Skip to main content
Advertisement

500 Ffermwyr Yn Herio Cwmni Peilonau Trydan Green GEN yn yr Uchel Lys

Mae 500 o ffermwyr yn herio cwmni Green GEN yn yr Uchel Lys dros gynllun adeiladu rhwydwaith peilonau trydan newydd ar draws pedair sir yng Nghymru, gan godi pryderon am fynediad anghyfreithlon a mesurau bioddiogelwch gwael.

·7 min read
Peilonau

Her Gyfreithiol Arwyddocaol yn Yr Uchel Lys

Mae her gyfreithiol gan 500 o ffermwyr yn erbyn cwmni Green GEN, sydd yn bwriadu adeiladu tri prif lwybr peilonau trydan newydd ar draws pedair sir yng Nghymru, wedi cael ei glywed yn yr Uchel Lys ddydd Mawrth. Mae'r cynllun yn cynnwys ardaloedd ym Mhowys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a Sir Amwythig.

Mae'r ffermwyr a thirfeddianwyr yn honni bod Green GEN wedi gweithredu'n anghyfreithlon wrth gael mynediad i dir preifat, gan anwybyddu mesurau bio-ddiogelwch ac achosi pryder ymysg cymunedau lleol.

Dyma'r tro cyntaf i adolygiad barnwrol ystyried y gyfraith sy'n caniatáu i gwmnïau mawr gael mynediad i dir preifat heb ganiatâd er mwyn cynnal arolygon amgylcheddol ac ecolegol.

Yn ymateb, dywedodd Green GEN Cymru eu bod wedi "ymrwymo i barchu a chydweithio" gyda thirfeddianwyr ac y bydd eu cynlluniau'n darparu "rhwydwaith ynni diogel a gwydn i Gymru".

Green GEN Cymru 'Wedi Creu Risg i Fywoliaeth Ffermwyr'

Dechreuodd yr achos ddydd Mawrth gyda Ms Blackmore KC, sy'n cynrychioli'r hawlydd, yn disgrifio dull Green GEN o gysylltu â thirfeddianwyr fel "eu telerau nhw neu ddim telerau o gwbl".

Yn ôl Ms Blackmore KC, nid oedd polisi clir dros sawl mis yn rhoi digon o rybudd ynghylch pryd a ble byddai mynediad at y tir yn cael ei angen. Nid oedd amserlen benodol yn cael ei ddarparu, ac nid oedd y cwmni wedi gwneud ymdrech i ganfod pwy oedd y tirfeddianwyr mewn rhai achosion.

Mae'r hawlydd yn galw ar Green GEN Cymru i gysylltu â fferm fesul fferm a chymryd camau rhesymol i ganfod pob perchennog a thenant.

Yn ogystal, dywedodd Ms Blackmore KC fod yr awdurdod cyhoeddus wedi rhoi ffermwyr mewn sefyllfa lle maen nhw'n torri eu dyletswyddau statudol drwy fynd ar dir yn anghyfreithlon, gan gynnwys ardaloedd gyda cyfyngiadau TB gwartheg a mannau sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) a chynefinoedd rhywogaethau gwarchodedig.

"Gwnaethant hyn heb rybudd," meddai wrth y barnwr Mr Justice Kimblin.

Mae'r angen i gymryd camau bioddiogelwch yn "bwysig iawn", yn enwedig gan fod y llwybr peilon yn agos at ardaloedd risg uchel o TB.

"Mae'r gweithgareddau hyn wedi creu risg i fywoliaeth ac i gytundebau gyda chyflenwyr," meddai Ms Blackmore KC.

Dywedodd hefyd fod y polisi y cwmni o fynd ar dir gyda "yswiriant annigonol, hen ffasiwn a mesurau bioddiogelwch gwan" yn afresymol ac yn rhoi stoc, rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig a bywoliaethau ffermwyr mewn perygl.

Yn y llys, clywodd y barnwr fod undebau'r NFU a FUW wedi ceisio cysylltu â'r diffynnydd, ond nad oeddent yn ystyried y trafodaethau hynny'n dderbyniol.

Profiad Dyfan Walters o'r Prosiectau

Mae Dyfan Walters, ffermwr ger Llanymddyfri, yn erbyn y prosiectau ac yn credu bod achos cryf gyda nhw.

Disgrifiodd y "sioc" o dderbyn llythyron gan Green GEN yn gofyn am fynediad i'w tir fferm, gan ddweud bod swyddogion y cwmni wedi "gorfodi eu hunain ar y tir" ac yn "rhoi pwysau ar ffermwyr".

"Ni really wedi bod yn becso bod protocols fel biosecurity a bod ddim yswiriant cywir gyda nhw.
"Fel ffermwyr, ni'n gyfarwydd gyda delio â chwmnïau mawr, cwmnïau trydan, BT, ond mae delio gyda cwmni Green GEN wedi bod yn brofiad hunllefus i fod yn onest.
"Mae e'n totally wahanol i unrhyw brofiad ni wedi cael o'r blaen a mae eisiau bod yr ymddygiad yn newid.
"Ni'n credu bod achos cryf gyda ni a fi'n credu taw ni sy'n iawn.
"So ni'n erbyn y prosiectau yma, so ni'n gofyn am ddim byd y dylen ni fod yn ei gael, just polisïau sy'n edrych ar ôl ein ffermydd ni, a fi'n credu bod hwnna yn bwysig."
Dyfan Walters
Disgrifiad o’r llun, Mae Dyfan Walters yn erbyn y prosiectau ac yn "credu bod achos cryf gyda ni a fi'n credu taw ni sy'n iawn"

Manylion Ychwanegol am yr Achos

Mae'r achos yn cael ei glywed ar chwe sail, gan gynnwys honiadau o ymddygiad anghyfreithlon, camddefnyddio pŵer, ac anwybyddu pryderon bioddiogelwch ac amgylcheddol.

Mae grŵp cymunedol Cyfiawnder i Gymru ac elusen Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (CPRW) hefyd wedi sicrhau caniatâd i herio a yw defnydd hysbysiadau Adran 172 yn gyfreithlon. Mae'r ddeddf yn caniatáu mynediad i dir er mwyn cynnal arolygon a chasglu tystiolaeth cyn cyflwyno gorchymyn prynu gorfodol (CPO) posibl.

Ad (425x293)

Mae CPO yn caniatáu i awdurdodau cyhoeddus ac weithiau cwmnïau ynni gael mynediad gorfodol at dir neu eiddo i wneud lle i brosiectau seilwaith a ystyrir yn fuddiol i'r cyhoedd.

'Effaith Diffyg Rheoleiddio'

Dywedodd Mary Smith o New South Law, sy'n cynrychioli'r hawlwyr, mai dyma "y tro cyntaf i brawf o'r natur hon gyrraedd y llys", a gallai'r oblygiadau "ymestyn y tu hwnt i'n cleientiaid, gan adleisio ar draws y diwydiant".

"Mae'r achos hwn yn codi materion sylfaenol ynghylch sut mae pwerau statudol yn cael eu defnyddio a'r amddiffyniadau a roddir i'r rhai yr effeithir arnynt," meddai.
"Fel y mae, credwn fod rhai yn y diwydiant ... yn camddefnyddio'r pŵer, ac mae'r enghreifftiau o effaith diffyg rheoleiddio yma yn y gorllewin."

Bydd y grŵp hefyd yn herio defnydd y cwmni o ddata personol perchnogion tir, gan gynnwys data tir. Mae dogfennau cyfreithiol a gyflwynwyd cyn y gwrandawiad yn honni bod Green GEN Cymru yn rhannu data yn anghyfreithlon gyda'i rhiant gwmni, Bute Energy, sy'n cynllunio cyfres o brosiectau ffermydd gwynt ar y tir.

Arwydd ar giat fferm yn amlygu gwrthwynebiad i'r posibilrwydd o osod peilonau yn ardal Llandeilo
Disgrifiad o’r llun, Mae cryn wrthwynebiad wedi bod i'r posibilrwydd o godi'r peilonau

Ymateb Green GEN Cymru

Dywedodd Green GEN Cymru fod y cwmni'n cydnabod "arwyddocâd" y gwrandawiad a'r "budd cyhoeddus parhaus mewn datrys y materion hyn yn amserol".

"Gan fod yr achos yn mynd rhagddo, ni fyddai'n briodol gwneud sylwadau ar fanylion yr achos. Byddwn yn parhau i ymgysylltu'n adeiladol drwy'r broses gyfreithiol briodol," meddai.

"Yn y cyfamser, mae ein gwaith yn parhau yn unol â gweithdrefnau sefydledig. Mae arolygon amgylcheddol ac ecolegol cyn-ymgeisio yn parhau i fod yn rhan hanfodol o sicrhau bod effeithiau posibl yn cael eu deall yn iawn gan bob rhanddeiliad, gan gynnwys awdurdodau cynllunio.

"Rydym yn parhau i ymrwymo i barchu tirfeddianwyr ac ymgysylltu'n agored â chymunedau lleol. Ein gobaith yw ceisio sicrhau cytundeb lle bynnag y bo modd a chynnal pob gweithgaredd gyda'r ystyriaeth briodol i bobl a'r amgylchedd.

"Mae datblygu'r seilwaith hwn yn parhau i fod yn rhan bwysig o ddarparu rhwydwaith ynni diogel a gwydn i Gymru ac mae'n rhan o seilwaith hanfodol sy'n cyd-fynd â pholisi'r llywodraeth. Byddwn yn parhau i ddatblygu'r gwaith hwn yn gyfrifol tra bod y broses gyfreithiol yn cael ei glywed."

Polisi a Safbwyntiau Gwleidyddol

Mae disgwyl i'r adolygiad barnwrol gael ei glywed yn yr Uchel Lys dros ddau ddiwrnod.

Dywedodd Llafur Cymru mai eu nod yw annibyniaeth ynni yn seiliedig ar bŵer glân, o gartref i greu swyddi a thorri biliau. Ychwanegodd y dylai llinellau pŵer newydd fod "o dan y ddaear lle bo modd", ond rhaid ystyried costau.

Dywedodd Plaid Cymru fod ehangu ynni adnewyddadwy yn hanfodol i gyrraedd sero net, ond bod "rhaid cynnwys cymunedau lleol". Maen nhw'n ffafrio ceblau tanddaearol a blaenoriaethu prosiectau ynni sy'n eiddo i'r gymuned.

Barnu prosiectau ynni adnewyddadwy fel rhai "costus a niweidiol" i gefn gwlad mae Reform UK, gan ddweud y byddent yn gwahardd prosiectau ffermydd gwynt a solar ar y tir ac yn dileu cynlluniau sero net.

Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn dweud bod rhaid datblygu ynni adnewyddadwy "gyda chymunedau, nid yn eu herbyn", gan ychwanegu y dylai seilwaith fod o dan y ddaear lle bo modd er mwyn amddiffyn ardaloedd gwledig ac economïau lleol.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.

Cysylltiadau a Rhwydweithiau Cymdeithasol

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Graffeg Green GEN Cymru yn dangos y llwybrau peilonau arfaethedig
Disgrifiad o’r llun, Graffeg Green GEN Cymru sy'n dangos llwybrau'r peilonau arfaethedig
Peilonau

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News