Skip to main content
Advertisement

Galw ar bob Gruff, Griff a Gryff i Faes Eisteddfod Yr Urdd 2026

Angharad Prys o'r Urdd yn gwahodd pawb gyda'r enwau Gruff, Griff, Gryff i gyfarfod a mwynhau perfformiadau arbennig yn Eisteddfod Yr Urdd 2026.

·3 min read
Gruff

Galw ar bob Gruff, Griff a Gryff i Faes Eisteddfod Yr Urdd 2026

Y cyn-seiclwr proffesiynol Gruff Lewis, Brenin Cymru o 1055-63 Gruffudd ap Llywelyn, yr artist Griff Lynch, a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys, yw rhai o'r enwau adnabyddus sydd wedi'u cysylltu â'r digwyddiad arbennig hwn.

Ym mis Chwefror eleni, siaradodd Gruff Hughes ar Raglen Trystan ac Emma ar BBC Radio Cymru, gan adrodd hanes grŵp Whatsapp a oedd yn llawn pobl â'r enw Gruff.

Roedd dwsinau o 'Gruffs' yn rhan o'r grŵp hwn, a oedd ond yn derbyn y sillafiad 'Gruff', gan beidio derbyn yr enwau 'Griff' na 'Gryff'.

O glywed yr eitem radio hon, cafodd Angharad Prys, sy'n gweithio fel Rheolwr Celfyddydol i'r Urdd, ei hysbrydoli i weithredu.

Y syniad i wahodd y Gruffs i'r Eisteddfod

Yn siarad ar raglen Trystan ac Emma ar 15 Mai, dywedodd Angharad:

Ad (425x293)
'Nes i glywed y sgwrs ac o'n i wrth fy modd efo'r syniad bo' 'na grwp Whatsapp wedi ei greu jest am bod ei henwau nhw yr un peth.
O'n i'n meddwl bod o'n piti bo' nhw ddim yn cael cyfarfod eu gilydd dydi, felly beth am wahodd nhw draw i Steddfod Yr Urdd nos Sul pan ma'r Triban ymlaen, a cawn nhw gyfarfod yn un criw ar Faes Steddfod Yr Urdd.'

Rhaglen Trystan ac Emma ar BBC Radio Cymru

Mae'r rhaglen yn cynnig cerddoriaeth ac adloniant gyda Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford.

Dywed Angharad ei bod wedi gwneud ymchwil i weld sawl Gruff, neu amrywiad o sillafiad o'r enw, sydd yn aelod o'r Urdd ar hyn o bryd.

'Mae 'na 640 o aelodau o'r Urdd sydd â'r enw Gruff, Griff, Gryff neu Gruffudd. Mae 'na 140 o rheiny sy'n Griff, felly gan fod Yr Urdd i bawb mae gennai gais i'r grŵp Gruff gwreiddiol plîs gawn ni gynnwys pob Gruff/Griff/Gryff?
Dwi'n dweud yn swyddogol bod 'na groeso i bob un sillafiad o'r enw ddod - yn yr Adlen, 6 o'r gloch nos Sul pan fydd Triban 'mlaen. Yn chwarae bydd Elin Fflur, Fleur de Lys, Gwilym, Cordiau, Buddug a Popeth - fydden nhw perfformio i bawb yn yr Eisteddfod, gan gynnwys bob Gruff, Griff a Gryff!'

Felly, os ydych chi'n Gruff, Gruffudd, Griff neu Gryff, ewch i Faes Eisteddfod Yr Urdd ar nos Sul 24 Mai i ehangu'r rhwydwaith!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

  • Ymateb Trystan ac Emma i glip archif o Eden yn 1995
  • Lluniau: Dawnsathon 24 awr Trystan ac Emma

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News