Mae cwest wedi clywed bod dyn 25 oed a fu farw yn ardal y Sioe Fawr yn Llanelwedd wedi marw o'r hyn sy'n cael ei amau o fod yn orddos cyffuriau. Cafodd Dewi Aeron Evans o Lanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen ei ganfod yn farw ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf, y penwythnos cyn i'r Sioe Fawr ddechrau.
Beth glywodd y cwest?
Fore Gwener clywodd Llys Crwner Pontypridd bod ymchwiliad yr heddlu yn awgrymu bod ei farwolaeth yn






