Eisteddfod yr Urdd: 'Braf gweld mwy o sylw i ddysgwyr eleni'
Mae pennaeth cynorthwyol Ysgol y Model, Debi Deacon, yn credu bod yr Eisteddfod yn llwyfan anhygoel i ddysgwyr.
Mae mwy o gystadlaethau ar gyfer dysgwyr eleni nag erioed o'r blaen yn Eisteddfod yr Urdd.
A hithau'n ŵyl saith diwrnod am y tro cyntaf erioed, dydd Sadwrn fydd diwrnod y dysgwyr.
I un ysgol cyfrwng Saesneg o Gaerfyrddin sydd wedi bod yn cystadlu ers dros ugain mlynedd, mae 'na newid agwedd at ddysgwyr ac mae hynny i'w groesawu.
Eisteddfod yr Urdd: 'Braf gweld mwy o sylw i ddysgwyr eleni'
Mae Ysgol y Model yng Nghaerfyrddin wedi bod yn cefnogi Eisteddfod yr Urdd ers ugain mlynedd a rhagor.
Er ei bod yn ysgol cyfrwng Saesneg, mae'r pennaeth cynorthwyol, Mrs Debi Deacon, o'r farn fod yr Eisteddfod yn llwyfan anhygoel i ddangos i'w disgyblion fod y Gymraeg yn "iaith fyw".
'Da ni'n teimlo'n gryf iawn i roi pob cyfle 'da ni'n gallu i'r plant a ma' Steddfod yr Urdd wedi bod yn rhan huge o'n hysgol ni ers blynyddoedd bellach.
Dwi'n teimlo bod y plant yn cael y cyfle i weld yr iaith Gymraeg fel rhywbeth byw, rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio nid yn unig mewn dosbarth, ond mae'n cael ei ddefnyddio mewn lle hwyliog, cystadleuol.
Mae'n fwy na chyfle i siarad yr iaith, a dwi wedi cael llawer iawn o blant yn diolch am y cyfle ac maen nhw wedi cofio am y profiad gydol eu bywyd.
'Agwedd' pobl wedi newid
Dwi wedi bod yn gwneud hyn ers amser, a dwi wedi gweld datblygiad enfawr, dim yn unig yn y cystadlaethau a'r pethe ni'n cael gwneud, ond gydag agwedd pawb atom ni fel dysgwyr hefyd,
Dwi'n meddwl ma' pobl sydd wedi bod yn yr Eisteddfod ers blynyddoedd yn parchu'r ffaith bo' ni'n rhoi'r cyfle 'ma i blant sy'n hollol ddi-Gymraeg.
Felly mae'r ffaith bod mwy a mwy o gyfleoedd... jyst yn dangos bod yr Urdd yn ein gwerthfawrogi ni hefyd.
Mae'n fythgofiadwy, a dwi'n gobeithio mai dyna yw fy anhreg fach i i'r plant sy'n dod i Ysgol y Model, yw'r rhoi'r cyfle, a rhoi'r hyder iddyn nhw drio pethau newydd, ac i allu cyfathrebu mewn iaith wahanol, iaith sy'n fyw ac yn bwysig i'r wlad.
Dwi jyst yn falch ac yn hapus fod y Model yn gallu hybu eraill i ddysgu'r Gymraeg.

Mae'r criw yma o Ysgol y Model yn edrych ymlaen at gystadlu yn yr Eisteddfod
Mae Ysgol y Model yn cystadlu'n flynyddol heb ystyriaeth a yw'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn agos i ardal Caerfyrddin neu beidio.
Ers dechrau ar y daith gyda'r Urdd, dwi wedi bod yn teimlo'n gryf iawn, dwi ddim eisiau bod yn 'ffrind fair weather' fel maen nhw'n dweud yn Saesneg,
Os 'da ni'n cefnogi, 'da ni'n cefnogi, ac os 'da ni'n gwneud yr ymdrech i gystadlu, 'da ni'n cystadlu.
Wrth sôn am y balchder o weld y disgyblion yn cystadlu ar y llwyfan, dywedodd fod hyn oll yn "neud i mi grio bob tro, dwi mor falch ohonyn nhw".
Mae'r gwaith sy'n mynd mewn, 'da ni'n cychwyn gair ar y tro,
Medal aur Pencampwriaeth y Byd ar lwyfan yr Urdd
Un sy'n edrych ymlaen yn arw at gystadlu yn yr Eisteddfod eleni yw Lucy, disgybl ym mlwyddyn pedwar.
Dywedodd ei bod yn "gwneud popeth! Y gân actol, Mistar Mostyn, y cerdd dant, heini a'r ymgom".
Ar gyfer y gystadleuaeth llefaru unigol i ddysgwyr, mae Lucy am wisgo medal go arbennig o gwmpas ei gwddf – medal aur Pencampwriaeth y Byd a enillwyd gan un o gyn-ddisgyblion yr ysgol, Emma Finucane.

Lucy yn gwisgo medal a chrys Emma Finucane
Ma' Lucy yn adrodd darn o'r enw 'Reidio Beic...' felly o'n i'n meddwl beth allwn ni wneud i helpu Lucy. Wedyn sylweddoles i fod Pencampwraig y Byd yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol.
Gofynnes i a allen ni fenthyg y fedal... a ma' Lucy am gael y fedal yn ei llaw ac ar y diwedd bydd hi'n rhoi hi dros ei phen.
Dwi'n amau mai dyma'r tro cyntaf erioed i fedal Pencampwraig y Byd fod ar lwyfan yr Urdd... ni'n gyffrous iawn!
Dywedodd Gwilym Morgan fod ennill medal Bobi Jones yn "allweddol yn fy nhaith iaith" ac yn "drobwynt" iddo.

Un arall sydd wedi cael budd o gystadlaethau dysgwyr yr Eisteddfod yw Gwilym Morgan, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gwnes i ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd yn 2023 ac ers hynny dwi wedi bod yn gwneud pethau eraill i helpu dysgwyr fel Dysgu Cymraeg i Oedolion a hefyd fy musnes lle dwi'n gwerthu adnoddau i ddysgwyr.
Wrth ymateb i'r ffaith mai dyma'r flwyddyn sydd â'r nifer fwyaf o gystadlaethau i ddysgwyr, dywedodd:
Dwi'n meddwl mae'n hollol wych achos tua phum mlynedd yn ôl o ni ddim efo clem beth oedd Eisteddfod yr Urdd.
Mae o'n fyd gwahanol a chael dysgwyr i fynd mewn i'r byd yna, a gweld pa mor fyw yw'r iaith a chael mynediad at y gymuned, mae'n hollol ardderchog.
Dywedodd fod ennill y fedal honno yn "allweddol yn fy nhaith iaith" ac yn "drobwynt" iddo.
O ni'n sylweddoli pa mor fawr oedd y Gymraeg, oedd e ddim jyst yn bwnc yn yr ysgol a tra bo fi'n dwli ar ramadeg, mae 'na gymaint mwy i'r iaith na jyst gramadeg.
Mae'n rhoi'r cyfle i bawb sy'n dysgu'r iaith i wneud cystadleuaeth sy'n berthnasol iddyn nhw… yn llefaru, canu, beth bynnag.
Mae 'na rywbeth ar gyfer pawb sy'n dysgu Cymraeg.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- O Lundain, i Wrecsam, i'r Bala er mwyn sgwrsio'n Gymraeg
- Dros 20,000 yn dysgu Cymraeg y llynedd wrth i niferoedd dyfu eto






