Skip to main content
Advertisement

Gwobrau'r Selar yn dychwelyd gyda uchelgais i ysbrydoli pobl ifanc

Gwobrau'r Selar yn dychwelyd i Aberystwyth gyda phwyslais ar uchelgais i ddenu cynulleidfaoedd ifanc a chefnogi cerddorion Cymraeg newydd. Ed Holden yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig 2026.

·6 min read
Kim Hon

Enillwyr Gwobrau'r Selar a pherfformiadau eleni

Kim Hon, enillwyr y wobr 'Band neu Artist Newydd' yn 2020, yn perfformio yn yr undeb.

Buddug
Disgrifiad o’r llun, Buddug oedd enillydd y wobr honno yn 2024... a thair gwobr arall!

Buddug oedd enillydd y wobr honno yn 2024, gan gipio tair gwobr arall hefyd.

Gwilym
Disgrifiad o’r llun, Gwilym oedd prif enillwyr gwobrau 2020 gan hawlio 'Band Gorau', 'Cân Orau' a 'Fideo Cerddoriaeth Gorau'

Gwilym oedd prif enillwyr gwobrau 2020 gan hawlio'r categori 'Band Gorau', 'Cân Orau' a 'Fideo Cerddoriaeth Gorau'.

Yr Eira
Disgrifiad o’r llun, Yr Eira oedd yn cloi noson Gwobrau'r Selar yn 2018

Yr Eira oedd yn cloi noson Gwobrau'r Selar yn 2018.

Fleur De Lys
Disgrifiad o’r llun, Mae Fleur De Lys yn un o'r bandiau sydd wedi cipio sawl gwobr dros y blynyddoedd

Mae Fleur De Lys yn un o'r bandiau sydd wedi cipio sawl gwobr dros y blynyddoedd.

Lewys
Disgrifiad o’r llun, Lewys gipiodd y wobr am y Band neu Artist Newydd Gorau yn 2019

Lewys gipiodd y wobr am y Band neu Artist Newydd Gorau yn 2019.

Dychweliad Gwobrau'r Selar a phwysigrwydd uchelgais

Wrth i Wobrau'r Selar ddychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth am y tro cyntaf ers 2020, mae un o drefnwyr y digwyddiad yn pwysleisio bod angen bod yn uchelgeisiol i ddenu cynulleidfaoedd ifanc.

Yn ôl Owain Schiavone, prinder gigs mawr Cymraeg y tu hwnt i wyliau'r haf oedd un o'r rhesymau i griw'r Selar benderfynu atgyfodi'r digwyddiad, oedd ar un adeg yn un o uchafbwyntiau'r calendr cerddoriaeth Gymraeg.

"Yn Aberystwyth, er enghraifft, mae 'na'n sicr fwlch o ran digwyddiadau byw gan fod nifer o venues y dref yn fach ac yn fwy tanddaearol ac acoustic eu naws a dwi'n teimlo bod diffyg pwynt mynediad i bobl 15/16 oed i gerddoriaeth Gymraeg y tu hwnt i bethau fel Maes B," meddai.

Bydd enillwyr Gwobrau'r Selar 2026 yn cael eu cyhoeddi yn ystod y digwyddiad nos Sadwrn.

Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2026 a newyddion eraill

Yws Gwynedd: Angen i'r llywodraeth dalu incwm i gerddorion Cymru.

Cronfa newydd yn dod â 'gobaith' i sin cerddoriaeth draddodiadol Cymru.

Artistiaid perfformio a manylion y digwyddiad

Yr artistiaid fydd yn perfformio yng Ngwobrau'r Selar eleni yw Bwncath, Buddug, Taran, Lafant a Blêr gyda Mirain Iwerydd yn cyflwyno a Djs amrywiol hefyd yn diddanu'r dorf.

Advertisement

Ar ôl dod i stop yn 2020 - yn bennaf oherwydd effaith y pandemig - fe wnaeth y noson wobrwyo ddychwelyd y llynedd, ond hynny ar raddfa lai.

"Ryw fath o brofi'r dŵr oedd y llynedd. Roedden ni eisiau iddo fo fod ar scale eitha' bach, dim risg ariannol, math o arbrawf i weld os oedd yr awydd yno i adfer digwyddiad o'r math yma," esboniodd Owain.
"Mi oedd y noson (yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth) yn llwyddiannus, y bands yn grêt, y gynulleidfa wedi mwynhau - felly oedd rhywun yn gweld y potensial ar sail hynny wedyn."

'Wbath ar goll ers Covid'

Roedd creu cyffro a chynnig cyfle i bobl ifanc gael blas o gerddoriaeth Gymraeg byw yn rhan o'r rheswm i roi ail fywyd i'r noson wobrwyo.

"'Dan ni eisiau rhoi blas i bobl ifanc o'r hyn allen nhw ddisgwyl y tu hwnt i wyliau mawr yr haf," meddai.
"Mae hi'n anodd enwi gigs mawr, y tu hwnt i'r Ddawns Rhyngol, sy'n cyffroi pobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sydd heb fynd i'r brifysgol eto.
"Mae'n grêt gweld pobl yn mentro - criw Tin Sardins yn ddiweddar er enghraifft - ond oedden ni'n teimlo bod 'na wbath ar goll ers Covid o ran gigs llawr gwlad.
"Ma'n rhaid i wbath fod yn uchelgeisiol i apelio, go big or go home!"

Ychwanegodd fod Y Selar yn ceisio annog pobl ifanc i fod yn rhan o'r gwaith trefnu ac i helpu ar y noson yn ogystal â chynnig cynllun mentora o ran sut i drefnu gigs.

Enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig 2026: Ed Holden

Ed Holden yw enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau'r Selar eleni.

Mr Phormula
Disgrifiad o’r llun, Ed Holden yw enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau'r Selar eleni

Mae'r Selar eisoes wedi cyhoeddi mai enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig 2026 yw'r cerddor, rapiwr, cynhyrchydd a bît-bocsiwr Ed Holden, neu Mr Phormula.

Mae Ed wedi bod yn creu cerddoriaeth fel Mr Phormula ers rhai blynyddoedd bellach, a chyn hynny wedi bod yn aelod o Pep Le Pew a'r Genod Droog.

Mae rhai o enillwyr eraill y wobr dros y blynyddoedd yn cynnwys Gorwel Owen, Geraint Jarman, Heather Jones, Gwenno a Gruff Rhys.

Wrth ddatgelu'r newyddion ar raglen Ifan Davies ar BBC Radio Cymru brynhawn Gwener, dywedodd Ed fod derbyn cydnabyddiaeth o'r fath yn syndod iddo.

"Waw... do'n i byth yn meddwl 'swn i'n cael 'wbath fel 'ma pan nes i ddechrau neud miwsig efo'r 'ogia yng Ngarndolbenmaen.
"'Swn i'n licio deud bo' fi'n ffodus iawn ond dwi wedi gweithio'n galed i gyrraedd y pwynt yma hefyd.
"Mae'n dangos rili, os ti'n gweithio'n ddigon caled, ti'n gallu troi fo fewn i 'wbath tisho fo fod."

Esboniodd fod y sin hip hop yng Nghymru wedi newid a chryfhau yn aruthrol ers iddo ddechrau gwneud cerddoriaeth dros 20 mlynedd yn ôl.

"Mae'r sin hip hop yng Nghymru - iaith Gymraeg neu beidio - yn anhygoel, mae o mor gefnogol. Dwi erioed wedi teimlo ar ben fy hun," meddai.
"Weithia' ella fi oedd yr unig un oedd yn neud o'n Gymraeg, ond dwi 'di gallu adeiladu gymaint o berthnasau a fframwaith anhygoel efo llwythi o artistiaid rownd Cymru.
"Yn amlwg ma' hynny wedi newid rŵan sy'n fendigedig - mae gen ti bobl fel Sage (Todz), Dom a Lloyd, Gucci, Skylark, ma' 'na lwyth ohonyn nhw!"

'Y Gymraeg wedi rhoi'r cyfle i fi fyw fel cerddor proffesiynol'

Ychwanegodd fod ei ddefnydd o'r Gymraeg yn ei gerddoriaeth wedi bod yn gwbl ganolog i'w lwyddiant fel cerddor.

"Ma'r Gymraeg a'r sgil o fod yn ddwyieithog wedi rhoi'r cyfle i fi drafeilio rownd y byd a byw fel cerddor proffesiynol, ma' o mor syml â hynna.
"O'dd gen i agwedd eitha' negyddol at y Gymraeg yn gadael ysgol, ond 'swn i'n licio mynd yn ôl at y person o'n i, a 'swn i wrth fy modd yn ysgwyd o 'chydig a deud 'sbia ar y llun mawr yn lle byw yn y bybl 'ma'.
"Os ti efo mwy nag un iaith, defnyddia nhw. Yn anffodus, ma' dal i fodoli efo pobl ifanc weithia', ond ma' rap a'r fath o gerddoriaeth sy'n bodoli rŵan yn y Gymraeg bendant yn helpu rhoi adlewyrchiad hollol fresh ar yr iaith, a ma' hynna mor bwysig."

Rhestrau byr Gwobrau'r Selar 2026

  • Mynd a'r Tŷ Bach am Dro - Cowbois Rhos Botwnnog
  • Er Gwaetha' Pob Dim - Yr Anghysur

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News