Skip to main content
Advertisement

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2029 i'w chynnal yng Ngheredigion

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2029 yn cael ei chynnal yng Ngheredigion, gan nodi canmlwyddiant sefydlu'r Urdd. Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi cyllid hyd at £500,000 i gynnal yr ŵyl yn 2029, gyda digwyddiadau a chydweithrediad lleol yn cael eu cynllunio.

·3 min read
urdd

Cadarnhad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2029 yng Ngheredigion

Mae'r Urdd wedi cadarnhau y bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yng Ngheredigion yn 2029.

Bydd y digwyddiad yn nodi canmlwyddiant sefydlu'r Urdd gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922, gan ddathlu canfed pen-blwydd Prifwyl yr Urdd.

Yn ddiweddar, cefnogodd aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion y posibilrwydd o wario hyd at £500,000 i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'r sir.

Y tro diwethaf i Geredigion gynnal yr ŵyl oedd yn Llanerchaeron, ger Aberaeron yn 2010, ac yn Llanbedr Pont Steffan yn 1999 cyn hynny.

Adroddiad a gyflwynwyd i'r cynghorwyr nododd y bydd disgwyl i'r cyngor wneud cyfraniad ariannol o £200,000 tuag at gynnal yr ŵyl.

Yn ogystal, byddai angen cyfraniad o hyd at £300,000 i sicrhau presenoldeb y cyngor ar y Maes a chostau cysylltiedig megis cau ffyrdd a gosod terfynau cyflymder dros dro.

"Felly, fe fyddai angen cyfanswm o £500,000 i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2029," meddai'r adroddiad.

Ddydd Iau, dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru:

"Rydym yn falch iawn o glywed bod aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno'n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, ar beth fydd blwyddyn arbennig iawn, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant ein prifwyl.

"Llwyddiant yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen yn 1929 yw'r sylfaen i'r hyn a welwn heddiw, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd i Geredigion am y tro cyntaf ers 2010.

"Ein bwriad yw cynnal cyfarfod cyhoeddus ar nos Iau, 18 Mehefin er mwyn dechrau ar y gwaith trefnu ar y cyd â gwirfoddolwyr lleol."

Ad (425x293)

Llanerchaeron
Disgrifiad o’r llun, Yn 2010 fe gafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ceredigion ei chynnal yn Llanerchaeron

Yn 2010 fe gafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ceredigion ei chynnal yn Llanerchaeron

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion:

"Mae'n achlysur balch iawn i Geredigion gael y cyfle i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn ystod blwyddyn ei chanmlwyddiant, sy'n atgyfnerthu'r gwreiddiau a'r cysylltiadau dwfn sydd gan Ceredigion â'r Urdd.

"Mae'r ŵyl yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r Gymraeg, y celfyddydau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda'r Urdd a chymunedau lleol i wireddu Eisteddfod gofiadwy yn 2029."

Meddai Helen Medi, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion yr Urdd:

"Mae pwyllgor rhanbarth Ceredigion yn llawenhau o glywed y newyddion cyffrous fod yr wŷl yn dychwelyd i'r sir yn 2029.

"Pa le gwell i ddathlu canfed pen-blwydd yr Eisteddfod nag yng nghwmni'r Cardis?!

"Rydym yn awchu i ddechrau ar y gwaith o gydweithio gyda'r holl randdeiliaid er mwyn sicrhau y cyfleodd a'r profiadau gorau i'n plant a'n pobol ifanc."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News