Skip to main content
Advertisement

Cyngor Gwynedd yn cytuno i gau dwy ysgol gynradd yn Nantlle

Cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio i gau dwy ysgol gynradd yn Nantlle oherwydd nifer isel o ddisgyblion, gyda disgyblion yn symud i ysgolion cyfagos. Bydd cyfnod gwrthwynebiad 28 diwrnod cyn penderfyniad terfynol.

·4 min read
Ysgol Nebo

10 disgybl llawn amser sydd ar gofrestr Ysgol Nebo

Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio'n unfrydol i gau dwy ysgol gynradd yn ardal Nantlle yn sgil pryderon am nifer y disgyblion.

Yn ôl adroddiad oedd yn cael ei drafod gan y cabinet brynhawn Mawrth, dim ond chwe disgybl llawn amser sy'n mynychu Ysgol Baladeulyn, a dim ond 10 yn Ysgol Nebo.

Gydag ymgynghoriadau cyhoeddus wedi'u cynnal yn y ddwy ardal dros y misoedd diwetha', argymhelliad swyddogion Cyngor Gwynedd oedd y dylid cau'r ddwy ysgol erbyn 31 Rhagfyr eleni, dolen allanol.

Nawr fod y cynigion wedi cael sêl bendith cynghorwyr, bydd disgyblion Baladeulyn yn mynychu Ysgol Tal-y-sarn, gyda disgyblion Ysgol Nebo yn symud i Ysgol Llanllyfni.

Fel rhan o'r broses statudol bydd cyfnod i bobl wrthwynebu'r penderfyniad am 28 diwrnod, a bydd y mater yn cael ei drafod gan y cabinet eto wedi hynny.

'Bregus ers peth amser'

Mae'r adroddiad yn nodi bod sefyllfa'r ddwy ysgol "wedi bod yn fregus ers peth amser", gydag adeiladau Baladeulyn a Nebo yn 89% a 78% gwag.

Ar hyn o bryd mae'r sir yn gwario 3,066 fesul disgybl yn Ysgol Nebo a 25,123 fesul disgybl yn Ysgol Baladeulyn, sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd sirol o 5,998.

Dim ond chwe disgybl sy'n mynychu Ysgol Baladeulyn, yn Nyffryn Nantlle

Ysgol Baladeulyn
Disgrifiad o’r llun, Dim ond chwe disgybl sy'n mynychu Ysgol Baladeulyn, yn Nyffryn Nantlle

Yn ôl ffigyrau Cyngor Gwynedd mae 29% o ddisgyblion Ysgol Baladeulyn yn siarad Cymraeg yn rhugl adref tra bod y ganran yn Ysgol Tal-y-sarn yn 37%.

Mae hi'n stori debyg yn Ysgol Nebo lle mae 56% o blant yn siarad Cymraeg yn rhugl yn y cartref ac yn Ysgol Llanllyfni mae'r ganran yn 68%.

Bydd cau'r ddwy ysgol, medd y cyngor, yn golygu "mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg yn anffurfiol gyda'u cyfoedion tu mewn a thu allan i'r dosbarth, ac y byddai lefel bywiogrwydd y Gymraeg a'r defnydd anffurfiol o'r iaith yn gryfach".

Ad (425x293)

'Nid cau yw'r unig ateb posibl'

Yn ymateb i adroddiad y swyddogion dywedodd y cynghorydd sir lleol, Peter Thomas, y byddai cau Ysgol Baladeulyn yn

"ergyd drom i'r gymuned"
ac ychwanegodd ei fod yn teimlo y byddai
"cau ysgol arall yma yng Ngwynedd yn arwydd arall o'r heriau mae ein cymunedau yn ei hwynebu yng nghefn gwlad ein sir"
.

Ychwanegodd:

"Os na fydd ysgol, yna fydd teuluoedd gyda phlant ddim yn ystyried prynu neu rentu tai yn Nantlle ac y byddai hynny yn arwain at leihad graddol yn y defnydd cymunedol o'r Gymraeg."

Yn hytrach, roedd yn ffafrio model o

"drefniant cydweithio"
gydag Ysgol Tal-y-sarn, o dan arweiniad un pennaeth a un corff llywodraethwyr gyda safle Ysgol Baladeulyn yn aros ar agor.

Hefyd wrth ymateb i'r adroddiad dywedodd y Cynghorydd Dafydd Davies, sy'n cynrychioli ward Clynnog sy'n cynnwys Ysgol Nebo, ei fod yn

"parhau yn glir iawn yn ei wrthwynebiad"
i gau'r ysgol.

"Nid wyf yn anghytuno bod heriau yn bodoli yn Ysgol Nebo, ond nid wyf yn derbyn mai cau yw'r unig ateb posibl, nag o reidrwydd yr ymateb gorau yn y tymor hir,"
meddai.

Roedd yn

"annog y cabinet i beidio â symud ymlaen i'r cam hysbysiad statudol ond yn hytrach ailystyried yr opsiynau amgen mewn modd gwirioneddol agored a rhoi ystyriaeth lawn i ddyfodol cynaliadwy Ysgol Nebo a'r gymuned mae'n ei gwasanaethu"
.

Roedd yn parhau i gefnogi galwadau y corff llywodraethol i ddatblygu Ysgol Nebo fel

"darpariaeth arbenigol i gefnogi plant gydag anghenion cymdeithasol, emosiynol a llesiant"
.

Ond gyda'r cynigion wedi'u cymeradwyo, bydd rhybuddion statudol yn cael eu cyhoeddi, a'r disgwyl yw y bydd y ddwy ysgol yn cau ar 31 Rhagfyr eleni.

Bydd y disgyblion yn symud i'w hysgolion newydd ym mis Ionawr 2027.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Cyngor Gwynedd i ystyried cynlluniau i gau dwy ysgol gynradd
  • Sefyllfa dwy ysgol sy'n llai na chwarter llawn yn 'fregus iawn'

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News