Datganiad gan y Prif Weinidog ar arestiadau am ysbïo
Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi datganiad byr wedi i dri gael eu harestio ar amheuaeth o ysbïo dros China.
Mae tri dyn, sydd â chysylltiadau â Chymru, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu cadw yn y ddalfa ddydd Mercher.
Dywedodd y Prif Weinidog mewn datganiad ei bod yn ymwybodol fod y tri wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad gwrthderfysgaeth.
"Mae'r rhain yn honiadau difrifol ac mae'n hanfodol nad ydym yn rhwystro gwaith yr heddlu mewn unrhyw ffordd nac yn rhagfarnu unrhyw broses gyfreithiol yn y dyfodol," meddai.
Ychwanegodd, gan fod yr ymchwiliad yn parhau, y byddai'n "amhriodol" iddi wneud sylwadau pellach ar unrhyw agwedd o'r achos.
Galwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig a gwrthod gan Lywydd y Senedd
Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig alw am ddatganiad ganddi ar y sefyllfa, gan ddweud bod yn "rhaid i ni sicrhau nad yw Cymru yn wan pan mae'n dod i ddiogelwch y DU".
Cafodd y cais ei wrthod gan Lywydd y Senedd, Elin Jones.
Dywedodd y llywodraeth nad ydyn nhw eisiau gwneud sylw wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Cadarnhad gan AS Llafur o'r Alban
Mae'r AS Llafur o'r Alban, Joani Reid, wedi cadarnhau mai ei gŵr yw un o'r dynion a gafodd eu harestio, David Taylor.

Cafodd y tri, sy'n 39, 43 a 68 oed, eu harestio yng Nghymru a Llundain fel rhan o ymchwiliad gwrthderfysgaeth o dan y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol.
Nid yw enwau'r tri dyn wedi'u cyhoeddi gan Heddlu'r Met, sy'n arwain yr ymchwiliad, ond mae'r AS Llafur o'r Alban, Joani Reid, wedi cadarnhau mai ei gŵr, David Taylor - cyn-ymgynghorydd i wleidyddion Llafur Cymru - yw un ohonynt.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Reid nad oedd erioed wedi gweld unrhyw beth a fyddai wedi gwneud iddi amau bod ei gŵr "wedi torri unrhyw gyfraith", gan ychwanegu "nad oedd yn rhan" o weithgareddau busnes ei gŵr.
Arestiadau a manylion yr ymchwiliad
Oriau cyn datganiad Ms Reid ddydd Mawrth, fe wnaeth Heddlu'r Met ddweud bod dyn 39 oed wedi ei arestio yn Llundain.
Fe wnaeth y llu ychwanegu bod dyn 68 oed wedi ei arestio ym Mhowys, a dyn 43 oed wedi ei arestio ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd yr heddlu bod y tri wedi eu cyhuddo o gynorthwyo gwasanaeth cudd-wybodaeth dramor o dan adran tri y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol, a gafodd ei chyflwyno yn 2023.
Dywedodd Heddlu'r Met eu bod wedi eu cefnogi gan heddlu gwrthderfysgaeth yng Nghymru ac yn Yr Alban.
Mae'r heddlu hefyd wedi cynnal archwiliad mewn cyfeiriad ym Mhont-y-clun sy'n gysylltiedig ag un o'r dynion a gafodd eu harestio.
Cafodd tri chyfeiriad arall eu chwilio hefyd - yn Llundain, East Kilbride a Chaerdydd.
Datganiad gan bennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Llundain
Dywedodd Helen Flanagan, pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Llundain:
"Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn yr achosion sy'n ymwneud â diogelwch cenedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda phartneriaid i helpu i gadw'r wlad yn ddiogel ac i gymryd camau i darfu ar weithgarwch maleisus os oes amheuaeth."
Ychwanegodd fod yr arestiadau yn "rhan o ymchwiliad rhagweithiol ac er bod y materion hyn yn ddifrifol, nid ydym yn credu bod unrhyw fygythiad uniongyrchol i'r cyhoedd.
Mae ein hymchwiliad yn parhau, ac rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth barhaus."
Ffyrdd o ddilyn y newyddion
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







