Asesiad Cenedlaethol yn Dangos Gwendidau Allweddol mewn Gwasanaethau Mamolaeth Cymru
Mae 600 o fenywod, teuluoedd a staff wedi rhannu eu profiadau fel rhan o asesiad cenedlaethol i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.
Mae asesiad cenedlaethol wedi nodi bod yna "wendidau a diffygion allweddol" o fewn gwasanaethau mamolaeth ar draws Cymru. Cafodd yr asesiad dystiolaeth bod "llawer o deuluoedd" wedi cael profiadau gwael, gyda phryderon penodol ynghylch diffyg gofal ôl-enedigol a lefelau staffio annigonol.
Er hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod y mwyafrif o deuluoedd wedi cael profiadau cadarnhaol, ac mae yna "ymrwymiad o'r newydd" i wella'r gwasanaethau.
Cyhoeddwyd yr asesiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles ym mis Mai 2025 gyda'r nod o adolygu diogelwch ac ansawdd gwasanaethau, yn dilyn cyfres o bryderon am ddiogelwch mamau a babanod mewn sawl lleoliad.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Miles y bydd rhaglen dair blynedd newydd yn cael ei gweithredu i wella gwasanaethau, gan gynnwys systemau i fonitro diogelwch mamau a babanod mewn "amser real".
Prif Ganfyddiadau'r Asesiad
Fe glywodd yr asesiad am brofiadau 600 o fenywod, teuluoedd a staff, gan ymweld ag "bron pob uned mamolaeth a newydd enedigol" yng Nghymru.
Mae'r "gwendidau a diffygion allweddol" a nodwyd yn cynnwys:
- "Llawer o deuluoedd yn sôn am brofiadau gwael" a "phryderon am gefnogaeth ôl-enedigol, cyfraniad tadau a methu diwallu anghenion iechyd meddwl".
- Diffyg cydweithio gan y cyrff sy'n gyfrifol am ddarparu, comisiynu, monitro, dal i gyfrif a gwella gwasanaethau.
- Lefelau staffio annigonol i fodloni anghenion y boblogaeth a'r "cynnydd cyflym mewn genedigaethau cesaraidd a thriniaethau ysgogi'r esgor". Mae hyn yn golygu bod "diogelwch a llesiant yn y fantol drwy gydol y daith mamolaeth" ac mae hyn wedi "taro morâl staff yn galed".
- "Anghysondebau o ran trefniadaeth a staffio prosesau brysbennu (triage) ac ysgogi'r esgor a phrinder darpariaeth theatr obstetrig", yn ogystal â diffyg staff a chefnogaeth ôl-enedigol.
- Gohirio gormodol yn y gwaith o ddadansoddi ac adrefnu gwasanaethau yn ne Cymru.
- Pryder bod Cymru "ar ei hôl hi" o gymharu â'r Alban a Lloegr o ran darparu gofal iechyd meddwl mewn unedau i fabanod a mamau.
- Mae'r broses o ymateb i ddigwyddiadau, gan gynnwys marwolaethau ac anafiadau difrifol, yn "anghyson ac or-weithdrefnol ac nid yw'n cynnwys teuluoedd fel mater o drefn", sy'n aml yn achosi "trawma pellach" iddynt.
- Mae "cynnydd digyffelyb yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU mewn ymyriadau meddygol, yn cynnwys gendigaethau Cesaraidd - heb werthuso'r canlyniadau i famau a theuluoedd a'r effaith ar adnoddau'r gwasanaeth iechyd".
Er hynny, mae'r asesiad yn nodi cryfderau hefyd, gan gynnwys "adborth cadarnhaol" gan nifer o deuluoedd am safon eu gofal, "ymrwymiad clir gan staff i ddarparu gofal o safon uchel" a "ffocws ac ymrwymiad newydd" ar lefel cenedlaethol i wella gwasanaethau a'u gwneud yn fwy cynaliadwy.

'Gobaith am Gonsensws Trawsbleidiol'
Cyn-Gomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yw cadeirydd panel goruchwylio'r asesiad.
"Mae gwasanaethau mamolaeth a newydd enedigol rhagorol yn rhan annatod o'n hiechyd fel cymdeithas.
Maent yn cael effeithiau gydol oes ar iechyd corfforol, iechyd meddwl a pherthnasoedd teuluol.
Nid yw'r un ohonom eisiau i'r gwasanaethau hanfodol hyn fod unrhyw beth heblaw'r gorau y gallant fod.
Mae gan Gymru'r arbenigedd, yr ymrwymiad a'r sylfeini sydd eu hangen i ddarparu gofal rhagorol i bob teulu, ym mhob cymuned.
Ond bydd hyn yn gofyn am ewyllys ar y cyd, buddsoddi hirdymor ac atebolrwydd clir.
Fy ngobaith i yw y byddwn yn gweld consensws trawsbleidiol ar roi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar y gwasanaethau hyn, a'r gefnogaeth y mae menywod, rhieni, teuluoedd a babanod yn ei haeddu."
'Yr Un Camgymeriadau yn Dal i Ddigwydd mewn Gofal Mamolaeth'
Mae'r adolygiad yn nodi bod dros 500 o argymhellion wedi eu gwneud dros y 10 mlynedd diwethaf yn sgil adolygiadau ac ymholiadau amrywiol i wasanaethau i famau a babanod.
Er mwyn peidio ychwanegu at y nifer hwnnw, mae'r panel wedi nodi wyth maes y maen nhw am flaenoriaethu gwelliannau arnynt:
- Arweinyddiaeth cysylltiedig mamolaeth a newydd enedigol yn genedlaethol
- Cynnig cyffredinol o ofal o ansawdd uchel
- Sylw brys i faterion diogelwch clinigol hollbwysig: blaenoriaethu a phrysuro'r geni
- Digon o staff a'r mannau cywir i ofalu'n ddiogel
- Cefnogi iechyd meddwl a llesiant
- Cynllunio a chomisiynu gwell ar gyfer gofal newydd enedigol
- Dysgu amserol o broses adolygu digwyddiadau dryloyw sy'n canolbwyntio ar y teulu
- Gwrando, deall a gwella drwy adborth go iawn
'Hawl i Ofal Diogel'
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr adolygiad - saith yn llawn ac un yn rhannol.
Yn ogystal, mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi cyhoeddi rhaglen dair blynedd i wella gwasanaethau, yn cynnwys sefydlu bwrdd goruchwylio strategol, system monitro diogelwch newydd fydd yn gweithio mewn "amser real" a fforwm cenedlaethol newydd i rannu arferion gorau.
Dywedodd Jeremy Miles:
"Mae gan bob mam, pob baban a phob teulu yr hawl i gael gofal diogel, o ansawdd uchel.
Rwyf am ddiolch i'r panel am eu gwaith ac rwy'n ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'r broses asesu.
Mae eu safbwyntiau a'u profiadau wedi bod yn hynod werthfawr, gan sicrhau bod lleisiau menywod, teuluoedd, staff a chymunedau ledled Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad terfynol.
Bydd Llywodraeth Cymru a'r GIG nawr yn bwrw ymlaen â'r argymhellion i sicrhau bod gwelliannau parhaol yn cael eu gwneud i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol."
Mae camau eisoes ar waith mewn ymateb i bryderon a gododd ynghylch safon gwasanaethau yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Hanes a Phryderon ynghylch Safonau Gofal
Fe sefydlwyd yr asesiad ar ôl i bryderon sylweddol am safon gwasanaethau a diogelwch mamau a babanod newydd-anedig ddod i'r amlwg mewn sawl lleoliad dros nifer o flynyddoedd.
Ym mis Gorffennaf 2025, amlygodd adolygiad annibynnol "fethiannau niferus" a difrifol yn safon y gofal a gafodd mamau beichiog a babanod newydd-anedig yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.
Yn ôl yr ymchwiliad, cafodd rhai mamau brofiadau hynod o wael a thrawmatig gyda nifer o achosion o "drawma geni difrifol".
Comisiynwyd yr adolygiad yn dilyn cwynion gan deuluoedd a phryderon ynghylch marwolaethau rhwng 2018-2023. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd gwasanaethau mamolaeth Bae Abertawe eu canoli ar un safle yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Nododd yr adolygiad enghreifftiau o staff yn dangos diffyg tosturi ac ymateb gwael i ddigwyddiadau lle digwyddodd niwed, gyda nifer o famau yn teimlo eu bod yn cael eu "hanwybyddu".
Yn dilyn hynny, ymddiheurodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe'n llwyr i unrhyw deulu na chafodd ofal o safon derbyniol.
Roedd cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru hefyd yn yr adolygiad, gan gynnwys cryfhau gwasanaethau i famau a babanod ledled Cymru, newid systemau cwynion i wneud y broses yn fwy hyblyg a thosturiol, a rhaglen newydd i gefnogi teuluoedd sydd wedi cael niwed.
Yn 2019, gosodwyd gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg dan fesurau arbennig ar ôl i "fethiannau difrifol" gael eu hamlygu.
Daeth ymchwiliad gan ddau Goleg Brenhinol i'r casgliad bod mamau wedi wynebu "profiadau trallodus a gofal gwael" yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ac Ysbyty'r Tywysog Charles, Merthyr Tudful, gyda gwasanaethau mamolaeth yn cael eu hystyried yn "gamweithredol".
Yn ddiweddarach, darganfu Panel Trosolwg Annibynnol fethiannau difrifol mewn 21 o 63 o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant ac Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr Tudful rhwng 1 Ionawr 2016 a 30 Medi 2018.
Mewn 37 achos arall, nododd yr adolygiad y gallai un neu ragor o fân gamgymeriadau fod wedi digwydd, a gallai gwersi gael eu dysgu o 48 o achosion. Dim ond mewn pedwar achos y daeth y panel i'r casgliad na ddylai unrhyw beth fod wedi cael ei wneud yn wahanol.
Pryderon Tebyg yn Lloegr
Yn y cyfamser, mae adolygiad cenedlaethol i safon gofal mamolaeth yn digwydd yn Lloegr, dan gadeiryddiaeth y Farwnes Valerie Amos.
Disgwylir i ganfyddiadau'r ymchwiliad gael eu cyhoeddi'n fuan.
Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr 2025, dywedodd y Farwnes Amos fod yr hyn yr oedd hi wedi'i ganfod hyd yma "wedi bod yn llawer gwaeth" na'r hyn yr oedd hi wedi'i ddisgwyl.
Mae hi wedi amlinellu enghreifftiau lle roedd rhai menywod wedi teimlo eu bod ar fai am farwolaeth eu babi, tra bod eraill wedi dioddef o ddiffyg cydymdeimlad, gofal neu ymddiheuriad pan oedd pethau wedi mynd o'i le.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







