Criw GISDA o Wynedd yn wynebu her wrth geisio dychwelyd o India
Mae grŵp o Gymry sy'n gweithio gyda'r elusen GISDA, sydd allan ar daith ddiwylliannol yn India, yn wynebu anawsterau mawr wrth geisio dychwelyd adref oherwydd gwrthdaro yn y Dwyrain Canol sy'n arwain at ganslo hediadau a chau meysydd awyr.
Roedd disgwyl i'r criw ddychwelyd ddydd Llun, ond bu'n rhaid iddynt ail-gynllunio eu taith oherwydd y sefyllfa ddiogelwch a'r canslo hediadau. Ar hyn o bryd, disgwylir iddynt adael Mumbai am 05:00 fore Iau, gyda dychweliad i Fangor erbyn nos Sadwrn.
Mae Cymru Fyw wedi clywed am brofiadau pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y gwrthdaro yn y rhanbarth.
Yn ystod y cyfnod hwn, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, mai ei phrif flaenoriaeth yw diogelwch y bobl yng Nghymru a'r Cymry sydd yn y rhanbarth.
'Wedi bod yn hunllef'
Sian Tomos, Prif Weithredwr GISDA, a oedd yn rhan o'r criw, disgrifiodd y sefyllfa fel "hunllef" wrth geisio dychwelyd adref.
"Roedd pawb yn edrych ymlaen at y daith i India, a'r criw wedi cael wythnos wych yn ymweld â llefydd amrywiol o amgylch India a chyfleodd i wirfoddoli".
"Ond dydd Sul yn anffodus 'naeth ein taith adref gael ei ganslo a da ni just 'di bod yn trio meddwl am ffyrdd eraill o ddod adref".
"Mae wedi bod yn hunllef", meddai, gan nodi nad ydyn nhw wedi medru cael gafael ar y cwmni hedfan.
"Mae o wedi bod yn anodd yn ceisio chwilio am flights achos mae'r prisiau yn mynd fyny".
'Panig, gofid ac ansicrwydd' i Gymry yn y Dwyrain Canol
Un arall o'r criw, Alicia Lee Lomas, sydd allan yn India ar ei thaith dramor gyntaf, rhannodd ei phrofiad o fod yn ansicr ac yn poeni.
"Ro'n i'n poeni'n arw. Ond roedd cael y gweithwyr cymorth yma wir wedi helpu".
"Dwi wedi bod yn homesick, oherwydd bod fy merch adref."
Mae'r grŵp wedi ymweld â dinasoedd megis Delhi, Jaipur ac Agra yn ystod eu trip.
Er mwyn osgoi'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, mae'r cynlluniau newydd yn cynnwys hedfan o Mumbai i Lundain trwy Dar-es-Salam yn Tanzania, Johannesburg yn Ne Affrica, ac Addis Ababa yn Ethiopia.
Sian Tomos, Mirain Brady a Kaya Hughes o GISDA wedi bod ar y daith.

Dywedodd Kaya Hughes, un o reolwyr yr elusen, fod y cwmni hedfan wedi dweud wrthynt "efallai y bydd diweddariad ymhen wythnos".
Yn ôl Mirain Brady, "Fe wnaethon ni eu ffonio yn wreiddiol ar y nos Sul ac roedden nhw'n dweud nad oedd yr hediad wedi ei ganslo, ond roedd yn dangos ar y wefan ei fod wedi ei ganslo".
"Erbyn neithiwr wedyn, erbyn tua 02:00 y bore, erbyn i ni gael ein llety, ro'n nhw fwy neu lai yn dweud wrtho ni 'chi ben eich hunain'."
Datganiad Prif Weinidog Cymru
Yn ei ddatganiad diweddaraf, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ei bod yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar y datblygiadau ac wedi cael ei briffio'n uniongyrchol gan uwch-swyddogion Swyddfa'r Cabinet y DU.
"Mae Llywodraeth Cymru yn ymuno â phartneriaid rhyngwladol i alw am atal yr ymladd, dychwelyd i ddiplomyddiaeth a chydymffurfiaeth lawn â chyfraith ryngwladol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap i gael y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







