Skip to main content
Advertisement

Rhestr Fer Cân i Gymru 2026 Wedi’i Chyhoeddi gyda Chystadleuaeth yn Dychwelyd i Ynys Môn

Mae rhestr fer Cân i Gymru 2026 wedi cael ei chyhoeddi gyda’r gystadleuaeth yn dychwelyd i Ynys Môn am y tro cyntaf ers 2015. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn fyw o Faes Sioe Môn ar 28 Chwefror gyda gwobrau ariannol i’r enillwyr.

·3 min read
Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur

Cystadleuaeth Cân i Gymru yn Dychwelyd i Ynys Môn

Bydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn dychwelyd i Ynys Môn eleni am y tro cyntaf ers 2015. Mae’r caneuon sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Cân i Gymru 2026 wedi cael eu cyhoeddi.

Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno’r gystadleuaeth, a fydd, am y tro cyntaf ers dros 10 mlynedd, yn cael ei chynnal yn fyw o Faes Sioe Môn ar nos Sadwrn 28 Chwefror.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr, yw cadeirydd panel y beirniaid unwaith eto. Mae Barry 'Archie' Jones o’r band Celt, y gantores a’r gyfansoddwraig Mali Hâf, y cyflwynydd a’r DJ radio Mirain Iwerydd, a phrif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard, hefyd ar y panel.

Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws a gwobr ariannol o £5,000, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Pwy sydd ar y rhestr fer?

Cyfansoddi a pherfformio: Rhodri Lloyd Evans

Mae Rhodri Lloyd Evans wedi addo i ddisgyblion Ysgol Pentrefoelas - ble mae'n brifathro - y byddai'n prynu dau grwban i'r ysgol petai'n ennill!

Rhodri Lloyd Evans
Disgrifiad o’r llun, Mae Rhodri Lloyd Evans wedi addo i ddisgyblion Ysgol Pentrefoelas - ble mae'n brifathro - y byddai'n prynu dau grwban i'r ysgol petai'n ennill!

Cyfansoddi: Geth Tomos, Henry Priestman, John Beck, Adam Dennis ac Emlyn Gomer

Fe wnaeth Geth Tomos ac Emlyn Gomer benderfynu gweithio gyda'i gilydd ar ôl cwrdd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2022.

Emlyn Gomer, Geth Tomos a Henry Priestman
Disgrifiad o’r llun, Fe wnaeth Geth Tomos ac Emlyn Gomer benderfynu gweithio gyda'i gilydd ar ôl cwrdd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2022

Cyfansoddi: Rhi Jorj a Gwynedd Maesywaun

Mae Rhi Jorj yn gyn-aelod o'r bandiau Amledd ac Ust.

Rhi Jorj
Disgrifiad o’r llun, Mae Rhi Jorj yn gyn-aelod o'r bandiau Amledd ac Ust

Dyma ail brosiect Ruby ac Endaf gyda'i gilydd ar ôl rhyddhau'r gân 'To You, From Me' y llynedd.

Ruby ac Endaf
Disgrifiad o’r llun, Dyma ail brosiect Ruby ac Endaf gyda'i gilydd ar ôl rhyddhau'r gân 'To You, From Me' y llynedd

Cyfansoddi a pherfformio: Dan Williams

Advertisement

Mae Dan Williams yn gyn-aelod o'r bandiau Y Promatics a Hudo.

Dan Williams
Disgrifiad o’r llun, Mae Dan Williams yn gyn-aelod o'r bandiau Y Promatics a Hudo

Cyfansoddi: Lowri Clancy Davies

Perfformio: Lowri Clancy Davies a'i chwaer, Cifa

Enillodd tad Lowri, Ryland Teifi, cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2006 gyda'r gân 'Lili'r Nôs'.

Lowri Clancy Davies
Disgrifiad o’r llun, Enillodd tad Lowri, Ryland Teifi, cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2006 gyda'r gân 'Lili'r Nôs'

Cyfansoddi: Rhydian Meilir a Myrddin ap Dafydd

Perfformio: Jacob Elwy a Lleucu Gwawr

Fe ddaeth Rhydian Meilir i'r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2022 gyda 'Mae Yna Le'.

Rhydian Meilir
Disgrifiad o’r llun, Fe ddaeth Rhydian Meilir i'r brig yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2022 gyda 'Mae Yna Le'

Cyfansoddi: Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer

Efallai bod y llun yma'n gyfarwydd... a hynny gan fod dwy gân gan Emlyn Gomer, Geth Tomos a Henry Priestman wedi cyrraedd y rhestr fer eleni.

Emlyn Gomer, Geth Tomos a Henry Priestman
Disgrifiad o’r llun, Efallai bod y llun yma'n gyfarwydd... a hynny gan fod dwy gân gan Emlyn Gomer, Geth Tomos a Henry Priestman wedi cyrraedd y rhestr fer eleni

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News