Cronfa newydd i gryfhau cerddoriaeth draddodiadol Cymru
Cyhoeddwyd gronfa newydd gwerth £200,000 sydd wedi'i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Thŷ Cerdd, gyda'r nod o gryfhau cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Mae Cronfa Tradd yn cynnig grantiau o hyd at £25,000 i brosiectau sy'n cysylltu â chymunedau drwy weithgarwch cyfranogi ym maes cerddoriaeth draddodiadol.
Yn ôl cerddor Jordan Price Williams, mae'r gronfa'n dod â "gobaith" i'r diwydiant cerddoriaeth draddodiadol, ond mae'n pwysleisio mai "dim ond y cam cyntaf" yw hwn os yw'r sin gerddoriaeth draddodiadol am dyfu. Daw'r cyhoeddiad ar ôl adolygiad diweddar a rhybuddiodd y gallai sin gwerin Cymru ddod i ben o fewn cenhedlaeth os na chaiff ymyrraeth frys.
'Brwydr debyg i'r iaith Gymraeg'
Bydd y gronfa'n rhoi grantiau o hyd at £25,000 i brosiectau sy'n cysylltu â chymunedau drwy gyfranogi mewn cerddoriaeth draddodiadol. Mae Jordan Price Williams, aelod o'r band gwerin Vrï, yn croesawu'r gronfa newydd.
"Mae'n rhywbeth really bwysig fi'n credu.
Am dipyn o flynyddoedd nawr dyw'r gymuned yma ddim wedi cael digon o arian i gefnogi ei hunain.
Maen nhw'n dibynnu ar bobl yn gadael iddyn nhw wneud pethau am ddim a tydi hynny ddim yn sustainable."

Yn ogystal â'i waith gyda Vrï, mae Jordan yn gweithio fel rheolwr datblygu cerddoriaeth draddodiadol Tŷ Cerdd. Dywedodd:
"Mae'n cymryd shwt gymaint o waith, egni ac amser i ddatblygu sgiliau sy'n angenrheidiol i symud ymlaen fel cerddor professional, ac os oes rhaid cael swydd llawn amser does dim digon o amser i ffocysu ar eich sgiliau creadigol chi.
Y risg enfawr heb ymyrraeth yw bod y traddodiadau yma yn lleihau mewn poblogrwydd ac mae pawb yn anghofio am bopeth ac yna mae'n marw mas.
Ni mewn brwydr debyg gyda'r iaith Gymraeg."
'Dechrau symud i'r cyfeiriad cywir'
Er hynny, mae Jordan yn obeithiol y bydd y gronfa'n ddechrau da o ran sicrhau dyfodol cerddoriaeth draddodiadol Cymru.
"Gyda'r gronfa yma mae cyfle i geisio am gymorth sy'n galluogi artistiaid ac yn golygu bydd mwy o gyfleoedd i gyrraedd cynulleidfa newydd gan, gobeithio, tyfu'r sin.
Dwi'n obeithiol mwy na unrhyw beth.
I fi mae'n teimlo fel mae popeth yn dechrau symud i'r cyfeiriad cywir, ond dyma'r cam cyntaf yn unig dwi'n credu."
Manylion y gronfa a chymorth i'r sector
Mae'r gronfa ar agor i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n gweithio yn nhraddodiadau Cymru neu'r byd, trefnwyr ar lawr gwlad sy'n darparu lleoedd ar gyfer cerddoriaeth draddodiadol, a sefydliadau sy'n gweithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr creadigol a chymunedau targed wedi'u diffinio'n glir.
Mae'r grantiau'n cynnwys:
- Grantiau unigol hyd at £10,000 i artistiaid sy'n arwain prosiectau cymunedol ar lawr gwlad;
- Grantiau partneriaeth rhwng £2,000 a £25,000 ar gyfer sefydliadau a cherddorion sy'n cydweithio;
- Canolbwyntio ar weithgarwch cyfranogi dan arweiniad y gymuned yn hytrach na pherfformiadau'n unig;
- Cefnogi traddodiadau amrywiol yng Nghymru gan gynnwys arferion cerddorol o Gymru a'r byd;
- Pwyslais ar gysylltu pobl ifanc â cherddoriaeth draddodiadol a chyfnewid rhwng y cenedlaethau.
Gobeithion Cyngor Celfyddydau Cymru

Yn ôl Dafydd Rhys, prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, mae'r gronfa yn "ymateb yn uniongyrchol i ganfyddiadau'r Adolygiad o Gerddoriaeth Draddodiadol yn 2025 a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, gan gydnabod bod angen cymorth ar bob lefel ar sector cerddoriaeth draddodiadol ffyniannus".
Dywedodd ei fod yn obeithiol y bydd y buddsoddiad yn "helpu i gryfhau ecosystem cerddoriaeth draddodiadol gyfan a sicrhau bod traddodiadau diwylliannol pwysig yn parhau i fyw a bod yn hygyrch i genedlaethau'r dyfodol".
Manylion ymgeisio a gwerthuso
Mae modd ymgeisio drwy borth Tŷ Cerdd tan 8 Ebrill. Yna, bydd staff yn asesu ansawdd ac arloesedd y syniad, dichonoldeb y cynllun, yr effaith bosibl, y Gymraeg, cynhwysiant ac aliniad â blaenoriaethau'r gronfa.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







