Skip to main content
Advertisement

60 years since the Mawddach disaster

Ar 22 Gorffennaf 1966 suddodd cwch pleser The Prince of Wales ar y Fawddach, gan ladd 15 o bobl. Yn 2016, cofiodd trigolion lleol yr achub a'r drychineb.

·6 min read
1966 ar y Fawddach

Mae Llyn Penmaen ger Dolgellau yn llecyn poblogaidd gydag ymwelwyr ers degawdau. Ond 60 mlynedd yn ôl cafodd yr ardal ei brawychu yn dilyn damwain erchyll. Ar 22 Gorffennaf 1966, cafodd 15 o bobl eu lladd a chafodd nifer o bobl eu hanafu pan suddodd cwch pleser The Prince of Wales wrth geisio docio o flaen Gwesty George III.

Yn 2016 fe siaradodd tri o drigolion yr ardal gyda Cymru Fyw am eu hatgofion o'r diwrnod echrydus hwnnw ar y Fawddach.

How did the disaster unfold?

Roedd teulu Gail Hall yn rhedeg gwesty George III ar y pryd, ac mae hi'n cofio digwyddiadau'r diwrnod yn glir.

"Deuddeg oed oeddwn i ar y pryd ac hwn oedd diwrnod cynta' gwylia'r haf," meddai.
"Roedd hi'n fore braf, heulog, ac o'n i'n edrych allan ar y dŵr er mwyn cadw llygad ar faint o bobl oedd ar y cwch gan mai fi oedd yn gyfrifol am roi y dŵr berwedig 'mlaen ar gyfer te i'r gwesteion.
"Nes i weiddi lawr at y gegin 'fferi yn cyrraedd' gan roi digon o rybudd i Mam yn y gegin a'r staff oedd efo hi.
"Roedd y llanw i fewn ac yn rhedeg yn gyflym. Daeth y cwch o gyfeiriad Y Bermo ac yr arfer oedd i ddod i'r lan wrth y jetty, ond fe ddewisodd y capten drio troi y cwch.
"Methodd droi y cwch yn llwyr a stopiodd yr injian, cyn mynd mewn i'r bont, a gyda'r pwysau a chyflymder y llanw fe ddechreuodd suddo."

John Hall yn 1966
Disgrifiad o’r llun, John Hall, perchennog gwesty George III yn 1966

Ychwanegodd Gail:

"Aeth fy nhad, John Hall, allan yn ei gwch, The Daisy May, i geisio helpu. Roedd o'n trio cael y bobl ar y fferi i afael yn ochr ei gwch gyda fo yn rhwyfo. Os byddai'r bobl wedi trio mynd fewn i'r cwch byddai wedi achosi'r cwch i suddo.
"Erbyn i fy nhad gyrraedd y lan gwnaeth un o'r cogyddion, David Osmond Jones, a oedd yn ddyn ifanc 20 mlwydd oed heini, neidio gyda fo i'r cwch i helpu.
"Roedd yna lot o sgrechian a gweiddi gan y rhai oedd wedi eu hachub ac eraill ar y lan, ond y flaenoriaeth gan fy nhad a David oedd cael gafael ar y rhai oedd dal yn y dŵr."

Llynpenmaen
Disgrifiad o’r llun, Deifwyr yn chwilio am bobl yn dilyn y ddamwain

Mae Gail Hall yn awgrymu fod y gwasanaethau brys wedi oedi cyn ymateb.

"Wnes i ffonio 999 gan alw am yr holl wasanaethau," meddai.
"Doedden nhw ddim yn fy nghoelio i mod i isio yr holl wasanaethau a oedd ar gael, doedden nhw ddim yn deall pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa - i ddweud y gwir daeth yr RAF cyn y gwasanaethau brys.
"Ges i alwad yn ôl gan y gwasanaethau brys. Ddywedon nhw nad oedd ganddyn nhw gychod bach i ddod o'r Bermo i helpu, a bod y cychod oedd ganddyn nhw yn rhy fawr.
"Roedd 'na bobl wedi dod i helpu a gweld be' oedd yn digwydd ac roedd yna dipyn o dorf, ac yna roedd sylw y byd arnon ni'r diwrnod hwnnw.
"Roedd yna newyddiadurwyr o'r Times a'r Telegraph ac ati wedi dod i adrodd yr hanes gan fod 15 wedi marw, pedwar o blant yn eu plith.
"Dwi'n teimlo na chafodd fy nhad a David y clod yr oedden nhw yn ei haeddu am be' wnaethon nhw y diwrnod hwnnw," ychwanegodd.
"Ges i gymaint o lythyrau yn eu canmol nhw am sut wnaethon nhw achub bywydau, ond doedd dim byd swyddogol. Dwi hefyd yn credu y byddai mwy wedi eu hachub petai'r gwasanaethau brys wnaeth helpu wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf gwell."

What did local residents see on the day?

Roedd Ron Davies yn gweithio i'r cyngor lleol wrth y bont y diwrnod hwnnw.

Meddai: "O'n i'n gweithio ar yr hen Dŷ Steshion ar y pryd yn ei wneud i fyny, ac o'n i fyny yn y llofft yn trwsio'r ffenest yno.
"O'n i'n gweld y cwch yn dod i fyny'r afon o gyfeiriad Bermo ac aeth o rhyw 100 llath heibio lle roedd o i fod i stopio. Roedd y llanw'n uchel ac yn gyflym a dyma'r cwch yn hitio'r bont wysg ei ochr ac roedd 'na bobl yn y dŵr ym mhob man.
"Mi gafodd rhai o'r bobl eu golchi yn syth i fyny yr afon. 'Nes i redeg i ochr arall y bont ac i lawr i'r lan ac mi es i i'r dŵr gan weld hogyn ifanc yn arnofio. Ges i afael ynddo fo a'i dynnu allan i'r lan, yna daeth 'na un arall a ches i afael ynddo fo hefyd.

Llynpenmaen
Disgrifiad o’r llun, Trigolion lleol yn edrych ar yr ymdrechion i achub pobl o'r Fawddach

Advertisement

Ron Jones yn 2016, yn cofio 50 mlwyddiant ers y trychineb

How did it affect Bob Jones?

Cafodd y digwyddiad gryn effaith ar un arall oedd yno y diwrnod hwnnw, Robert Hugh Jones.

"O'n i'n gweithio yn y George yn paratoi ar gyfer yr ymwelwyr ac mi welis i y cwbl," meddai. "Roedd hi'n dywydd braf ond dwi'n cofio meddwl bod y dŵr yn symud yn gyflym, a bod y cwch 'di troi yn rhy agos i'r bont.
"Dwi'n cofio gweld y cwch yn hitio'r bont a'r bobl ynddo yn mynd i mewn i'r dŵr."

Bob Jones
Disgrifiad o’r llun, Robert Hugh 'Bob' Jones yn 1966 ac ar adeg y cyfweliad gwreiddiol i'r erthygl yma yn 2016

Aeth Bob ymlaen:

"Aeth y cwch i lawr yn gyflym, a dwi'n cofio John Hall o'r George a'r chef David Osmond Jones yn mynd i'r cwch rhwyfo, ac mi redais i ochr arall y bont achos o'n i'n gweld bod 'na bobl yn mynd fyny'r afon efo'r llanw.
"Roedd Mr Hall a David yn trio achub rhai o'r bobl oedd wedi gallu gafael yn y bont. Pan ro'n i fyny'r afon mi welis i hogan fach ochr bella' yr afon gan fod y llanw wedi cael gafael ynddi a'i thynnu hi o dan y dŵr ac mi wnaeth hi foddi.
"Erbyn i fi nofio drosodd mi fysa hi 'di mynd fyny'r afon achos mi roedd y llanw mor gryf a chyflym."

Llynpenmaen
Disgrifiad o’r llun, Pont Llynpenmaen fel y mae heddiw

Roedd Bob yn cofio'r ymdrechion i gael pobl allan o'r dŵr:

"Nes i lwyddo i gael dau allan o'r dŵr, a'u tynnu nhw fyny i'r ffordd, ac yna mynd â nhw i'r hotel i wneud yn siŵr bod rhywun yno i edrych ar eu holau nhw.
"Mae 'na hanner can mlynedd 'di pasio ond dwi'n meddwl am y digwyddiad yn aml, yn enwedig yn yr oed 'dwi rwan. Dwi'n trio 'ngorau i beidio meddwl am y peth gan fod o'n fy ypsetio gymaint."

Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol ar 22 Gorffennaf, 2016.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Key Facts

  • Ar 22 Gorffennaf 1966 suddodd cwch pleser The Prince of Wales wrth geisio docio o flaen Gwesty George III.
  • Cafodd 15 o bobl eu lladd a nifer eu hanafu yn y ddamwain ar y Fawddach.
  • Bu Gail Hall, Ron Davies a Robert Hugh Jones yn cofio'r digwyddiad mewn cyfweliadau gyda Cymru Fyw yn 2016.
  • Roedd ymateb y gwasanaethau brys yn destun beirniadaeth gan Gail Hall.
  • Cyhoeddwyd yr erthygl wreiddiol ar 22 Gorffennaf, 2016.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News