodd diwrnod agored ei gynnal yn y Cylch Meithrin gyda dros 20 o blant a’u rhieni yn bresennol, gan gynnwys Meleri Williams, a fu’n ymgyrchu dros gadw Ysgol Gynradd Llangwyryfon ar agor yn 2024.
“Diwrnod hapus dros ben” i Langwyryfon, meddai Meleri Williams.
“Fel cymuned, ni’n lwcus iawn bod cenhedlaeth newydd yn dod trwyddo i gefnogi pethau lleol fel hyn, bydd yn y pen draw yn bwydo i mewn i Ysgol Llangwyryfon.
“Felly, mae’n cylchdro pwysig iawn yn enwedig mewn cymunedau cefn gwlad.
“Ni wedi hen arfer clywed newyddion gwael am bethau yn cau yng nghefn gwlad Cymru, ond mae heddi’ yn ddiwrnod hapus dros ben i Langwyryfon gan fod drysau’r cylch meithrin - o’r diwedd - yn ailagor.”

Ymateb Mudiad Meithrin a Cyngor Sir Ceredigion
Lefarydd ar ran y Mudiad Meithrin dywedodd eu bod “yn falch iawn fod Cylch Meithrin Llangwyryfon yn ail-agor,” ar ôl cyfnod o fod ar gau.
“Mae’n hyfryd gweld fod cenhedlaeth newydd o deuluoedd yn awyddus i gael gofal ac addysg Gymraeg i’w plant gan fwydo’r ysgol gynradd leol maes o law.”
Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion fod Cylch Meithrin Llangwyryfon wedi newid ei statws gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Medi 2024, gan symud o fod wedi’i gofrestru i gael ei gofrestriad gwirfoddol wedi’i atal.
Mae’r Cyngor yn deall bod y penderfyniad i atal y cofrestriad wedi ei wneud oherwydd niferoedd isel o blant, ynghyd â phryderon nad oedd y ddarpariaeth yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Ychwanegodd y cyngor fod Cylch Meithrin Llangwyryfon eisoes wedi atal ei gofrestriad gydag Arolygiaeth Gofal Cymru erbyn i gabinet Cyngor Ceredigion gynnal ymgynghoriad statudol ar y posibilrwydd o gau Ysgol Llangwyryfon.







