Datblygiad tai fforddiadwy yng Ngwynedd yn codi pryderon am newid cymeriad y pentref
Mae trigolion pentref yng Ngwynedd yn mynegi pryderon y gallai datblygiad tai arfaethedig "newid cymeriad" un o gadarnleoedd y Gymraeg yn y rhanbarth.
Mae Williams Homes Ltd (Bala) a Grŵp Cynefin yn bwriadu adeiladu 25 o dai fforddiadwy i'w rhentu ar safle ger Brynhyfryd a Chae Capel yn Chwilog.
Er bod swyddogion Cyngor Gwynedd yn argymell caniatáu’r cais, mae deiseb gyda 160 o enwau wedi’i chyflwyno i’r awdurdod, gan adlewyrchu pryderon y trigolion am effaith y datblygiad ar y gymuned.
Chwilog yw ardal o "bwysigrwydd ieithyddol" gyda tua 80% o’r trigolion yn gallu siarad Cymraeg, gan wneud y pentref yn un o’r ardaloedd gyda’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.
Mae Cyngor Cymuned Llanystumdwy wedi mynegi gwrthwynebiad unfrydol i’r cais, gan ddadlau y byddai’n "anodd integreiddio 25 o dai i’r pentref heb greu problem ieithyddol" ac yn galw am ystyriaeth benodol i’r Gymraeg wrth ddyrannu tai.
"Mae bron pawb yn y pentra' yn erbyn y cais," medd y Cynghorydd Rhys Tudur

Yn ôl y Cynghorydd Rhys Tudur, sy’n eistedd ar Gyngor Cymuned Llanystumdwy ac yn cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd, nid oes angen datblygiad o’r maint hwn.
"Mae bron pawb yn y pentra' yn erbyn y cais," meddai. "Mae’r cyngor cymuned yn unfrydol wedi gwrthwynebu’r cais, mae’n gynnydd o 10% yn stoc dai bresennol y pentra' a hynny dros nos. "Mae’n andros o newid i le fel hyn, newid gwedd y pentra' ac amharu ar hyfywedd y Gymraeg."
'Cadarnle i’r Gymraeg'
Mae Rhys Tudur yn tynnu sylw at bwysigrwydd y pentref fel cadarnle i’r Gymraeg, gan ddweud:
"Mae fan'na yn gadarnle i’r Gymraeg, ond 'da chi'm yn sôn am gymathu pump o dai, 'da chi'n sôn am 25 mewn pentra' bach,"
Mae hefyd yn beirniadu’r data a ddefnyddir i ddangos yr angen am dai, gan ddweud ei fod yn cynnwys "data sirol" ac yn cynnwys elfen o "ddyblygu" gan fod ymgeiswyr wedi nodi sawl pentref gwahanol fel lleoliadau posib.
"Dydy’r data ddim yn ddibynadwy nac ychwaith yn ddigon i fesur yr union angen lleol," meddai.
Williams Homes Ltd a Grŵp Cynefin yw’r cwmnïau sy’n bwriadu adeiladu’r 25 o dai fforddiadwy i’w rhentu ar y safle ger Brynhyfryd a Chae Capel yn Chwilog.

Mae Grŵp Cynefin wedi dweud nad oes modd iddyn nhw wneud sylwadau ar hyn o bryd gan fod y cais yn mynd drwy broses swyddogol, gyda disgwyl i bwyllgor cynllunio’r cyngor wneud penderfyniad brynhawn Llun.
Fel rhan o’r cais, maen nhw’n dadlau bod yr angen am dai wedi’i brofi, gan ganolbwyntio ar dai o faint llai, sef un, dwy a thair ystafell wely, fel sy’n cael ei gyflwyno yn y cais.
Maen nhw hefyd yn nodi na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg, gan ddweud y byddai’n "helpu i greu cymuned gynaliadwy".
'Cwrdd ag anghenion y farchnad dai leol'
Yn ôl adroddiad swyddogion Cyngor Gwynedd, mae’r datblygiad tai fforddiadwy "wedi ei lunio i gwrdd ag anghenion y farchnad dai leol", gan argymell y dylid caniatáu’r cais.
Mae eu hargymhelliad yn nodi:
"Fe gredir bod y cynllun yn dderbyniol ar sail egwyddor a’i fod yn cydymffurfio â gofynion polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol. Rhoddwyd sylw llawn i’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau perthnasol a dderbyniwyd a chredir fod y bwriad yn dderbyniol a’i fod trwy hynny yn unol â gofynion y polisïau perthnasol."
Er hynny, mae rhai o drigolion Chwilog yn mynegi pryderon ac nid oes cefnogaeth helaeth i’r datblygiad.
Alun Jones, un o’r trigolion, dywedodd:
"Mae Chwilog yn bentref Cymraeg, mae’r gweithgareddau’n Gymraeg. Dwi'm yn erbyn tai fforddiadwy, ond mae 25 yma mewn ardal wledig angen ei gwestiynu. 'Ych chi'n mynd i golli Cymreictod y pentre'. A does dim llawer o bentrefi fel Chwilog a’r Ffôr i gael yng Nghymru bellach."

Mae barn Trefor Morris a Dafydd Povey yn cyd-fynd â’r syniad bod y datblygiad yn ormod o dai ar gyfer y pentref.
Ychwanegodd Trefor Morris:
"Does 'na'm angen gymaint o dai, does 'na'm cyfleusterau ar eu cyfer nhw. Does 'na'm siop yma hyd yn oed ac mae’r bysus yn sâl yma."
Dywedodd Dafydd Povey:
"Teimlo dwi eu bod nhw'n ormod ar un tro de', mae’r ysgol yn llawn yn barod. Mae 'na beryg i newid cymeriad y pentra' yn gyfan gwbl. Os 'sa nhw'n dai fforddiadwy i bobl eu prynu, 'sa'n haws gan rywun i'w dderbyn o. Ond y peryg ydi i bobl o du allan yr ardal i ddod yma."

Disgwylir penderfyniad ar y cais pan fydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn ymgynnull brynhawn Llun.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y newyddion diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






