Canfyddiad arolwg ffydd annilys yn siom ond mae gobaith yn parhau
Mae canfod bod ffigyrau arolwg diweddar am fwy o bobl ifanc yn troi at ffydd yn annilys yn siom, ond mae angen peidio â rhoi’r gorau i obeithio, yn ôl pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru.
Roedd yr arolwg a arweiniodd at yr adroddiad Y Diwygiad Tawel yn dangos bod 12% o gynnydd yn nifer y bobl rhwng 18 a 24 oed yng Nghymru a Lloegr sy'n mynychu'r eglwys o leiaf unwaith y mis.
Cwmni YouGov oedd yn gyfrifol am yr ymchwil ar ran Cymdeithas y Beibl - cafodd 30,000 o bobl eu holi rhwng 2018 a 2024.
Fodd bynnag, mae wedi dod i'r amlwg bod data YouGov a oedd yn sail i gynnwys yr adroddiad yn ddiffygiol.
O ganlyniad, mae Cymdeithas y Beibl wedi tynnu'r adroddiad o'u gwefan - adroddiad sydd wedi cael ei drafod yn helaeth yng Nghymru a thu hwnt ers ei gyhoeddi y llynedd.
Dywed llefarydd ar ran YouGov bod adolygiad mewnol wedi dangos bod atebion rhai o'r bobl ifanc a holwyd yn annilys, ac nad oedd y mesurau arferol i ddileu atebion o'r fath wedi cael eu defnyddio oherwydd gwall dynol.
Maen nhw wedi ymddiheuro i Gymdeithas y Beibl am y mater.
Mae Siân Wyn Rees wedi bod yn bennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru ers mis Hydref 2022.

Wrth siarad ar rifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru, dywedodd Siân Wyn Rees, pennaeth Cymdeithas y Beibl yng Nghymru, bod y cyfan yn "siom ac yn brofiad hynod o rwystredig" gan eu bod nhw fel cymdeithas wedi gofyn sawl cwestiwn i YouGov am y data.
"Mae 'na rwystredigaeth am ein bod ni wedi bod yn dathlu'r data yma ers dwy flynedd, ond mae yna ddarlun gobeithiol o hyd," meddai.
"Dydy hyn ddim i gyd yn dileu be ma'r Arglwydd wedi bod yn ei wneud yng Nghymru a Lloegr dros y cyfnod diwethaf," meddai.
"Oedden ni'n gweld tyfiant yn yr eglwys a pobl yn bod yn fwy agored ymhell cyn i'r Quiet Revival gael ei gyhoeddi."
Y diwygiad tawel: Mwy o oedolion ifanc yn troi at ffydd
'Problemau sylweddol' mewn addysg grefyddol, yn ôl arbenigwyr
Roedd y darlun a ddaeth i'r amlwg yng nghyhoeddiad Cymdeithas y Beibl o dwf anhygoel mewn crefyddolder yn cael ei amau gan arbenigwyr ar ystadegau ers y cychwyn, meddai Ioan Telfryn - dyneiddiwr sydd â diddordeb mewn pob math o grefyddau.
Ychwanegodd ei fod yn "gwrth-ddweud pob arolwg dibynadwy arall ar y pwnc a gyhoeddwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf".
"Y prif ffactor sy'n milwrio yn erbyn parhad crefydd ydy'r hyn sy'n cael ei alw'n 'ludiogrwydd anghrefyddolder' (The Stickiness of Non-Religion).
"Yn ôl gwaith ymchwil manwl ar y pwnc hwn os caiff rhywun ei fagu ar aelwyd grefyddol mae 45% o debygolrwydd y bydd yn parhau i fod yn grefyddol fel oedolyn.
"Os caiff rhywun ei fagu ar aelwyd ddi-grefydd, fodd bynnag (sef profiad mwyafrif llethol y boblogaeth, erbyn hyn) mae 95% o siawns y bydd yn parhau i fod yn ddi-grefydd fel oedolyn.
"Oherwydd ei 'ludiogrwydd' eithriadol o uchel mae anghrefyddolder, felly, yn ffenomen hunan atgynhyrchiol.
"Does dim angen i neb ei hyrwyddo. Mae lefel y trosglwyddiad o'r naill genhedlaeth i'r llall yn sicrhau ei hirhoedledd a'i ledaeniad.
"Mae crefyddolder, ar y llaw arall, oherwydd ei 'ludiogrwydd' isel, bellach yn ffenomen sydd ddim yn hunan atgynhyrchiol.
"Mae lefel isel y trosglwyddiad o'r naill genhedlaeth i'r llall yn fygythiad gwirioneddol i'w hirhoedledd ac yn awgrymu'n gryf mai crebachu'n sylweddol y bydd ymlyniad crefyddol yn y dyfodol."
'Data cywir erbyn diwedd 2026 gobeithio'
Ychwanegodd Siân Wyn Rees bod YouGov yn ailwneud yr arolwg ac y bydd data cywir, gobeithio, ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae'r gymdeithas hefyd, meddai, wedi cyhoeddi adroddiad arall The Quiet Revival one year on.
Mae'r adroddiad hwnnw "yn cyfuno tystiolaeth ehangach o ffynonellau dibynadwy sydd wedi bod allan ers dwy flynedd".
Wrth gael ei herio, ychwanegodd Ms Rees:
"Dyw e ddim yn anecdotal - mae'n defnyddio esiamplau o ffynonellau eraill.
"Mae'n ategu be' 'dan ni'n weld. Ma' pobl yn fwy agored i ffydd ar hyn o bryd a ma' hynny'n beth braf... bod pobl gyda diddordeb yn y beibl unwaith eto a ma' na' nifer o bobl ifanc yn cwestiynu a oes 'na fwy i fywyd.
"Ma' na bobl sy' jyst mor agored ac yn holi cwestiynau ar hyn o bryd ac mae hynny'n beth braf."
Bydd y stori yma i'w chlywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru ddydd Sul am 12:30 ac yna ar .
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




