Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys manylion allai beri gofid
Mae artist a cherddor o Gymru wedi rhannu ei phrofiad o weld ei gŵr yn boddi ar ôl damwain cwch yn Awstralia.
Roedd y ddau wedi mynd allan ar lyn pan wnaeth gwynt cryf chwythu eu cwch drosodd. Er gwaethaf ymdrechion Annie Morgan Suganami, o Aberystwyth, i achub ei gŵr a'i gadw uwchben y dŵr, bu farw yn 24 oed.
"Ddaeth 'nôl lan ac edrych yn syth yn fy llygaid a deud 'I'm sorry'."
Dim siaced bywyd
Annie Suganami symudodd i Awstralia yn y 1970au i weithio fel athrawes, lle cyfarfu â Ken McCutchen a phriodiwyd. Prynodd Ken gwch bychan, ond gwrthododd brynu siaced diogelwch er i Annie erfyn sawl gwaith arno i gael un.
Yn 1976, penderfynon nhw fynd â'r cwch allan ar lyn er bod y tywydd yn wael. Cafodd Ken gynnig siaced diogelwch gan berson ar y lan, ond gwrthododd.
"Ddudodd Ken 'na na na', neshi ddeud 'Ken don't be a fool... cymer y life jacket ok?'"
"O'n i'n gwisgo un fi a wedodd e 'well if you loved me you'd give me your jacket'..."
"A fi'n cofio Gaff y prifathro pan o'n i'n tyfu lan drwy ysgol gynradd [yn dweud] 'never try to save a drowning man, peidiwch neidio ar ôl ci mewn i'r dŵr, os gwympith rhywun mewn dŵr peidiwch neidio mewn - a drowning man will drown you'."
"Roeddet ti'n tyfu lan 'da'r wybodaeth yma ac roedd Mam yn neud siŵr bod ni gyd yn gallu nofio. 'No mate' wedes i 'dwi wedi gweud wrtha ti am fisoedd [i brynu un]. Dwi'n gwisgo hon achos bod fi'n gall... respect the water mate ma' fe'n gryf'."
'Ti'n gorfod safio dy hunan blodyn'
Y ddau oedd yr unig rai ar y llyn oherwydd yr amodau gwael. Roedd seiclon newydd basio'r ardal a chynffon y storm yn creu tonnau mawr. Ar ôl troi yn ôl at y lan, cipiodd gwynt yr hwyl a throi'r cwch drosodd.
Disgynnodd y ddau i'r dŵr a chwythwyd y cwch yn bell oddi wrthyn nhw.
"Weles i'r cwch a meddwl 'we're not going to make it'. Dyna le o'n i yn y life jacket a Ken yn dod ata i yn panicio - roedd e wedi colli ei sbectol ac yn tynnu fi o danodd."
"So o'n i'n mynd o dan y dŵr a meddwl 'alla i neud e, dere nôl lan nawr' a thrio rhyw dair neu bedair gwaith. A wedyn dechre meddwl 'beth ambyti Mam a Dad gartre, dwi ddim isio boddi, dwi'n ifanc'."
"Ma'r life force yn enfawr a ma'r split second penderfyniad o'n i'n meddwl 'ti'n gorfod safio dy hunan blodyn'."

"O'n i'n gallu clywed Gaff yn y dosbarth yn dweud 'never try and save a drowning man', a mi o'n i'n gorfod gwthio fe [ei gŵr] oddi wrtha i yn y pen draw achos roedd e'n glynu ata i yn tynnu fi o dan o hyd ac o hyd ac mi ddaeth e 'nôl lan ac edrych yn syth yn fy llygaid a deud 'I'm sorry'..."
"Ma' fe'n foment bwerus a dwi'n teimlo bod e'n foment foethus dwi'n mynd nôl ato fe o hyd, achos roedd e mor onest ac roedd e wedi rhyddhau fi ar yr eiliad yna. Ges i ryddid i fyw fy mywyd."
Bywyd ar ôl colled
Ar ôl marwolaeth Ken, symudodd Annie i Ganada i weithio fel cerddor cyn byw am gyfnodau yn Ynys Wyth, Llundain, Kuwait, Awstria ac Aberystwyth.
Yn awr mae'n byw ym Machynlleth gyda'i gŵr, Yr Athro Hidemi Suganami, arbenigwr ar wleidyddiaeth ryngwladol, ac yn gweithio fel artist.
Mae arddangosfa o'i gwaith, Olion Bywyd, ar hyn o bryd yn Oriel Canfas, Aberteifi. Bydd trafodaeth amdani ar raglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru am 13:00 ar 22 Mawrth ac ar .
Gallwch wrando ar Annie Suganami yn trafod ei bywyd gyda Beti George ar Radio Cymru am 18:00 ar 22 Mawrth a hefyd ar .
Cysylltu â Cymru Fyw
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Iwan Steffan: 'Gwerthfawrogi pobl' ar ôl colli Mam pan yn ifanc
- Meinir Gwilym: Amhosib gwneud bywoliaeth o gerddoriaeth Gymraeg
- Gwobrwyo gwaith celf artist o'r Fodorgan yn dilyn marwolaethau plant Gaza







