Skip to main content
Ad (425x293)

Beth allwn ni ddysgu drwy greu chwe phroffil ffug ar gyfryngau cymdeithasol?

Mae BBC Cymru wedi creu chwe pherson ffug i archwilio sut mae cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn amrywio cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai, gan ddefnyddio AI i greu delweddau a monitro profiadau ar lwyfannau megis YouTube, Facebook a TikTok.

·5 min read
Lluniau o'r chwech pleidleisiwr ffug wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg AI

Creu chwe pherson ffug i ddadansoddi cyfryngau cymdeithasol

Mae'r BBC wedi creu chwe pherson ffug er mwyn monitro eu profiadau ar-lein, gan ddefnyddio lluniau a grëwyd gyda thechnoleg deallusrwydd artiffisial (AI).

Wrth i etholiad y Senedd agosáu, mae gwleidyddion yn ymddangos mewn dadleuon teledu ac yn ymweld â chartrefi i geisio ennill eich pleidlais.

Efallai eich bod wedi sylwi hefyd ar sut mae pleidiau, ymgyrchwyr a phleidleiswyr yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymgyrchu a dadlau.

Mae'r cynnwys sy'n ymddangos ar eich ffrwd cyfryngau cymdeithasol yn amrywio'n sylweddol rhwng unigolion, gan ddibynnu ar eu diddordebau a'u proffil ar-lein.

Am y pum wythnos nesaf, bydd adran newyddion BBC Cymru yn archwilio sut mae cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn amrywio rhwng unigolion.

Bydd hyn yn cael ei wneud drwy greu chwe pherson ffug, neu broffil, a monitro'r hyn maen nhw'n ei weld ar-lein yn yr wythnosau cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Bydd pob person ffug yn cynrychioli grŵp gwahanol o bleidleiswyr gyda gwerthoedd a barn wleidyddol amrywiol, ac yn byw mewn gwahanol rannau o Gymru.

Gan ddefnyddio chwe ffôn symudol, byddwn yn monitro beth mae pob person dychmygol yn ei weld ar lwyfannau megis YouTube, Facebook, TikTok, Snapchat, Instagram ac X.

Lluniau o'r chwech pleidleisiwr ffug wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg AI
Disgrifiad o’r llun, Mae'r pleidleiswyr ffug yn cynrychioli grwpiau gwahanol o bobl gydag amrywiaeth o werthoedd, swyddi a barn wleidyddol

Mae'r pleidleiswyr ffug yn cynrychioli grwpiau gwahanol o bobl gydag amrywiaeth o werthoedd, swyddi a barn wleidyddol.

Rydym wedi creu proffil ar gyfer chwe pherson gwahanol - Lauren, Paul, Claire, Rohan, Siân a David - ar sail data gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol.

Byddwn yn cyfeirio at y bobl ddychmygol hyn fel "pleidleiswyr cudd" - term a gyflwynwyd gan un o ohebwyr BBC, Marianna Spring, ar gyfer podlediad Americast ac ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024.

Nid yw'n bosibl cynrychioli pob pleidleisydd yng Nghymru, ond mae'r prosiect yn cynnig cipolwg ar y math o gynnwys y gall pobl ei weld, heb wneud casgliad pendant.

Pam ein bod yn gwneud hyn?

Yn ôl arolwg gan Ofcom, mae 52% o oedolion yng Nghymru yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael eu newyddion.

Mae'r arolwg hefyd yn dangos bod BBC One yn brif ffynhonnell newyddion, gyda Facebook yn ail, ac Instagram a YouTube ymysg y deg uchaf.

Mae TikTok, X a WhatsApp hefyd ar y rhestr, ac maent yn fwy poblogaidd na rhai sianeli teledu traddodiadol a phapurau newydd.

O fewn yr apiau hyn, mae cynnwys yn cael ei greu gan wasanaethau newyddion, dylanwadwyr, sylwebwyr, pobl gyffredin, grwpiau gwleidyddol a llawer mwy.

Ad (425x293)

Mae hyn yn gwneud hi'n anodd gwybod beth sy'n ffeithiol gywir, ac mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn ffactor pwysig i'w ystyried hefyd.

Yn ddiweddar, darganfu ymchwiliad gan BBC Cymru fod nifer o dudalennau ar gyfryngau cymdeithasol yn rhannu newyddion ffug am wleidyddion y Deyrnas Unedig gan ddefnyddio lluniau a grëwyd gan AI.

Felly, rydym wedi dewis rhai o'r platfformau mwyaf poblogaidd i weld sut mae eu cynnwys yn amrywio rhwng unigolion.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Pobl ifanc yn sefyll mewn cylch yn edrych ar eu ffonau symudol

Oes etholiad yn fy ardal i?

I roi gwybodaeth am unrhyw etholiadau yn eich ardal, mae BBC yn cydweithio â'r Comisiwn Etholiadol ac yn anfon eich data personol atynt. Hysbysiad Preifatrwydd Data (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Rhowch god post preswyl llawn yng Nghymru i gael gwybod.

Mae problem gyda'r gwasanaeth ar hyn o bryd. Rhowch gynnig arall arni nes ymlaen.

Mae'r chwe pleidleisiwr cudd yn seiliedig ar ymchwil gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol.

Crëwyd y chwe chategori gan y ganolfan gyda'r bwriad o gynrychioli amrywiaeth barn ar draws y boblogaeth.

Roedd hyn yn cynnwys awgrym o oedran, credoau a swyddi pob un.

Ar sail hyn, ychwanegwyd mwy o wybodaeth a manylion am eu bywydau a diddordebau i wneud y proffiliau'n fwy dynol. Defnyddiwyd AI i greu delweddau ohonyn nhw.

Mae BBC Cymru wedi lleoli pob un mewn etholaethau yng Nghymru yn seiliedig ar argymhellion y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol.

Crëwyd cyfrifon ar gyfer pob un ar brif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys manylion am eu diddordebau y tu hwnt i wleidyddiaeth.

Nid oes ganddynt ffrindiau na dilynwyr, ac ni fyddant yn cyhoeddi na chreu cynnwys eu hunain, ond byddant yn ymateb i gynnwys sy'n ymddangos ar eu cyfrifon drwy wylio fideos, dilyn tudalennau a hoffi negeseuon neu gynnwys.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwch yn gweld wynebau'r pleidleiswyr ffug fel rhan o raglenni etholiad BBC Cymru wrth i ni rannu gwybodaeth am yr hyn sy'n ymddangos ar eu cyfrifon.

Bydd hyn yn gyfle i BBC Cymru gadw golwg ar yr hyn y byddant yn ei weld a'i brofi yn yr wythnosau cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Sut mae pleidleisio mewn etholiad i'r Senedd?
  • Etholiad 2026: Beth yw fy etholaeth i?

This article was sourced from bbc

Ad (425x293)

Related News