Skip to main content
Advertisement

AS Calls for Easier Access to Welsh Education for Cross-Border Children

Elwyn Vaughan AS yn galw am mynediad hawdd i addysg Gymraeg i blant dros y ffin yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Powys yn chwilio am ddatrysiad cynaliadwy i gefnogi dysgwyr Cymraeg ar y ffin.

·5 min read
Elwyn Vaughan

Mynediad i Addysg Gymraeg i Blant Dros y Ffin

Mae angen hwyluso mynediad at addysg Gymraeg ym Mhowys, gan gynnwys i blant sy'n byw dros y ffin yn Lloegr, yn ôl Elwyn Vaughan, AS Gwynedd Maldwyn dros Blaid Cymru.

"Bob tro mae cais neu ddymuniad i gael mynediad at addysg Gymraeg ym Mhowys gan deuluoedd dros y ffin, mae yna ffỳs, stŵr, gwrthwynebiad".

"Mae teuluoedd yn gorfod apelio, cwyno, herio penderfyniadau swyddogion a chael cymorth mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg a gwthio yn erbyn sefydliadau sydd ddim yn deall".

Dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:

"Mae yna deuluoedd o Gymru sydd yn byw ar y ffin sy'n dymuno addysg Gymraeg i'w plant, ac fe ddylai hynny fod yn bosibl."

Ychwanegodd y gweinidog fod Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys yn cydnabod y mae angen dod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy i ddysgwyr ar y ffin sydd am gael mynediad i ysgolion Cymraeg, gan gynnwys dysgwyr dros y ffin os ydynt yn dymuno dysgu'r Gymraeg yng Nghymru a bod lle iddynt yn yr ysgolion lleol.

Bydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a sefydlwyd gan y llywodraeth Lafur flaenorol, yn cynnal cyfarfod yng Nghroesoswallt ar 24 Mehefin wrth baratoi adroddiad ar y Gymraeg y tu allan i Gymru.

Llwyddiant Ysgol Gymraeg Y Trallwng a Chynlluniau Estyniad

Maldwyn Meirionnydd fydd cartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2027.

Mae lle i 150 o blant yn Ysgol Gymraeg Y Trallwng, ac mae cynlluniau i estyn yr ysgol ymhellach.

Ysgol Gymraeg Y Trallwng
Disgrifiad o’r llun, Mae lle i 150 o blant yn Ysgol Gymraeg Y Trallwng, ac mae cynlluniau i estyn yr ysgol ymhellach

Mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Elwyn Vaughan:

"Gadewch inni ddatgan yn glir fod dwyieithrwydd yn rhywbeth i'w groesawu a'n bod yn croesawu'r siaradwyr newydd ac yn croesawu'r rhai hynny sy'n digwydd byw dros y ffin ond am ailafael yn neu gael mynediad at eu treftadaeth.

Mae llwyddiant diweddar Ysgol Gymraeg y Trallwng yn esiampl wych, efo niferoedd ar gynnydd a cheisiadau yn dod o Lanymynech a Phant, sydd dros y ffin. Efo lle i 150 o ddisgyblion, mi fydd yn llawn mis Medi yma.

Gwn am eraill sy'n byw yng Nghroesoswallt sy'n teithio'n ddyddiol i ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ond dim ond ar ôl gorfod ymgyrchu.

O sicrhau mynediad hwylus, didrafferth, yn ddi-os cynyddu fydd y diddordeb."

Galwodd am

"sicrhau bod modd i bobl ifanc gael mynediad didrafferth, di-lol a chludiant rhwydd a hwylus at addysg Gymraeg fel norm, os ydynt yn byw dros y ffin; sicrhau estyniad i Ysgol Gymraeg y Trallwng fel yr agosaf at y ffin i adlewyrchu'r twf a'r brwdfrydedd lleol; a sicrhau cynllun gweithredu clir pum mlynedd i ehangu darpariaeth addysg Gymraeg yn nalgylch Ysgol Uwchradd Llanfyllin".

Datblygiadau a Llwyddiannau Addysg Gymraeg ym Mhowys

Dywedodd y gweinidog Anna Brychan ei fod yn

"bwysig dathlu'r llwyddiannau" ym Mhowys.

Anna Brychan
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd y gweinidog Anna Brychan ei fod yn "bwysig dathlu'r llwyddiannau" ym Mhowys.

Mae Powys, fel pob sir arall yng Nghymru, yn gweithredu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg.

Advertisement

Dywedodd Anna Brychan wrth ASau:

"Cafodd y disgwyliadau cenedlaethol eu cryfhau yn dilyn adolygiad brys o'r cynlluniau yma nôl yn 2017, cam sydd wedi gyrru ymddygiad a phenderfyniadau polisi gwell, ac mae arwyddion o hynny yn sicr i'w gweld ym Mhowys.

Mae'r sir wedi gweld cynnydd o ychydig dros 2% hyd yn hyn mewn addysg Gymraeg ers dechrau gweithredu eu cynllun strategol nhw, sy'n adlewyrchu'r hyn sydd i'w weld ar draws Cymru."

Mae adolygiad o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn rhan o gynllun 100 diwrnod llywodraeth Plaid Cymru a etholwyd ym mis Mai.

Dywedodd y gweinidog ei fod yn

"bwysig dathlu'r llwyddiannau" ym Mhowys.

Meddai:

"Cafodd Ysgol Pennant, Pen-y-bont-fawr, fuddsoddiad i estyn yr ysgol a chynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a chafodd Ysgol Gymraeg y Trallwng fuddsoddiad i adeiladu ysgol newydd ar leoliad mwy, i alluogi'r ysgol honno i dyfu.

Ac mae'r niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol ers hynny, ac mae cynlluniau i estyn yr ysgol ymhellach i ateb galw brwd am addysg Gymraeg yn yr ardal yna."

Cyfeiriodd at ddatblygiadau eraill ym Mhowys hefyd, megis yr ysgol newydd ym Mhontsenni, Ysgol Calon Cymru yn Llanfair-ym-Muallt, a Bro Hyddgen ym Machynlleth, ac mae gan y sir hefyd ddwy ganolfan drochi hwyr sy'n cynnig llwybr ychwanegol i ddysgwyr gael mynediad at addysg Gymraeg.

Y Ddadl Fer yn y Senedd a Chydweithrediad Cynghorau

Dim ond y ddau AS o Blaid Cymru gyfrannodd at y Ddadl Fer hon ar ddiwedd y cyfarfod llawn yn siambr y Senedd ddydd Mercher.

Mae cynghorau Powys a Sir Amwythig wedi cael cais i ymateb.

Prosiectau a Mwy o Addysg Gymraeg

Mae cychwyn ar y broses o sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhowys.

Mae angen 'newid sylweddol' i addysg i gyrraedd targedau'r Gymraeg.

Mae agor drysau ysgol Gymraeg yn cael ei ystyried yn 'torri tir newydd'.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News