Skip to main content
Advertisement

Sut i ymdopi â'r tywydd cynnes ar faes yr Eisteddfod ym Môn

Mae disgwyl i dymheredd cyrraedd 26°C ar faes yr Eisteddfod ym Môn ddydd Llun, gyda record tymheredd uchaf Cymru ym mis Mai o 30.6°C efallai'n cael ei dorri. Yr Urdd yn annog yfed dŵr, defnyddio eli haul a chysgodi, gyda tîm meddygol ar gael ar y safle.

·4 min read
Maes eisteddfod yr Urdd

Tywydd Cynnes ar Faes yr Eisteddfod

Mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 26°C ar faes yr Eisteddfod ym Môn ddydd Llun. Mae'r record ar gyfer y tymheredd uchaf yng Nghymru ym mis Mai yn 30.6°C, ac mae rhagolygon yn awgrymu y gall y tymheredd fod yn uwch na hynny mewn rhai mannau ddydd Llun.

Dywedodd yr Urdd fod

"lles a diogelwch ein mynychwyr wrth wraidd ein cynllunio, ac rydym wedi cymryd pob cam posibl i sicrhau profiad diogel a chysurus i bawb"
. Maent yn cynghori pobl i yfed digon o ddŵr, defnyddio eli haul, a cheisio cysgodi rhag yr haul.

'Edrychwch ar ôl eich hunain'

Er bod llawer yn croesawu'r heulwen ar y maes, dywedodd Kirk Bradshaw, technegydd argyfwng meddygol yn yr Eisteddfod, ei bod yn bwysig i bobl yfed

"digon o hylif, mae'r tywydd yn mynd i fynd yn gynnes ac yn humid iawn"
. Anogodd bobl i ddod â dŵr gyda nhw, gan nodi bod nifer o safleoedd dŵr ar draws y maes i'w defnyddio.

Dywedodd hefyd:

"Edrychwch ar ôl eich hunain, edrychwch ar ôl eraill, yn enwedig y neiniau a'r teidiau sydd yma ac edrychwch ar ôl yr henoed.
"Os ydych yn cychwyn teimlo wedi blino, fel eich bod wedi cael eich taro gan yr haul yn ormodol, mae gennym ni dîm meddygol llawn ar y safle."

Beth oedd barn pobl y maes am y tywydd cynnes?

Ai dyma'r tywydd 'Steddfod perffaith? Dyma oedd y farn ar y maes:

"Mae'n neud gymaint o wahaniaeth dwi'n meddwl cael y tywydd braf, ni methu rheoli'r tywydd yn anffodus ond mae'n braf gweld yr awyr las yn Ynys Môn."

"Mwynhau bod mas yn yr haul gyda dim wellies fel sydd fel arfer ar gyfer 'Steddfod yr Urdd."

"Mae'n braf iawn a dweud y gwir, mae'r safle'n fendigedig, y llwybrau caled yn arbennig, mae'n argoeli i fod yn wythnos braf!"

Un stondin sydd yn hynod o brysur yw'r un hufen ia, a dyma oedd gan un o'r gweithwyr i'w ddweud:

Ad (425x293)

"Mae'n reit boeth y tu allan 'na, ond 'da ni o flaen y freezer felly mae'n reit handi gallu sticio'n pen i mewn i oeri weithia'!"

Barn pobl y maes
Disgrifiad o’r llun, Beth oedd barn pobl y maes am y tywydd cynnes?

'Lles ein mynychwyr wrth wraidd ein cynllunio'

Mewn datganiad, dywedodd Yr Urdd:

"Mae nifer o ffynonellau dŵr wedi'u lleoli ar hyd y maes er mwyn galluogi pawb i lenwi ac ail-lenwi eu poteli dŵr aml-ddefnydd yn rhwydd.
Rydym yn annog pawb i yfed dŵr yn gyson drwy gydol eu hymweliad ac i ddod ag eli haul gyda nhw.
Yn ogystal, mae digon o gyfleoedd i gysgodi o amgylch safle'r ŵyl, gan gynnwys y pafiliynau, stondinau, adeiladau a strwythurau pwrpasol fel pebyll cysgodol.
Mae lles a diogelwch ein mynychwyr wrth wraidd ein cynllunio, ac rydym wedi cymryd pob cam posibl i sicrhau profiad diogel a chysurus i bawb."

Pam bod y tywydd mor gynnes?

Fe wnaeth Alex Humphreys, cyflwynydd tywydd S4C, esbonio pam bod y tywydd mor gynnes:

"Mae'r tywydd dan ddylanwad gwasgedd uchel ar hyn o bryd am gyfnod rŵan, mae hyn yn cadw'r tywydd yn sefydlog, a gyda'r jet lif yn rhedeg i'r gogledd o'r DU, ma' hyn yn cadw'r aer mwyn o'r de ac o'r cyfandir drosom ni.
Felly am yr wythnos nesaf mi fyddwn ni'n gweld y tymereddau uchel, sy'n anarferol adeg yma'r flwyddyn."

Dywedodd mai'r tymheredd cyfartalog ar gyfer mis Mai yn y DU yw rhwng 14°C a 17°C,

"felly 'da ni'n gweld dros 10°C yn fwy na hynny mewn rhai llefydd, a'r record ar gyfer mis Mai gyda llaw ydi 30.6°C ac roedd hynny nôl yn 1944"
.

Ychwanegodd fod disgwyl i'r record hwnnw gael ei dorri ddydd Llun wrth i rai llefydd gyrraedd 31°C.

"Mae'n gyfuniad o wasgedd uchel sydd drosom ni a'r jet lif sy'n cadw'r systemau tywydd drosom ni, yr aer mwyn yna yn dod draw o'r de orllewin, ond hefyd mae'n gynhesach ddydd Llun oherwydd mae'r gwyntoedd yn chwythu o'r dwyrain."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News